Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Rygbi Caerdydd 18-31 Lions

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v LionsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes Rygbi Caerdydd yn erbyn tîm y Lions o Dde Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Wener.

18-31 oedd y sgôr terfynol er bod y tîm cartref 13-10 ar y blaen wedi hanner cyntaf gêm a gafodd ei chwarae mewn glaw trwm.

Mewn amodau gwlyb ar Barc yr Arfau fe sicrhaodd y Lions, oedd hefyd wedi ennill o drwch blewyn yr erbyn y Gweilch nos Sadwrn, bwynt bonws ar ôl troi'r fantol wedi'r egwyl.

Fe diriodd James Botham a Shane Lewis-Hughes i Gaerdydd, a fe ychwanegodd Jarrod Evans wyth o bwyntiau i'r sgôr gyda throsiad a chiciau cosb.

Pynciau cysylltiedig