Prif weithredwr newydd i fudiad Dyfodol i'r Iaith

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dylan Bryn Roberts: 'Mae gan Dyfodol i'r Iaith rôl bwysig'

Mae Dyfodol i'r Iaith - mudiad amhleidiol sy'n gweithio er lles y Gymraeg - wedi penodi arbenigwr cynllunio iaith fel ei brif weithredwr newydd.

Bydd Dylan Bryn Roberts yn dechrau yn ei swydd newydd ddydd Llun, gan olynu Ruth Richards.

Yn wreiddiol o Nefyn yn Llŷn, mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Mae ganddo brofiad o hyrwyddo'r Gymraeg gyda gwahanol sefydliadau ers 30 mlynedd, yn cynnwys y Bwrdd Iaith, cyn iddo symud ymlaen i sefydlu cwmni cynllunio ieithyddol a chymunedol.

Ar ôl 10 mlynedd gyda'r cwmni, bu'n arwain Menter Iaith Bangor am bum mlynedd cyn dychwelyd i weithio yn gymunedol yn y trydydd sector.

Dywed Dyfodol i'r Iaith fod Mr Roberts wedi cynnal nifer helaeth o arolygon cenedlaethol, hyfforddiant ac asesiadau effaith ieithyddol ym meysydd addysg a thai.

Ffynhonnell y llun, Dyfodol i'r Iaith
Disgrifiad o’r llun,

Nod y mudiad yw dylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a deddfwriaeth drwy ddulliau cyfansoddiadol, er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn falch o gael cyfle i "ymgymryd â'r swydd gyffrous hon yn Dyfodol, ac i gael cyfrannu trwy lobïo er lles y Gymraeg".

"Mae'n gyfnod cyffrous a heriol ond rwy'n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gydag unigolion, cymunedau a sefydliadau i sicrhau fod y Gymraeg yn iaith fyw, ganolog a bywiog yng Nghymru," meddai.

Ychwanegodd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i'r Iaith, fod y mudiad yn "hynod o ffodus i allu cael olynydd teilwng i Ruth Richards".

"Mae Dylan yn arbenigwr ym maes cynllunio iaith, a bydd ganddo rôl allweddol mewn hyrwyddo egwyddorion cynllunio iaith yng Nghymru," meddai.

Nod Dyfodol i'r Iaith yw dylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a deddfwriaeth drwy ddulliau cyfansoddiadol, er mwyn hybu twf a ffyniant y Gymraeg.