Cau safle Ambiwlans Awyr 'y gwahaniaeth rhwng byw a marw'

  • Cyhoeddwyd
Rhys LewisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mawr yw diolch Rhys Lewis i'r ambiwlans awyr

"Dyma'r gwahaniaeth rhwng byw a marw, i lot o bobl," meddai cyn-glaf o Fachynlleth a gafodd ddefnydd o'r ambiwlans awyr yn dilyn damwain ar fferm wyth mlynedd yn ôl.

Ar Newyddion S4C bu Rhys Lewis yn ymateb i gynlluniau Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru i gau eu safle yn Y Trallwng a chanoli'r ddarpariaeth yn y gogledd a'r de.

Mae gwleidyddion yn y canolbarth hefyd wedi datgan eu pryder am effaith y penderfyniad ar yr ardal.

Fe ddywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr mai dyma'r "ffordd fwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau presennol".

'Clywed yr hofrennydd'

Ar 9 Ebrill 2014, tra'n torri coed ar y fferm, fe gwympodd coeden ar Rhys Lewis gan dorri ei gefn.

Ers hynny, mae wedi ei barlysu o'i ganol i lawr.

"Dwi'n cofio gweiddi ar dad. Fo'n rhedeg draw ata i, ac o'n i'n gwybod yn syth bod rywbeth mawr yn bod," meddai.

"'Na'r darn anoddaf dwi'n credu, o'dd dad yn gorfod gadael fi'n lle o'n i, i allu mynd fyny i'r tŷ ffarm i allu ffonio am ambiwlans ar y pryd.

"Dwi'n siŵr o fewn 12 i 15 munud oeddan ni'n clywed yr hofrennydd ar ei ffordd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhys Lewis yn cryfhau wedi'r ddamwain

"Mae clywed yr help yna'n cyrraedd yn help ofnadwy.

"Mae'r ffaith bo' nhw'n meddwl cau yr orsaf yn hollol boncyrs. Mae o'r gwahaniaeth rhwng byw a marw, i lot o bobl."

Ychwanegodd: "Mae o'n mynd i fod yn golled enfawr i'r ardal. 'De ni mewn ardal wledig dros ben lle does dim llawer iawn o gymorth meddygol fel mae hi.

"Bu'n rhaid i ffrind i mi aros naw awr am ambiwlans ffordd y llynedd. Petai hynny wedi digwydd yn fy achos i, byddai pethau wedi bod lot, lot anoddach."

Mwy o hediadau yn y dyfodol

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru'n dweud y gallai'r newid olygu 583 yn fwy o hediadau ar draws Cymru dros y flwyddyn - 26 o'r rheiny ym Mhowys.

Ar hyn o bryd mae'r ambiwlans awyr yn cwrdd â 72% o'r galw am y gwasanaeth, gyda hynny'n cynyddu i 88% petai'r safle'n symud i'r gogledd.

Doedd y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru methu cadarnhau ble yn y gogledd fyddai'r lleoliad newydd, gan ddweud bod "trafodaethau yn parhau".

Yr ymateb yn wleidyddol ydy bod y newid yn fuddiol i weddill Cymru, ar draul cleifion y canolbarth fydd yn gorfod aros yn hirach am ofal.

'Sioc aruthrol'

Mae dros 9,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r newid, a bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Y Drenewydd fis nesaf.

Mae'r gymdeithas amaethyddol hefyd wedi datgan eu pryder, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud eu bod wedi'u "llorio" gan y penderfyniad.

Dywedodd Emyr Wyn Davies o gangen Maldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru bod y penderfyniad yn "sioc aruthrol".

"Mae wedi dod yn sioc aruthrol i ni yn y gymuned ac yn y sir oherwydd faint rydym ni yn dibynnu ar y gwasanaeth sydd ganddyn nhw yn y canolbarth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Emyr Wyn Davies yn dweud y gallai nifer fawr o bobl gael eu heffeithio gan y newidiadau

"Mae'n rhaid iddyn nhw ailystyried. O 'nabod pobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth ac sydd wedi cael eu heffeithio, mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli pa mor bwysig ac hanfodol ydy hynny i'r gymuned, i'r sir, ac i bobl Sir Drefaldwyn.

"Mae 'na hefyd bobl yn ehangach, y tu allan i Sir Drefaldwyn sy'n mynd i gael eu heffeithio."

Mewn datganiad, mae'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru'n dweud bod y gwaith dadansoddi yn awgrymu'r ffyrdd "mwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau presennol y gwasanaeth".

Mae'n golygu bod dau hofrennydd ar gael am oriau estynedig, gyda'r ddarpariaeth yn cynyddu o 12 awr i 18 awr.

"Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi derbyn gwybodaeth fel rhan o ddadansoddiad manwl o'r radd flaenaf sy'n datgelu y gallai fynychu dros 500 yn fwy o deithiau achub bywyd ledled Cymru bob blwyddyn," meddai'r datganiad.

"Mae'r dadansoddiad yn un o'r rhai mwyaf cynhwysfawr a gynhelir gan unrhyw ambiwlans awyr yn y byd ac mae'r canlyniadau'n dangos, gydag ad-drefnu lleoliadau a phatrymau sifft meddygol, y gellid cyflawni'r canlynol:

  • Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fynychu hyd at 583 o deithiau ychwanegol bob blwyddyn;

  • Bydd pob sir yng Nghymru yn gweld cynnydd yn nifer y teithiau a fynychir gan Ambiwlans Awyr Cymru;

  • Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fynychu hyd at 26 yn fwy o deithiau ym Mhowys bob blwyddyn."

Pynciau cysylltiedig