Dewis Rhun ap Iorwerth fel ymgeisydd am San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi cynrychioli etholaeth Ynys Môn ym Mae Caerdydd ers 2013

Mae Aelod Senedd Cymru ar gyfer Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, wedi cael ei ddewis gan gangen leol Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd yr etholaeth ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

Bydd yn ceisio cipio'r sedd yn San Steffan oddi ar y Ceidwadwyr, wedi i Virgina Crosbie ei hennill yn yr etholiad diwethaf yn 2019.

Mae Mr ap Iorwerth, cyn-newyddiadurwr gyda BBC Cymru, wedi cynrychioli'r etholaeth ym Mae Caerdydd ers 2013.

Fe gyhoeddodd fis Gorffennaf ei fod yn bwriadu ymgeisio am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer y sedd yn San Steffan.

Yn ôl rheolau'r Senedd, byddai'n rhaid iddo ymddiswyddo fel Aelod o'r Senedd pe bai'n cael ei ethol i San Steffan.

'Llais Môn a Chymru yn San Steffan'

"Mae cynrychioli Ynys Môn yn y Senedd yn anrhydedd enfawr, ond wrth i'n Senedd ein hunain barhau i dyfu a chryfhau, mae'n allweddol i sicrhau bod llais Môn a Chymru yn cael ei glywed yn San Steffan," meddai.

Dyw Plaid Cymru heb ennill sedd Ynys Môn yn San Steffan ers i Albert Owen ei chipio i'r blaid Lafur yn 2001.

Ni wnaeth Mr Owen sefyll yn yr etholiad diwethaf, wrth i Ms Crosbie gipio'r sedd i'r Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 1,968.

Llafur a ddaeth yn ail bryd hynny, gyda Phlaid Cymru yn drydydd.