Coch Bach Y Bala: 'Yr Houdini Cymreig'
- Cyhoeddwyd
O bryd i'w gilydd, mae rhai troseddwyr yn llwyddo i ddal dychymyg y genedl gyfan.
Un dyn sydd wedi dod yn rhan o lên gwerin Cymru ydy John Jones. Ond fel unrhyw ddihiryn gwerth ei halen mae'n cael ei adnabod gan amlaf wrth ei lysenwau amrywiol: Jac Llanfor, The Welsh Houdini - a'r amlycaf, Coch Bach y Bala.
Erbyn blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, roedd erthyglau yn adrodd hanesion cythryblus Coch Bach y Bala wedi bod yn drwch yn y papurau newydd ers degawdau ac er gwaethaf ei ffaeleddau, pan dorrodd y newyddion am ei farwolaeth sydyn ar 6 Hydref 1913 bu llawer o Gymry'n galaru ar ei ôl.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar hanes y Coch Bach - gŵr a dreuliodd dros hanner ei fywyd y tu ôl i fariau haearn carchardai.
Ei droseddau cyntaf
Ychydig iawn a wyddom am flynyddoedd cynnar Coch Bach y Bala. Mae'n debyg iddo gael ei eni ym mhlwyf Llanfor ger Y Bala tua'r flwyddyn 1854.
Dechreuodd ei yrfa o dor-cyfraith o oedran ifanc; mân droseddau oedd y rhain fel arfer megis dwyn wyau o ffermydd cyfagos. Mae'n ymddangos iddo gael ei hun mewn helynt gyda'r gyfraith am y tro cyntaf yn chwe blwydd oed pan gafodd ei chwipio gan heddwas am ladrata.
Yn 1871 y dedfrydwyd y Coch Bach i garchar am y tro cyntaf. Ei drosedd oedd potsio, tramgwydd a oedd yn eithaf cyffredin mewn ardal wledig fel Sir Feirionnydd. Y ddedfryd arferol am botsio oedd dirwy ond yn 1871 dedfrydwyd y Coch Bach i fis o garchar.
Lladrata o dai oedd prif ddiléit Coch Bach y Bala. Ym 1873, cafwyd Coch Bach yn euog o ddwyn cyfanswm o bymtheg swllt - tua £50 yn ein harian ni heddiw - o gartref Griffith Griffiths yn Llandrillo a chartref Robert Davies yng Nghorwen. Derbyniodd ddwy ddedfryd o dair blynedd i ddilyn ei gilydd - cyfanswm, felly, o chwe blynedd, dedfryd afresymol o drwm hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw!
Dianc o Garchar Rhuthun
Ym mis Tachwedd 1879 daeth Coch Bach yn enw cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt diolch i'w giamocs yng ngharchar Rhuthun. Fis ynghynt roedd wedi cael ei gyhuddo o ddwyn 14 oriawr o ddau gartref; un yn Llanfor ac un yn Llanycil. Wrth aros ei brawf penderfynodd ddianc tra'r oedd ceidwaid y carchar yn bwyta eu swper. Trwy ryw wyrth llwyddodd i agor tri drws cyn cerdded yn hamddenol trwy ddrws ffrynt y carchar, gan ennill iddo'r llysenw 'The Welsh Houdini'!
Mwyaf syndod, yn dilyn ei ddihangfa, yn hytrach na chuddio mewn man llai amlwg fe ddychwelodd Coch Bach i Lanfor. Mae hen goel iddo lwyddo i osgoi cael ei ddal trwy wisgo fel hen wraig - ond wn i ddim faint o wirionedd sydd i'r stori honno. Llwyddodd Coch Bach i gadw'i draed yn rhydd hyd nes dechrau Ionawr 1880 pan ddaliwyd ef yng ngwesty'r Swan ym Mochdre. Y tro hwn dedfrydwyd ef i bedair blynedd ar ddeg o garchar.
Cael ei anfon i Garchar Dartmoor
Fel rheol nid oedd Coch Bach yn cyflawni troseddau treisgar. Serch hynny, pardduwyd ei enw ym 1906 pan gyhuddwyd ef o ymosod yn ffyrnig ar wraig oedrannus o'r enw Sarah Jones yn ei chartref yn Abererch. Dechreuodd yr awdurdodau amau Coch Bach yn syth gan ei fod ar y pryd yn byw gerllaw mewn tŷ lojin ym Mhwllheli. Roedd Coch Bach yn daer nad ef oedd wedi ymosod ar yr hen wreigan ond cafwyd ef yn euog a dedfrydwyd ef i saith mlynedd yng ngharchar Dartmoor.
'The Welsh Houdini' yn dianc eto
Wedi iddo gael ei ryddhau ym mis Ionawr 1913 llwyddodd i osgoi'r gyfraith tan fis Mehefin pan ddihangodd o gell yn y Bala lle'r oedd yn cael ei gadw ar gyhuddiad o ddwyn o swyddfa cyfreithiwr lleol. Byrhoedlog fu ei ryddid; daliwyd ef yn fuan wedyn ac fe'i hanfonwyd i garchar Rhuthun drachefn.
Yno, fe lwyddodd i ail-greu dihangfa enwog 1879 unwaith yn rhagor.
Y tro hwn tyllodd Coch Bach dwll trwy fur ei gell gan ollwng ei hun trwyddo ac i lawr i'r buarth islaw trwy ddefnyddio ei ddillad gwely fel rhaff. Yn dilyn ei ddihangfa treuliodd y diwrnodau canlynol yn cuddio yn y coetir ger Neuadd Nantclwyd, ryw bedair milltir i ffwrdd o garchar Rhuthun.
Y diwedd trychinebus i Coch Bach y Bala
Daeth diwedd ar hanes y Coch Bach mewn modd digon anurddasol. Ar ôl pedwar diwrnod ar ffo daeth dyn ifanc o'r enw Reginald Jones Bateman ar ei draws. Roedd Reginald eisoes wedi clywed am hanes y Coch Bach a cheisiodd ei berswadio i ildio. Gwrthododd. Gan feddwl bod Coch Bach yn cuddio arf saethodd Reginald yr hen droseddwr yn ei goes ychydig o dan ei ben-glin. Gwaedodd i farwolaeth ymhen ychydig funudau.
Er nad oedd y cyhoedd yn cymeradwyo'r ffaith mai lleidr oedd Coch Bach roedd peth edmygedd tuag ato ar lawr gwlad gyda gohebydd Baner ac Amserau Cymru yn ei ddisgrifio fel 'dyn cyfrwys... galluog a gwir dalentog.'
Achosodd amgylchiadau ei farwolaeth gryn ddicter yn yr ardal. Cafodd cardiau post yn dangos llun ei angladd, a'r lleoliad lle cafodd ei saethu, eu cynhyrchu a'u gwerthu'n eang. Yn dilyn ei farwolaeth ni phallodd diddordeb y cyhoedd ynddo ac mae Coch Bach y Bala yn parhau'n ffigwr dadleuol hyd yn oed heddiw.
Hefyd o ddiddordeb: