Gwaith cynnal a chadw i gau hen Bont Hafren dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
M48 Pont HafrenFfynhonnell y llun, Nicholas Mutton/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bont ynghau o nos wener tan fore llun

Fe fydd yr M48 Pont Hafren yn cau yn ddiweddarach ddydd Gwener ar gyfer gwaith cynnal a chadw, ac fe fydd yn aros ynghau drwy'r penwythnos.

Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio o 19:00 nos Wener hyd at 06:00 fore Llun, oherwydd bod angen gwneud archwiliad o gyflwr y crograffau a diogelwch i deithwyr ar y bont.

Bydd lonydd penodol ynghau am gyfnod hirach wedi i'r bont ail-agor ddydd Llun, yn ôl National Highways.

Mae disgwyl problemau i deithwyr ar y rheilffyrdd ddydd Sadwrn hefyd oherwydd streic gan aelodau sawl undeb.

Ymddiheuro am anghyfleustra

Dros y penwythnos fe fydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar yr M4 Pont Tywysog Cymru. Fe fydd y llwybr i gerddwyr a beicwyr drws nesaf i'r hen bont ar yr ochr ddwyreiniol yn aros yn agored.

Dywedodd Chris Pope, rheolwr prosiect ar gyfer National Highways, bod archwiliadau o'r fath yn hanfodol er mwyn deall cyflwr y ceblau, a sicrhau bod y mesurau gafodd eu cyflwyno dros y 15 mlynedd diwethaf yn effeithiol o ran dyfodol hir dymor y bont, a diogelwch y rhai sy'n ei defnyddio hi.

Ychwanegodd ei fod yn deall y gall y gwaith achosi rhywfaint o anghyfleustra, a'u bod yn gweithio i leihau'r effaith ar deithwyr cymaint â phosib.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl problemau i deithwyr ar y rheilffyrdd hefyd ddydd Sadwrn oherwydd streic gan sawl undeb

Mae disgwyl trafferthion i deithwyr ar y rheilffyrdd ddydd Sadwrn hefyd, wrth i sawl undeb gynnal streic ar y cyd ar 1 Hydref.

Bydd gweithwyr o bedwar undeb - RMT, Aslef, TSSA ac Unite - yn gweithredu am 24 awr fel rhan o anghydfod hir ynglŷn â thâl ac amodau gwaith.

Er nad ydy Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r anghydfod maen nhw wedi rhybuddio y bydd y streic yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau.

Pynciau cysylltiedig