Y Trallwng: Cyfarfod i drafod dyfodol safle'r Ambiwlans Awyr

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth tua 60 o bobl i'r cyfarfod nos Wener i drafod dyfodol y safle yn Y Trallwng

Daeth tua 60 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Y Drenewydd nos Wener wrth i ymgyrchwyr wrthwynebu cynlluniau i gau safle'r Ambiwlans Awyr yn y canolbarth.

Pe bai'r cynlluniau'n mynd yn eu blaenau, byddai'r hofrennydd a'r cerbyd ymateb brys yn Y Trallwng yn cael eu symud i safle yn y gogledd.

Ond mae'r penderfyniad wedi cythruddo ymgyrchwyr, sydd wedi datgan "pryder gwirioneddol".

Yn ôl yr elusen, canoli'r ddarpariaeth yn y gogledd a'r de yw'r "ffordd fwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau".

Mae'r gwrthwynebwyr yn dweud ei bod hi'n hanfodol bod y ganolfan yn aros yn Y Trallwng a bod y gwasanaeth yn "hynod bwysig i Bowys" oherwydd natur wledig y sir.

Mae bron i 12,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein a miloedd o lofnodion eraill ar ddeisebau papur.

Dywedodd Aelod y Senedd Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Russell George wrth y cyfarfod ei bod yn debygol y bydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) yn gwneud penderfyniad terfynol cyn diwedd y flwyddyn, ond y byddai unrhyw newidiadau yn cymryd dwy i dair blynedd i'w gweithredu.

Galwodd hefyd ar AAC i ryddhau'r data a ddefnyddiwyd er mwyn cynnig yr ad-drefnu, fel bod modd eu hasesu yn annibynnol.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Joy Jones ddechreuodd y ddeiseb ar-lein

Cafodd y ddeiseb ar-lein ei lansio gan y Cynghorydd Joy Jones o'r Drenewydd - ble fu'r cyfarfod yn cael ei gynnal.

"Mae angen i ni roi'r cyfle i'r cyhoedd ddweud pam ei bod yn bwysig i'r ardal hon i gadw'r Ambiwlans Awyr a'r cerbydau ymateb cyflym," meddai cyn y cyfarfod.

"Yng nghanolbarth Cymru, ry'n ni'n cael trafferth gydag ambiwlansys sy'n gorfod mynd dros y ffin i Swydd Amwythig neu'n bellach i ffwrdd, lle maen nhw'n aml yn gallu eistedd am oriau lawer, a methu dod yn ôl i mewn i'r sir i helpu pobl sydd angen cymorth."

Ond mae ymddiriedolwyr AAC yn credu y byddai ad-drefnu'r canolfannau yn eu galluogi i helpu mwy o bobl - gan gynnwys trigolion y canolbarth.

Ar hyn o bryd mae pedair canolfan - yn Y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd.

Byddai'r cynnig yn golygu uno'r Trallwng a Chaernarfon i un lleoliad yng ngogledd Cymru, a chynnydd mewn oriau gweithredu o'r ganolfan newydd o 12 i 18 awr y dydd.

Mwy o deithiau

Mae AAC - oedd ddim wedi gyrru cynrychiolydd i'r cyfarfod cyhoeddus nos Wener - yn credu y byddai'r newidiadau yn golygu y gallai'r gwasanaeth "fynychu hyd at 583 o deithiau ychwanegol bob blwyddyn".

Mae'r ambiwlansys awyr yn cario meddygon adrannau brys sy'n gallu rhoi gofal o ansawdd uwch i gleifion yn y fan a'r lle. Dywed AAC bod y gwasanaeth bellach fel "mynd â'r ysbyty at y claf".

Dywedodd Mark James, un o ymddiriedolwyr yr elusen: "Mae pobl yn meddwl bod yr hofrennydd yn Y Trallwng dim ond yn cyfro'r canolbarth - wel dim ond tua 30% o'r galwadau mae'r hofrennydd yna yn ymateb iddyn nhw sydd yn y canolbarth, mae'n mynd dros Gymru gyfan."

Ychwanegodd Mr James nad yw'r ad-drefnu yn ymwneud â thorri costau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark James yn dweud y bydd y newidiadau yn cryfhau'r gwasanaeth

Tra bod dadansoddiad AAC yn awgrymu cynnydd posib yn y cleifion sy'n cael eu helpu gan y gwasanaeth ym mhob sir yng Nghymru, mae gwrthwynebwyr yn ofni y bydd ardaloedd trefol yn elwa mwy nag ardaloedd gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan sy'n cynrychioli ardal yn nyffryn Dyfi ger Machynlleth: "'Da ni yn clywed fod yna fap sy' ddim yn gyhoeddus eto efo llinell arno o Langrannog hyd at Bumlumon, yn cynnwys Dyffryn Dyfi, fyny tuag at Harlech a Phen Llŷn a gorllewin Môn..."

Dywedodd mai'r bobl yn yr ardaloedd yma "fydd ar eu colled, lle bydd yn cymryd yn hirach i ymateb i alwadau".

Ond dywed Mark James bod y gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn cyrraedd pob ardal, ac y bydd rhan o'r ad-drefnu yn cynnwys technoleg hedfan yn y nos newydd mewn o leiaf un hofrennydd ychwanegol, fydd yn cryfhau'r gwasanaeth.

Achub bywyd

Pan oedd yn fachgen naw oed, dywed Brian Jackaman o'r Drenewydd, fod ei fywyd wedi ei achub gan ambiwlans awyr Y Trallwng. Fe dorrodd ei benglog ar ôl cwympo oddi ar feic ar ffordd anghysbell.

Cafodd ei hedfan i ysbyty yn Birmingham lle treuliodd ddyddiau mewn uned gofal dwys.

Mae Brian wedi codi cannoedd o bunnoedd i AAC - ac yn dweud y bydd yn parhau i wneud hynny - ond mae'n poeni am y newidiadau arfaethedig: "Gallwn i fod wedi marw oni bai am gyflymder ac arwriaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

"Does dim ffordd y byddai ambiwlans cyffredin wedi gallu cyrraedd safle'r ddamwain."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bywyd Brian Jackaman ei achub gan yr Ambiwlans Awyr pan oedd yn fachgen naw oed

Ambiwlans Awyr Cymru yw'r elusen fwyaf o'i math yn y DU.

Tra bod gwasanaeth iechyd Cymru yn ariannu'r meddygon sy'n trin y cleifion, mae'r hofrenyddion a'r cerbydau brys yn cael eu hariannu gan roddion elusennol.

Mae angen codi £8m bob blwyddyn i'w cadw yn weithredol.

Canslo taliadau i'r elusen

Ers i'r newyddion dorri am y cynllun i symud o'r Trallwng, mae rhai pobl ar gyfryngau cymdeithasol wedi bygwth rhoi'r gorau i godi arian i'r elusen.

Dywed Joy Jones: "Dwi'n meddwl ei fod yn bryderus iawn bod pobl wedi canslo eu debydau uniongyrchol.

"Ond dwi'n deall pam, am eu bod yn teimlo eu bod yn cael cam, ar ôl i lawer o bobl yn yr ardal gasglu at yr elusen ers blynyddoedd."

Dywed Mark James o AAC: "Ry'n ni wedi gofyn dro ar ôl tro i bobl ymddiried yn yr hyn ry'n ni'n ei gyflawni, a sut ry'n ni'n bwriadu ehangu ein gwasanaethau.

"A dyna'n syml beth ry'n ni'n ei wneud eto, gallwn weld ffordd ymlaen a fyddai'n gwella'r gwasanaeth i Gymru gyfan."

Pynciau cysylltiedig