Cynnal protest i geisio achub rhaglen Geraint Lloyd
- Cyhoeddwyd
Mae tua 60 o bobl wedi bod mewn protest yn Aberystwyth yn erbyn penderfyniad i ddod â rhaglen radio i ben.
Cyhoeddwyd fis diwethaf mai Caryl Parry Jones fydd cyflwynydd newydd slot rhaglen Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru.
Mae Geraint Lloyd wedi bod yn darlledu ar Radio Cymru ers chwarter canrif, a chyflwyno'r rhaglen hwyr ers 2012.
Ond mae'r penderfyniad wedi cythruddo rhai o wrandawyr cyson y rhaglen.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru, bod "rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd," gan danlinellu fod yr orsaf yn "gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i gefn gwlad".
Ond yn ôl rhai o'r protestwyr yn Aberystwyth brynhawn Sadwrn, mae'n gam gwag.
Dywedodd Megan Jones Roberts: "Mae 'na lot o bobl yng nghefn gwlad yn gwrando ar y rhaglen yma bob nos, ac mae'n bwysig i ni ddangos cefnogaeth i Geraint.
"Ma' fe'n rhan o Radio Cymru, ma' fe'n rhan ohonon ni, y bobl gyffredin.
"Ma' fe'n rhoi cyfle i'r werin bobl i siarad gydag e... ni'n dilyn hynt a helynt y bobl yma a chael hanes y clybiau ffermwyr ifanc a phob math o bethe.
"Mae Geraint yn siarad â phob Twm, Harri a Jac a dangos cefnogaeth i gefn gwlad Cymru."
Roedd hefyd cefnogaeth i raglen Geraint Lloyd yn ystod taith tractorau yng Nghrymych fore Sadwrn.
Dywedodd y Cynghorydd Shon Rees: "I ni fel ardal ma' fe'n sioc mawr, mae Geraint wedi rhoi lot 'nôl i'r ardal yma.
"Mae'n newyddion sy'n rhoi siom i ni fel cymuned... dyn y bobl yw e, mae'n rhoi gymaint yn ôl i achlysur fel heddiw."
'Sicrhau gwerth am arian'
Yn siarad ar Newyddion S4C yr wythnos hon fe amddiffynnwyd y penderfyniad gan bennaeth gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Dafydd Meredydd.
Yn cydnabod nad oedd wedi'i synnu gyda'r ymateb i gael gwared ar raglen hwyr Geraint Lloyd, dywedodd: "Dwi'n falch bod yr ymateb yna - mae'n dangos fod gwrandawyr Radio Cymru yn hapus i leisio'u barn. Maen nhw'n wrandawyr ffyddlon, triw.
"Ond hefyd mae'n rhaid i ni fod yn realistig ac mae'n rhaid i ni fod yn onest efo ni'n hunan. Efo'r wasgfa ariannol sydd o ran y ffi drwydded yn rhewi, o ran chwyddiant... mae'n rhaid i ni sicrhau gwerth am arian gora' i wrandawyr Radio Cymru."
Mewn datganiad dywedodd BBC Radio Cymru: "Mae BBC Radio Cymru fel pob rhan o'r BBC, yn gorfod edrych o'r newydd ar ei hallbwn a sicrhau y gwerth gorau am arian i'n cynulleidfa.
"Tra bo'r orsaf yn wynebu y dyfodol heriol yma o sefyllfa gref gyda ffigyrau gwrando dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod ar eu huchaf ers 12 mlynedd mae'n rhaid i bob rhan o'n hamserlen ddenu y gynulleidfa fwyaf posibl. Ac o'r herwydd mae'n rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd.
"Wedi dweud hynny, does dim dwywaith fod Radio Cymru yn gyfan gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i gefn gwlad ac i'r celfyddydau.
"Mae bywyd cefn gwlad eisoes yn cael ei adlewyrchu ar raglenni fel Troi'r Tir, Bore Cothi, Ifan Evans, Galwad Cynnar a'r Bwletin Amaeth dyddiol.
"Byddwn yn parhau i drafod materion sy'n effeithio ar gefn gwlad ar ein rhaglenni newyddion yn ogystal ag archwilio pob cyfle i ehangu'r ddarpariaeth yma ar ystod o raglenni yn y dyfodol.
"Rydym hefyd yn ymgynghori gyda chynrychiolwyr o'r Clybiau'r Ffermwyr Ifanc gan drafod sut y gallwn gynhyrchu cynnwys sy'n adlewyrchu'r mudiad i gynulleidfa deilwng yn oriau brig y gwasanaeth ac mae cynlluniau i barhau i ddarlledu uchafbwyntiau Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ym mis Tachwedd yn ôl yr arfer."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022