Ysgol gynradd Maenorbŷr, Sir Benfro yn cau wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Tân yn Ysgol WR yr Eglwys yn Nghymru Maenorbŷr yn Ninbych-y-Pysgod
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bob un o'r 32 disgybl yn yr ysgol eu hanfon adref

Bu'n rhaid i rieni disgyblion ysgol gynradd yn Sir Benfro gasglu eu plant o'r ysgol fore Llun ar ôl i dân ddifrodi to'r adeilad.

Mae Ysgol Gynradd Maenorbŷr yn Ninbych-y-Pysgod wedi cau.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod y tân bellach wedi ei ddiffodd, ond ei fod wedi dinistrio rhan fawr o'r to.

Mae'r disgyblion a'r staff i gyd yn ddiogel, yn ôl Cyngor Sir Penfro.

Ychwanegodd llefarydd ei bod hi'n rhy gynnar i wybod beth oedd achos y tân ac y bydd yr ysgol yn troi at addysgu ar-lein o ddydd Mawrth ymlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae difrod sylweddol wedi ei wneud i'r ysgol yn ôl y gwasanaeth tân

Dywedodd y gwasanaeth tân bod ardal o tua 20 metr (66 troedfedd) o do wedi ei ddifrodi a bod yna "ddifrod sylweddol" i'r ysgol.

Cafodd adeiladau sydd ynghlwm â'r ysgol eu difrodi hefyd gyda llefarydd ar ran y gwasanaeth yn dweud mai blaenoriaeth y diffoddwyr oedd sicrhau nad oedd y tân yn ymledu ymhellach a chreu mwy o ddifrod i adeiladau.

Mae'r cyfrifoldeb am y safle wedi ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol.

"Mae'r cyngor yn ymwybodol o dân yn Ysgol yr Eglwys yn Nghymru Maenorbŷr, a gallwn gadarnhau bod y plant a staff i gyd yn ddiogel," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Rydym wedi gofyn i rieni gasglu'r plant o Barc Carafanau Buttyland, gan ddefnyddio Lôn Norchard gan bod y lôn arferol i'r ysgol ar gau."

'Y to wedi ei ddifrodi'n llwyr'

Dywedodd Damian Brown, perchennog y parc carafanau sydd drws nesaf i'r ysgol, iddo weld y tân a rhuthro i gynorthwyo.

"Fe welson ni fwg yn dod o'r ysgol a mi redes i yn syth yno i helpu," meddai.

"I fod yn deg, roedd yr athrawon wedi gwneud gwaith arbennig a'r disgyblion y tu allan.

"Mae to yr ysgol wedi ei ddifrodi'n llwyr ac mae'n ymddangos bod yr adeilad drws nesa' i'r ysgol hefyd wedi ei ddifordi."

Ffynhonnell y llun, Damian Brown
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y mwg ei weld o'r parc carafanau drws nesaf

Pynciau cysylltiedig