Rhedeg y GIG heb fwy o arian yn 'uffern ar y ddaear'

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhedeg GIG Cymru y flwyddyn nesaf, heb arian ychwanegol gan San Steffan, "yn mynd i fod yn uffern ar y ddaear", yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Eluned Morgan bod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i £207m yn ychwanegol i dalu am gostau ynni yn unig y gaeaf hwn.

Er bod Llywodraeth y DU yn darparu "ychydig bach" o gefnogaeth ychwanegol, ni fydd yn ddigon i dalu'r costau, meddai.

Mae'r gwariant ychwanegol ar ynni yn llawer mwy na'r £170m y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael â'r rhestrau hir o gleifion sy'n aros am driniaeth.

Dywed Ms Morgan fod Llywodraeth Cymru yn wynebu "hunllef go iawn" o ran rhedeg y GIG y flwyddyn nesaf - yn enwedig o ystyried y pwysau sydd ar wasanaethau ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

"Blwyddyn nesa y'n ni'n meddwl fydd hi lot yn waeth... a dyw hi ddim yn bert," medd Eluned Morgan

"So eleni ges i fil o £207m yn ychwanegol i dalu am egni yn yr NHS nag o'n i'n disgwyl," meddai.

"I roi hwnna mewn cyd-destun, roedd £170m gen i i'w wario ar y backlog.

"Felly, nawr mae'n rhaid i ni dalu mwy ar y cynnydd yn y costau egni nag oedd gyda ni i wario ar y backlog, felly mae hwnna'n rhoi syniad i chi o'r sialens.

"Blwyddyn nesa y'n ni'n meddwl fydd hi lot yn waeth, ac ar hyn o bryd 'da ni'n mynd drwy'r cyllidebau i weld sut yn y byd mae'r flwyddyn nesaf yn mynd i edrych, a dyw hi ddim yn bert."

'Torri'r holl recordiau anghywir'

Daw sylwadau'r Gweinidog Iechyd ar y diwrnod y cofnododd y GIG yng Nghymru rhai o'r ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros ar gyfer gofal canser.

Yn y cyfamser, mae rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio yng Nghymru wedi tyfu i record arall - dros 750,000 am y tro cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu bod angen i'r Gweinidog Iechyd a Llywodraeth Lafur Cymru gymryd cyfrifoldeb am "dorri'r holl recordiau anghywir".

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Mae methiant y Lywodraeth Lafur i baratoi ar gyfer adfer o'r pandemig yn parhau i gael ei deimlo gan bobl Cymru wrth iddynt brofi'r rhestrau aros hiraf ym Mhrydain o ran triniaeth, oedi ambiwlansys ac amseroedd aros mewn unedau brys.

"Mae'r methiant yma i gynllunio ar gyfer ailagor ysbytai wedi golygu bod darparu gofal iechyd wedi mynd allan o reolaeth.

"Mae staff yn gwneud eu gorau i ymdopi â'r galw ond mae diffyg arweiniad o'r canol wedi golygu bod y gweinidog yn gadael y GIG ar y clwt.

"Mae 59,000 o bobl yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth yng Nghymru, ond does dim aros o'r fath yn Lloegr.

"Dyma gost Llafur - nawr mae angen iddyn nhw gael gafael ar y GIG a rhoi'r gorau i dorri'r holl recordiau anghywir."