Aur arall i Zoe Backstedt ym mhencampwriaeth y byd
- Cyhoeddwyd
![Zoe Backstedt](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11DFA/production/_126801237_gettyimages-1243463203.jpg)
Roedd Zoe Backstedt eisoes wedi ennill medal aur yng nghategori iau y ras yn erbyn y cloc
Mae'r Gymraes Zoe Backstedt wedi sicrhau mwy o lwyddiant ym Mhencampwriaeth Seiclo Ffordd y Byd yn Awstralia.
Wedi ennill y ras ar y ffordd yn y categori iau yn 2021, llwyddodd i efelychu'r un gamp ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 18 oed.
Ymosododd y seiclwr o ardal Pont-y-clun yn gynnar i amddiffyn ei theitl, gan orffen y cwrs 67km mewn awr a 47 munud a phum eiliad - dros ddau funud yn gynt na Eglantine Rayer o Ffrainc.
Yn dilyn ei buddugoliaeth dywedodd: "Roedd cymaint o bobl allan ar y cwrs yn gweiddi fy enw a phen-blwydd hapus, yn enwedig ar y ddringfa.
"Dyna le roeddwn i ei angen fwyaf."
Llwyddodd Gymraes arall oedd yn cystadlu yn y ras, Awen Roberts, i orffen yn y 16eg safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022