Pryderon wedi cais cloddio newydd ar safle Ffos-y-Fran

  • Cyhoeddwyd
Llys-y-Fran
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cwmni Merthyr (South Wales) Ltd nad ydynt wedi gallu tynnu allan y glo a fwriadwyd yn sgil y pandemig

Mae trigolion sy'n byw yn ymyl safle glo brig mwya'r DU yn dweud eu bod "wedi'u llorio" gan gais i ehangu'r cyfnod cloddio yno.

Ar ôl pymtheg mlynedd roedd palu am lo i fod i ddod i stop ar safle Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful ym mis Medi.

Ond mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y lofa'n gobeithio dwyn perswâd ar y cyngor lleol i'w caniatáu nhw i barhau.

Mae Merthyr (South Wales) Ltd yn dweud eu bod yn awyddus i helpu i ddarparu gweithfeydd dur Port Talbot â ffynhonnell leol o lo.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio nad oes digon o arian wedi'i roi i'r naill ochr ar gyfer adfer y safle 1,000 erw fel y disgwyl, a bod angen addasu'r cynllun hwnnw.

Mae'r cwmni wedi ceisio am estyniad o naw mis i ddechrau, ond yn dweud eu bod yn bwriadu paratoi cais cynllunio arall ar gyfer tair blynedd pellach o loddio.

Yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol mae'r cynlluniau'n mynd yn gwbl groes i ymrwymiadau newid hinsawdd Cymru, ac maen nhw wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o drigolion lleol yn bryderus am y cais newydd

Mae gan lofa Ffos-y-Fran hanes hir a dadleuol, gydag agosatrwydd y safle at y gymuned leol wedi arwain at sawl brwydr yn y llysoedd, deisebau a phrotestiadau - gyda'r Cenhedloedd Unedig hyd yn oed wedi dangos diddordeb ar un adeg.

Dechreuodd y gwaith o gasglu dros 11m tunnell o lo yn 2007 tra'n adfer y tir - oedd yn frith o hen weithfeydd ac wedi'i ddisgrifio fel safle "peryglus ac adfeiliedig".

Profiad 'gwaeth na'r disgwyl'

Yn y blynyddoedd cynnar roedd y stad o dai lle mae Chris ac Alyson Austin yn byw 'chydig ganllathau o'r gwaith cloddio ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alyson Austin ei bod wedi prynu siampên yn barod ar gyfer diwedd y cloddio

"Mae wedi bod yn waeth na fysen ni byth wedi gallu dychmygu," eglurodd Mr Austin, "am nifer o flynyddoedd buon ni'n diodde'r sŵn, a'r llwch a'r llygredd golau."

Roedd clywed y newyddion bod cais pellach am ragor o gloddio wedi'i gyflwyno fel derbyn "cic yn y stumog", meddai.

Ychwanegodd Mrs Austin bod 6 Medi 2022 wedi'i "serio ar fy nghof" - sef y dyddiad yr oedd caniatâd y cwmni i loddio i fod i ddod i ben.

Roedd hyd yn oed ganddi siampên yn barod yn yr oergell, ond bellach mae'n teimlo fel petai "wedi'i llorio".

"I feddwl ein bod ni wedi bod yn aros gyhyd a nawr maen nhw'n trio ymestyn - mae'n ofnadwy," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Phyl Griffiths wedi bod yn gwrthwynebu'r safle yn y gorffennol

Dywedodd Phyl Griffiths, sy'n diwtor Cymraeg yn y dref, ei fod e wedi bod yn un o'r rhai oedd yn gwrthwynebu'r cais am safle glo brig yn wreiddiol 'nôl yn 2005.

"O ganlyniad wedyn o'n i'n amlwg yn falch iawn i weld bod e mynd i ddod i ben mis Medi.

"Fi'n amheus iawn eu bo' nhw'n gwthio'r dyddiad yma nôl a nôl - pryd maen nhw'n gorfod ail-lunio'r tir ac ail-wyrddio'r ardal," meddai.

Dywed Royston Thomas, sy'n byw ar y ffordd fynyddig sy'n arwain at y lofa, bod y gwaith wedi bod yn "ofid cyson" iddo ers 20 mlynedd.

"Dylai'r trigolion lleol gael eu gwarchod, ond dy'n nhw ddim yn cael eu gwarchod - mae'n nhw'n cael eu hanwybyddu," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

'Gall hyn ddim mynd ymlaen ac ymlaen - er lles y gymuned a'r blaned,' medd Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear

Ar y cyd ag eraill, mae'r trigolion wedi ysgrifennu at Gyngor Merthyr Tudful yn gwrthwynebu'r cais, ac wedi derbyn cefnogaeth gan Gyfeillion y Ddaear Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen Haf Elgar mai "caniatâd ar gyfer cyfnod o amser a roddwyd i'r cwmni nid ar gyfer faint o lo oedd posib ei loddio a dylid parchu hynny".

"Gall hyn ddim mynd ymlaen ac ymlaen - er lles y gymuned a'r blaned," ychwanegodd.

Fe ychwangeodd petai'r cyngor yn ystyried cymeradwyo'r cynlluniau byddai'n rhaid cyfeirio hynny at weinidogion Llywodraeth Cymru.

"A ry'n ni felly yn galw arnyn nhw i ymwrthod â'r cais ac i ddilyn eu polisi glo eu hunain."

Rhaid anfon neges glir, meddai "i gwmnïau glo nad oes croeso iddyn nhw bellach yn Nghymru."

Beth mae'r cwmni yn ei ddweud?

Mae Merthyr (South Wales) Ltd wedi cyflwyno cais i addasu amod o'u caniatâd cynllunio fel bod modd parhau i balu am lo tan Fehefin 6ed, 2023 ac ymestyn y terfyn ar gyfer adfer y safle yn llawn tan 6 Medi 2025.

Ar hyn o bryd mae 116 o weithwyr a 21 o gontractwyr wedi'u cyflogi ar y safle.

Ond mae'r cwmni'n dweud i arferion gweithio a staffio gael eu heffeithio'n wael gan y pandemicg a bod angen mwy o amser felly i allu tynnu'r glo i gyd o'r ardal yr oedden nhw wedi derbyn caniatâd i weithio ynddi.

Maen nhw hefyd wedi cyfaddef "bod cyllid annigonnol" wedi'i roi i'r naill ochr er mwyn adfer ochr y mynydd fel a gynlluniwyd nôl yn 2007, a bod angen rhagor o amser er mwyn "rhoi cynllun adfer terfynol sydd wedi'i addasu yn ei le".

Disgrifiad o’r llun,

Mae cryn brotestio wedi bod yn erbyn y gwaith cloddio yn y gorffennol

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth BBC Cymru y byddai hyn yn "brosiect sylweddol" fyddai'n arwain at "strategaeth diweddu cloddio glo" ar gyfer yr ardal.

Yn ogystal ag ymdrech i hybu bioamrywaieth, dywedodd y byddai'n cynnwys troi rhan o'r safle yn "gyrchfan twristiaeth a hamdden", gyda'r manylion ac ymgynghoriad cyhoeddus i gael eu datgelu o fewn y misoedd nesaf.

Yn y cyfamser, roedd yn dadlau bod galw ar gyfer glo'r safle yn parhau o gyfeiriad gweithfeydd dur Port Talbot yn ogystal â gan reilffyrdd stêm treftadaeth drwy Ewrop.

Mae datganiad cynllunio'r cwmni yn nodi "tra bod yna ddyhead tymor hir am ddyfodol carbon niwtral yn y DU, mae diwydiannau fel cynhyrchu dur mewn cyfnod o drosglwyddo, ac mae angen diogelu cyflenwadau yn y tymor hir.

"Yn hynny o beth fe ddylai'r gallu parhau i gyflenwi glo stêm sych o Ffos-y-Fran gael ei ystyried o bwysigrwydd cenedlaethol".

Glo lleol yn fanteisiol

Dywedodd cwmni Tata, sy'n gyfrifol am weithfeydd Port Talbot, bod y lofa'n eu cyflenwi a "deunydd crai allweddol" sy'n galluogi cynhyrchu dur sy'n "helpu'r wlad i gyrraedd ei thargedau sero-net".

"Mae'n dur ni'n cael ei ddefnyddio i adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy, cerbydau trydan ac adeiladau cynaliadwy, i enwi ond ychydig," meddai'r llefarydd.

"Mae 'na nifer o fanteision o ddefnyddio glo lleol, gan gynnwys lleihau allyriadau CO2 sy'n gysylltiedig a thrafnidiaeth.

"Mewn gwirionedd, mae allyriadau trafnidiaeth ar gyfer bob tunnell o lo sy'n cael eu danfon i Bort Talbot o'r DU yn tueddu i fod bum gwaith yn is na glo sydd wedi'i fewnforio o dramor," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru nad ydynt yn cefnogi gwaith cloddio a'u bod am ganolbwyntio ar yr argyfwng hinsawdd

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "ymestyn gwaith cloddio yng Nghymru yn ychwanegu at gyflenwadau byd-eang o lo gan waethygu newid hinsawdd".

Dywedodd bod y llywodraeth yn ymwybodol o'r cais cynllunio a'i bod wedi bod yn glir nad oedd yn cefnogi cloddio am danwyddau ffosil a'i bod yn "canolbwyntio'n llwyr ar yr argyfwng hinsawdd".

"Dan ein Cyfarwyddyd Hysbysu, dylai unrhyw awdurdod lleol sydd ddim yn bwriadu gwrthod cais am ddatblygiad glo neu betroliwm roi gwybod i weinidogion Cymreig fydd yn craffu ar y penderfyniad ac yn penderfynu ar y camau nesa' ar sail haeddiannau'r cais unigol," meddai.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hefyd wedi derbyn cais am sylw.