Gwobr Arwr Tawel y BBC 2023 - Rheolau'r Wobr

  • Cyhoeddwyd

Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2023 - Rheolau'r Wobr

1. Mae unrhyw un sy'n byw yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) ac sy'n 16 oed neu'n hŷn ar 1 Ionawr 2023 yn gymwys i gael ei enwebu, ac eithrio enillwyr blaenorol Gwobrau Arwr Tawel Get Inspired y BBC neu Wobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC, gweithwyr y BBC neu Grŵp y BBC neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r Gwobrau, ynghyd â'u perthnasau agos. Bydd angen caniatâd rhieni ar rai rhwng 16 a 17 oed a gaiff eu henwebu. Gellir gofyn am brawf oedran, hunaniaeth, cymhwyster a chaniatâd (lle bo hynny'n berthnasol).

2. Mae'n rhaid i'r enwebai:

(i) naill ai fod yn unigolyn, dau unigolyn gyda'i gilydd yn ymwneud â'r un gweithgaredd, neu'n grŵp chwaraeon neu weithgaredd sydd wedi'i drefnu'n ffurfiol ac sy'n ymwneud â'r un gweithgaredd;

(ii) helpu amaturiaid i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol neu chwaraeon, neu gymryd rhan mewn gwaith datblygu cymunedol trwy chwaraeon (ac mae'n rhaid i'r gweithgaredd corfforol neu'r chwaraeon fod â chorff llywodraethol cydnabyddedig).

(iii) cynnig cymorth nad yw fel arfer yn rhan o'u swydd nac yn digwydd fel arfer yn eu man gwaith oni bai fod cymorth o'r fath yn mynd y tu hwnt i'w tasgau gwaith cyflogedig, ac os felly bydd angen esboniad;

(iv) helpu'n wirfoddol heb unrhyw wobr ariannol;

(v) bod yn cymryd rhan mewn ymdrech chwaraeon yn bennaf; os codir arian drwy'r ymdrech honno, ni chaniateir i'r enwebai fod â chysylltiad â'r elusen sydd wedi elwa;

(vi) haeddu Gwobr y BBC ym marn y sawl sy'n enwebu;

(vii) peidio â dwyn anfri ar y BBC (yn ôl disgresiwn y BBC yn unig); a

(viii) bod wedi cydsynio i gael ei enwebu neu fod rhieni wedi cydsynio.

3. Gellir cyflwyno enwebiadau:

Drwy'r ffurflen ar-lein ar . Gall enwebiadau fod ar ffurf ysgrifenedig neu ffeil fideo.

Derbynnir enwebiadau o 07:00 ddydd Mercher 4 Hydref 2023 ac mae'n rhaid eu derbyn erbyn 23:59 (amser y DU) ddydd Llun 30 Hydref 2023 fan bellaf. Mae cyfyngiad ar amser pob enwebiad. Os bydd y fideo yn fwy na dau funud, yna dim ond y dau funud cyntaf fydd yn cael ei asesu. Ar gyfer enwebiadau ysgrifenedig, dim ond y 800 gair cyntaf fydd yn cael ei asesu.

4. Rhaid i bob enwebiad gael ei gyflwyno ar ffurflen swyddogol ar-lein y BBC, sydd ar gael drwy . Does dim modd cynnwys mwy na dau berson mewn enwebiad. Os enwebir grŵp o dri neu fwy, bydd yr enwebiad hwnnw'n cael ei ddiystyru. Dylai pobl sy'n enwebu ddatgan unrhyw berthynas broffesiynol neu bersonol gyda'r unigolyn neu'r unigolion a enwebir.

5. Bydd y BBC yn penodi panel a fydd yn dewis enillydd ar gyfer pob un o'r 15 o wledydd a rhanbarthau'r BBC. Yna, bydd yr enillwyr rhanbarthol hyn yn cael eu cyflwyno i'r beirniaid terfynol a fydd yn pennu'r enillydd cyffredinol. Dyma'r meini prawf ar gyfer llunio'r rhestr fer:

(i) Y dylanwad mae'r enwebai wedi'i gael ar unigolion a/neu ei gymuned leol;

(ii) Y dylanwad mae'r enwebai wedi'i gael ar gymunedau ar lefel ranbarthol/genedlaethol y tu hwnt i'w gymuned leol

(iii) Cyfraniad yr enwebai ar lawr gwlad at ei chwaraeon neu weithgaredd corfforol; a

(iv) Yr aberth neu'r ymrwymiad personol.

(v) Cyfraniad yr enwebai at bobl sydd ddim yn ymwneud â'i chwaraeon neu weithgaredd corfforol

Bydd gweithredoedd sy'n gymwys o ran meini prawf (i) - (v) yn cael eu hystyried yn bennaf ar sail y deuddeg mis blaenorol. Bydd gweithgareddau codi arian yn gymwys i'w hystyried yn y wobr ond nid yw codi arian ei hun yn faen prawf ac ni fydd yn cael credyd ychwanegol wrth lunio rhestr fer o enwebiadau neu wrth ddethol yr enillydd.

6. Efallai y gofynnir i'r rhai sydd ar y rhestr fer ddatgelu manylion unrhyw euogfarnau a throseddau (gan gynnwys unrhyw honiadau neu ymchwiliadau sydd wrthi'n cael eu cynnal). Ni fydd y BBC yn gofyn i'r rheini sydd ar y rhestr fer roi gwybodaeth am euogfarnau sydd wedi darfod. Os oes angen rhoi'r wybodaeth hon i'r BBC bydd gofyn i'r enwebai lofnodi ffurflen ganiatâd ar adeg y datgelu. Os gofynni'r i'r enwebeion am yr wybodaeth hon, rhaid iddynt roi gwybod i'r BBC am unrhyw newid i'r hyn a ddatgelwyd hyd at yr adeg pryd y cyhoeddir yr enillydd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac, fel gyda phob gwybodaeth bersonol, yn unol â'r Polisi Preifatrwydd.

7. Efallai y bydd y BBC yn cynnal gwiriadau cefndirol ar y rhai sydd ar y rhestr fer (gan gynnwys chwilio ar wefannau cyhoeddus a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol). Os oes angen hyn ar y BBC bydd gofyn i'r enwebai lofnodi ffurflen ganiatâd ar y pryd. Bydd yr wybodaeth a ganfyddir neu a allai fod wedi cael ei datgelu gan yr ymgeiswyr eu hunain yn llywio'r penderfyniad wrth ddewis y rhai a fydd yn y rownd olaf (bydd hyn yn ôl disgresiwn y panel beirniadu yn unig).

8. Yna, bydd panel o feirniaid cenedlaethol yn cwrdd i ddewis enillydd cyffredinol yn seiliedig ar y meini prawf a nodwyd uchod yn adran pump ac unrhyw ddogfennau ategol am bob un ohonynt. Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o'r BBC, ffigurau blaenllaw ym myd chwaraeon, cynrychiolwyr o'r sector gwirfoddoli chwaraeon ac un o enillwyr blaenorol Arwr Tawel y BBC, yn dibynnu ar bwy sydd ar gael. Bydd gwiriwr annibynnol yn goruchwylio'r broses feirniadu.

9. Cyhoeddir enw'r enillydd cyffredinol yn fyw ar raglen Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2023 ar BBC One, a bydd yr enillwyr rhanbarthol ac un gwestai yn cael gwahoddiad i fod yn bresennol. Bydd y BBC yn talu costau teithio rhesymol ar gyfer pob enillydd ac un gwestai, a chytunir ar dreuliau o'r fath gyda'r BBC cyn archebu.

10. Mae penderfyniad y beirniaid ynghylch yr enillydd yn derfynol. Ni fydd unrhyw ohebu'n digwydd mewn perthynas â'r gwobrau.

11. Bydd yr enillydd yn derbyn tlws cenedlaethol Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2023. Nid oes dewis ariannol yn lle'r wobr ac nid oes modd gwerthu na throsglwyddo'r wobr o dan unrhyw amgylchiadau. Ni chaniateir gwneud unrhyw elw masnachol drwy ddefnyddio neu gyfeirio at frand y BBC, y wobr ei hun nac unrhyw elfen arall o'r broses wobrwyo hon.

12. Mae'n rhaid i bob enillydd gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gwobrwyo os oes angen.

13. Mae'r BBC yn cadw'r hawl i wneud y canlynol:

(i) newid yr amseroedd agor a chau ar gyfer enwebiadau, a newid dyddiad cyhoeddi'r gwobrau;

(ii) anghymwyso unrhyw enwebai sy'n torri'r rheolau neu sydd wedi gweithredu'n dwyllodrus mewn unrhyw ffordd; a/neu

(iii) canslo neu amrywio'r gwobrau neu unrhyw un o'r prosesau neu'r meini prawf dethol, ar unrhyw adeg, os yw o'r farn lwyr ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny, neu os oes amgylchiadau y tu allan i'w reolaeth.

14. Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fethiant neu ddiffyg technegol neu unrhyw broblem arall a allai olygu nad yw enwebiad yn cael ei gofrestru'n briodol.

15. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod (boed difrod neu golledion o'r fath wedi'u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall) gan gynnwys colled neu siom ariannol neu i enw da.

16. Tybir y bydd y sawl sy'n enwebu a'r enwebeion wedi derbyn y rheolau hyn ac wedi cytuno i ymrwymo iddynt.

17. Hyrwyddwr y gwobrau yw'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig ac mae'r rheolau hyn yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.