Taith Ddrymio Tudur Owen

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Chwaraeodd Tudur Owen ddrymiau gyda Candelas ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau

"Dw'i isio fo fod yn berffaith, i'r hogyn bach na yndda fi" meddai Tudur Owen cyn camu ar Lwyfan y Sgwâr yn Sesiwn Fawr Dolgellau gyda Candelas.

Ar ei ddiwedd disgrifia'r cyflwynydd y profiad fel "un o uchafbwyntiau" ei fywyd ac mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru ar nos Sul, 2 Hydref fe glywn yn union sut mae'n cyrraedd yr uchafbwynt hwnnw.

Yn Taith Ddrymio Tudur Owen cawn ddilyn y comiediwr ar gefn ei fotobeic wrth iddo wibio ar draws Cymru i ail-ymweld a'i freuddwyd roc a rôl o fod yn ddrymiwr enwog.

A'i creisus canol oed ydi hwn? Ydi hi'n rhy hwyr i Tudur ail-gysylltu a'r plentyn bach oedd yn arfer waldio'r drymiau i gyfeiliant AC/DC, Queen a Led Zeppelin?

Disgrifiad o’r llun,

Tudur a'i athrawon

Mewn cyfweliadau difyr a doniol gyda rhai o ddrymwyr mwyaf talentog Cymru fel Graham Land (Bryn Fôn), Dafydd Davies (Boy Azooga), Heledd Owen (Adwaith), Sarah Breese a chwmni creu drymiau, Tarian mae Tudur yn paratoi at chwarae ar lwyfan mawr am y tro cyntaf.

Daliwch y daith ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig