Gwobr Arwr Tawel y BBC 2023 - Hysbysiad Preifatrwydd

  • Cyhoeddwyd

Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2022 - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'n bwysig iawn i ni eich bod chi'n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni'n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol ond heb ei gydnabod i chwaraeon. Gallwch enwebu gwirfoddolwyr eithriadol sy'n ymwneud â chwaraeon yn eich cymuned, gan gydnabod eu heffaith dros y 12 mis diwethaf.

Gallwch enwebu drwy ein ffurflen ar-lein neu drwy bbc.co.uk/unsunghero, lle mae modd llwytho ffurflen i lawr, ei llenwi a'i hanfon dros e-bost i unsunghero@bbc.co.uk.

Os byddwch yn defnyddio'r ffurflen ar-lein, bydd tîm cynhyrchu'r BBC yn casglu'r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.

Bydd angen caniatâd yr enwebai neu rieni/gwarcheidwaid yr enwebai arnoch os yw'r enwebai dan 18 oed.

Mae'n rhaid i'r sawl sy'n ennill gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gwobrwyo os oes angen. Efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad chi neu gyfraniad eich enwebai at ddibenion hyrwyddo ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y BBC.

Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad ar yr awyr, gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio'r cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

I gael gwybodaeth am sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol chi neu eich enwebai pan fyddwch chi'n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yma.

Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?

Mae dau fath o ddata personol: data personol a data categori arbennig. Mae data categori arbennig yn ddata personol hefyd, ond rhaid i'r BBC ddilyn camau cydymffurfio ychwanegol er mwyn prosesu data o'r fath. 

Rhaid i'ch enwebai fod yn 16 oed neu'n hŷn ar 1af Ionawr 2022 i gael ei enwebu.

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu'r data personol canlynol amdanoch chi:

  • Enw llawn

  • Cod post

  • Cyfeiriad E-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Eich cyflwyniad (ffeil fideo neu ffurflen ysgrifenedig) sy'n cynnwys eich barn a'ch rhesymau dros enwebu rhywun

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu'r data personol canlynol am eich enwebai:

  • Enw llawn

  • Cod post

  • Rhanbarth y DU lle mae'n byw

  • Cyfeiriad E-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Y llwyddiannau a'r straeon personol am eich enwebai rydych chi'n eu darparu

Os yw eich enwebai dan 18 oed, byddwn hefyd yn casglu ac yn prosesu'r data personol canlynol am ei riant/gwarcheidwad, er mwyn cael caniatâd ar gyfer enwebiad ei blentyn:

  • Enw llawn

  • Cyfeiriad E-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

Gan ddibynnu ar gynnwys eich cyflwyniad, byddwn hefyd yn casglu'r data categori arbennig canlynol am eich enwebai:

  • Tarddiad hiliol neu ethnig

  • Credoau crefyddol neu athronyddol

  • Gwybodaeth iechyd

  • Cyfeiriadedd rhywiol

Gwiriadau Cefndir

Bydd y BBC yn cynnal gwiriadau cefndir ar yr enwebeion sydd ar y rhestr fer, fel gwiriadau sgrinio ar-lein a chyfryngau cymdeithasol ac archwiliadau'r DBS. Bydd y BBC yn defnyddio'r data personol sy'n cael ei brosesu fel rhan o archwiliadau cefndir i wirio eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Efallai na fydd gwybodaeth a ddaw i'r amlwg fel rhan o archwiliad cefndir yn golygu bod rhywun yn cael ei wahardd o'r gwobrau, ond gallai peidio â datgelu gwybodaeth o'r fath, a ganfyddir yn ddiweddarach, arwain at eu heithrio o'r gwobrau.

Pwy yw'r Rheolydd Data?

Y BBC yw "rheolydd data" eich data personol. Mae hyn yn golygu mai'r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol

Mae'r ffordd y mae'r BBC yn prosesu eich data personol wedi'i seilio'n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Y sail gyfreithiol y mae'r BBC yn prosesu eich data categori arbennig arni yw budd cyhoeddus sylweddol. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddan. Mae hyn yn gyson â dibenion cyhoeddus ehangach y BBC o dan ei Siarter Frenhinol lle dylai'r BBC:

"Gefnogi dysgu ar gyfer pobl o bob oed: dylai'r BBC helpu pawb i ddysgu am wahanol bynciau mewn ffyrdd y byddant yn eu hystyried yn hygyrch a difyr sy'n eu hysbrydoli ac yn eu herio. Dylai'r BBC ddarparu cynnwys addysgol arbenigol er mwyn helpu i gefnogi dysgu plant a phobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig. Dylai annog mwy o bobl i archwilio pynciau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd drwy feithrin partneriaethau â sefydliadau ym meysydd addysg, chwaraeon a diwylliant."

Rhannu eich data personol

Mae'r BBC yn gweithio gyda'n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy'n ein helpu i ddarparu rhai o'n gwasanaethau. Mae'r partneriaid hyn yn defnyddio'ch data personol ar ran y BBC yn unig, ac nid yn annibynnol ar y BBC.

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu'n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data personol ar gyfer enwebiadau aflwyddiannus am hyd at naw deg (90) diwrnod ar ôl cyhoeddi enw'r enillydd.

Byddwn yn cadw data personol ar gyfer enwebiadau buddugol am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o'r data personol mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.

  • Mae gennych hawl i ofyn i'r data personol rydym yn ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i'r hawl hon a allai roi'r hawl i'r BBC wrthod eich cais.

  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.

  • Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi'n poeni am y ffordd mae'r BBC wedi delio â'ch data personol, gallwch godi'r pryder gyda'r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/, dolen allanol.

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio'r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydym ni'n defnyddio'ch data personol yn newid yn sylweddol.

Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC 2023 - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'n bwysig iawn i ni eich bod chi'n ymddiried ynom. Mae hyn yn golygu bod y BBC wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich data personol. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydyn ni'n defnyddio data personol o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydyn ni'n casglu ac yn defnyddio data personol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â chyfraith diogelu data.

Pam ydyn ni'n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae Gwobr Arwr Tawel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad i chwaraeon sy'n gyfraniad sylweddol ond heb ei gydnabod. Gallwch enwebu gwirfoddolwyr eithriadol sy'n ymwneud â chwaraeon yn eich cymuned, gan gydnabod eu dylanwad dros y deuddeg (12) mis diwethaf.

Gallwch enwebu drwy ein ffurflen ar-lein sydd ar gael drwy bbc.co.uk/unsunghero.

Os byddwch yn defnyddio'r ffurflen ar-lein, bydd tîm cynhyrchu'r BBC yn casglu'r data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.

Bydd angen caniatâd yr enwebai, neu rieni/gwarcheidwaid yr enwebai os yw'r enwebai dan 18 oed.

Mae'n rhaid i'r sawl sy'n ennill gytuno i gymryd rhan mewn unrhyw gyhoeddusrwydd ar ôl y gwobrwyo os oes angen. Efallai y byddwn yn defnyddio eich cyfraniad chi neu gyfraniad eich enwebai at ddibenion cyhoeddusrwydd ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol y BBC.

Os byddwn yn darlledu eich cyfraniad ar yr awyr, gall hyn gynnwys bod y rhaglen ar gael ar-lein a/neu ar-alw, a gellir defnyddio'r cyfraniad eto mewn darllediad yn y dyfodol.

I gael gwybod sut bydd y BBC yn prosesu eich data personol chi neu eich enwebai pan fyddwch chi'n cyfrannu at ein rhaglenni, darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cyfranwyr yn y fan yma.

Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu?

Mae dau fath o ddata personol, sef data personol a data categori arbennig. Mae data categori arbennig yn ddata personol hefyd, ond rhaid i'r BBC ddilyn camau cydymffurfio ychwanegol er mwyn prosesu data o'r fath. 

Rhaid i'ch enwebai fod yn 16 oed neu'n hŷn ar 1af Ionawr 2023 i gael ei enwebu.

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu'r data personol canlynol amdanoch chi:

  • Enw llawn

  • Cod post

  • Cyfeiriad e-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Eich cyflwyniad (ffeil fideo neu ffurflen ysgrifenedig) sy'n cynnwys eich barn a'ch rhesymau dros enwebu rhywun

Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu'r data personol canlynol am eich enwebai:

  • Enw llawn

  • Rhanbarth y DU lle mae'n byw

  • Cyfeiriad e-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

  • Y llwyddiannau a'r straeon personol rydych chi'n eu darparu am eich enwebai

Os yw eich enwebai dan 18 oed, byddwn hefyd yn casglu ac yn prosesu'r data personol canlynol am ei riant/gwarcheidwad, er mwyn cael caniatâd ar gyfer enwebiad ei blentyn:

  • Enw llawn

  • Cyfeiriad e-bost

  • Rhif ffôn cyswllt

Gan ddibynnu ar yr hyn mae eich cyflwyniad yn ei gynnwys, byddwn hefyd yn casglu'r data categori arbennig canlynol am eich enwebai:

  • Tarddiad hiliol neu ethnig

  • Credoau crefyddol neu athronyddol

  • Gwybodaeth iechyd

  • Cyfeiriadedd rhywiol

Gwiriadau Cefndirol

Bydd y BBC yn cynnal gwiriadau cefndirol ar yr enwebeion sydd ar y rhestr fer, e.e. gwiriadau sgrinio ar-lein a chyfryngau cymdeithasol ac archwiliadau'r DBS. Bydd y BBC yn defnyddio'r data personol sy'n cael ei brosesu fel rhan o wiriadau cefndirol i wirio eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Efallai na fydd gwybodaeth a ddaw i'r amlwg fel rhan o wiriad cefndirol yn golygu bod rhywun yn cael ei wahardd o'r gwobrau, ond gallai peidio â datgelu gwybodaeth o'r fath, a ganfyddir yn ddiweddarach, arwain at eu heithrio o'r gwobrau.

Pwy yw'r Rheolydd Data?

Y BBC yw "rheolydd data" eich data personol. Mae hyn yn golygu mai'r BBC fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond at y dibenion sydd wedi'u nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu. Fel y rheolydd data, mae gan y BBC gyfrifoldeb i gydymffurfio â chyfraith diogelu data, a dangos ei fod yn cydymffurfio â hi.

Sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Mae'r ffordd y mae'r BBC yn prosesu eich data personol a'r data categori arbennig wedi'i seilio'n gyfreithiol ar gyflawni ei rôl gyhoeddus. Yr amod ychwanegol y mae'r BBC yn ei ddefnyddio i brosesu eich data categori arbennig yw budd sylweddol i'r cyhoedd sy'n ymwneud â 'dibenion statudol a dibenion y llywodraeth'. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy'n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu. Mae hyn yn gyson â dibenion cyhoeddus ehangach y BBC o dan ei Siarter Frenhinol lle dylai'r BBC wneud y canlynol:

"Cefnogi dysgu ar gyfer pobl o bob oed: dylai'r BBC helpu pawb i ddysgu am wahanol bynciau mewn ffyrdd y byddant yn eu hystyried yn hygyrch a difyr ac sy'n eu hysbrydoli a'u herio. Dylai'r BBC ddarparu cynnwys addysgol arbenigol er mwyn helpu i gefnogi dysgu plant a phobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig. Dylai annog mwy o bobl i archwilio pynciau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau newydd drwy feithrin partneriaethau â sefydliadau ym meysydd addysg, chwaraeon a diwylliant."

Rhannu eich data personol

Mae'r BBC yn gweithio gyda'n darparwyr trydydd parti cymeradwy sy'n ein helpu i ddarparu rhai o'n gwasanaethau. Mae'r partneriaid hyn yn defnyddio eich data personol ar ran y BBC yn unig, ac nid yn annibynnol ar y BBC.

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu data personol â thrydydd parti, os bydd y gyfraith yn mynnu neu'n caniatáu hynny.

Cadw eich data personol

Byddwn yn cadw eich data personol ar gyfer enwebiadau aflwyddiannus am hyd at naw deg (90) diwrnod ar ôl cyhoeddi enw'r enillydd.

Byddwn yn cadw data personol ar gyfer enwebiadau buddugol am ddwy (2) flynedd at ddibenion archwilio a chydymffurfio.

Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Eich hawliau a rhagor o wybodaeth

Mae gennych chi hawliau o dan gyfraith diogelu data:

  • Gallwch ofyn am gopi o'r data personol mae'r BBC yn ei storio amdanoch chi.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw ddata personol anghywir neu anghyflawn sydd gennym amdanoch chi.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i'r data personol rydyn ni'n ei gasglu amdanoch gael ei ddileu, ond mae cyfyngiadau ac eithriadau i'r hawl hon a allai roi'r hawl i'r BBC wrthod eich cais.

  • Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych chi hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol neu wrthwynebu prosesu eich data personol.

  • Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data personol i chi neu i sefydliad arall, mewn rhai amgylchiadau.

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC yn http://www.bbc.co.uk/privacy.

Os ydych chi'n poeni am y ffordd mae'r BBC wedi delio â'ch data personol, gallwch godi'r pryder gyda'r awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) https://ico.org.uk/, dolen allanol.

Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn diwygio'r hysbysiad preifatrwydd os bydd y ffordd rydyn ni'n defnyddio'ch data personol yn newid yn sylweddol.