Rhun ap Iorwerth i ymgeisio am sedd yn San Steffan
- Cyhoeddwyd
Mae un o Aelodau Senedd Plaid Cymru wedi cadarnhau ei fwriad i ymgeisio am enwebiad y blaid ar gyfer sedd yn San Steffan.
Mae Rhun ap Iorwerth, sydd wedi cynrychioli Ynys Môn ym Mae Caerdydd ers 2013, wedi cadarnhau ei obaith i fod yn Aelod Seneddol nesaf yr ynys.
Y Ceidwadwyr sy'n dal y sedd yn San Steffan ers i Virginia Crosbie sicrhau mwyafrif o 1,968 dros y Blaid Lafur.
Nid yw Plaid Cymru wedi dal y sedd seneddol ers 2001, er iddi fod yn sedd darged barhaus.
Ond yn ôl Rhun ap Iorwerth - sydd hefyd yn gyd-ddirprwy arweinydd ei blaid gyda Sian Gwenllian - mae'n amser i "uno'r ynys".
'Rhaid i ni gael llais cryf yn San Steffan'
Dydy'r broses o enwebu ymgeisydd y blaid ar gyfer y sedd San Steffan heb gychwyn eto.
Ond cadarnhaodd Mr ap Iorwerth wrth Cymru Fyw y bydd yn ceisio am yr enwebiad pan fydd yn briodol.
"Mae 'na lot wedi gofyn i mi dros y blynyddoedd [i sefyll], ond i mi y blaenoriaeth oedd gweithio drwy'r Senedd yng Nghymru i gael y gorau i Gymru a'm etholwyr ar Ynys Môn, a dyna'r flaenoriaeth o hyd," meddai.
"Ond mae hi wedi dod yn amlwg i mi hefyd, yn enwedig yn y cyfnod diweddar yma, bod rhaid i ni gael llais cryf yn San Steffan i warchod ein buddiannau ni rhag yr ymgais gyson yma i wanhau ein llais ni.
"'Da ni angen ein llais ni yn Llundain yn hytrach na'r ffordd arall rownd, yn gweithio ochr yn ochr a pharchu Senedd Cymru.
"Dwi wedi dod i'r casgliad fy mod yn barod i wneud hynny."
Camu i lawr o'r Senedd
Sicrhaodd Rhun ap Iorwerth fwyafrif o dros 10,000 yn etholiad Senedd Cymru 2021, ond dywedodd y byddai'n sefyll i lawr fel Aelod o'r Senedd os byddai'n cael ei ethol i San Steffan.
Yn Etholiad Cyffredinol 2019 fe etholwyd pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru, er fod un o'r rheiny, Jonathan Edwards, erbyn hyn yn eistedd fel aelod annibynnol.
Mae ffiniau etholaeth San Steffan Ynys Môn bellach wedi eu hamddiffyn rhag unrhyw ad-drefnu oherwydd statws yr etholaeth fel ynys.
Pan ofynnwyd i Mr ap Iorwerth os oedd y bwriad o newid ffiniau etholaethau presennol y Senedd yn ffactor, dywedodd: "Does dim amheuaeth bod cynrychioli Ynys Môn yn bwysig iawn i mi, ond mae hwn yn fwy na hynny.
"Pe bawn yn cael fy ethol i San Steffan - rhywbeth sydd yn nwylo aelodau Plaid Cymru ac etholwyr Ynys Môn - mi fyddwn yn camu lawr o'r Senedd yng Nghaerdydd.
"I mi mae'n hollol glir mai ein blaenoriaeth yw adeiladu ein democratiaeth ni... rydym ar fin mynd fewn i gyfnod o'i gryfhau ymhellach felly does 'na ddim math o awgrym yma mod i'n ystyried San Steffan yn bwysicach, ac mi fyddai unrhyw un sydd yn fy adnabod i yn gwybod hynny."
Mae Virginia Crosbie wedi bod yn gefnogol dros orsaf niwclear newydd ar yr ynys, gan hefyd ddadlau dros sefydlu porthladd rydd yng Nghaergybi.
Cyhoeddodd yr wythnos ddiwethaf ei bod yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn Swyddfa Cymru.
Dywedodd Ms Crosbie yn ei llythyr at Boris Johnson ei bod yn ymddiswyddo oherwydd "nifer yr honiadau o amhriodoldeb ac anghyfreithlondeb - nifer ohonynt yn ymwneud â Downing Street a'ch arweinyddiaeth chi".
Yn ddiweddarach, fe ymddiswyddodd Mr Johnson fel arweinydd y Blaid Geidwadol yn sgil ymddiswyddiad nifer o Aelodau Seneddol Torïaidd eraill.
Mewn ymateb i gyhoeddiad Mr ap Iorwerth, dywedodd Ms Crosbie: "Rwy'n dymuno'n dda i Rhun gyda'i uchelgeisiau gwleidyddol.
"Byddaf yn parhau â'r gwaith caled a ddechreuais ddwy flynedd a hanner yn ôl pan ddeuthum yn AS Ynys Môn.
"O ganlyniad i'r gwaith caled hwnnw fe wnaeth Llywodraeth y DU, yn gynharach eleni, glustnodi Wylfa fel ei hoff safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd. Bydd hyn yn hybu'r economi leol ac yn adfywio Ynys Môn."
Ychwanegodd fod y "dyfodol yn ddisglair i genedlaethau o deuluoedd lleol" a'i bod yn "benderfynol o barhau i ddarparu swyddi, cyflogaeth fedrus a buddsoddiad i Ynys Môn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019