Rhybudd y gallai gwyntoedd o 80mya daro Cymru fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai gwyntoedd o hyd at 80mya daro rhannau o Gymru fore Mercher.
Dywed y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd achosi "perygl i fywyd" wrth i falurion gael eu taflu o adeiladau, a'i bod yn bosib y bydd yn amharu ar wasanaethau trafnidiaeth.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer 10 sir yng Nghymru - Sir Benfro, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Gâr, Gwynedd, Powys, Wrecsam ac Ynys Môn.
Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd hefyd y gallai "glaw trwm fod yn broblem arall", yn enwedig yn y gogledd-orllewin.
Daw'r rhybudd i rym am hanner nos fore Mercher, a bydd mewn grym nes 11:00.