Parc Oakwood dal ar gau wrth i ymchwiliad damwain barhau

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau brys ym Mharc OakwoodFfynhonnell y llun, Rhodri Mason
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau brys ym Mharc Oakwood yn dilyn y digwyddiad ddydd Sul

Bydd parc antur Oakwood yn parhau ar gau tan y penwythnos wrth i swyddogion diogelwch ymchwilio i ddamwain yno ddydd Sul.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Llun bod dyn wedi'i gymryd i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad ar reid Treetops yn y parc.

Yn ôl adroddiadau, fe syrthiodd dyn o'r reid cyn cael ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty. Cafodd y parc ei gau yn ddiweddarach.

Mae'r parc wedi dweud eu bod wedi'u "tristau'n fawr gan y digwyddiad" ond y byddan nhw'n ailagor ar gyfer gwyliau hanner tymor Cymru ddydd Sadwrn.

Bydd reid Treetops ar gau wrth i'r ymchwiliad barhau.

Ffynhonnell y llun, Lachlan/Coasterpedia
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r HSE wedi cadarnhau mai ar reid Treetops y digwyddodd y ddamwain

Dywedodd un fenyw, a oedd yn y parc ar y pryd, fod y ddamwain yn un "ddifrifol" a bod pobl wedi'u "dychryn".

Ychwanegodd Harriet Lloyd o Gaerfyrddin bod ei gŵr, a oedd ar yr un reid â'r dyn gafodd ei anafu, wedi "clywed pobl yn sgrechian tua'r cefn".

"Roedd hi'n edrych fel petai'r cerbydau olaf yn rhydd ac yn siglo, roedd [dyn] wedi cael ei daflu allan ac roedd teithwyr eraill yn dal y cerbyd gan ei fod wedi dod ychydig yn rhydd," meddai wrth BBC Cymru.

Wrth rannu diweddariad fore Llun, dywedodd yr awdurdod HSE eu bod yn arwain ymchwiliad ar y safle.

"Mae ein harolygwyr yn ymchwilio i ddigwyddiad ar rollercoaster Treetops ym Mharc Antur Oakwood," dywedodd Sian Clayton, Pennaeth Gweithrediadau HSE yng Nghymru.

Fe wnaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub gadarnhau na chafon nhw eu galw i'r parc.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y parc antur ei gau brynhawn Sul yn dilyn damwain ac roedd yn parhau ynghau ddydd Llun

Dywedodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, Sam Kurtz ei fod yn "drist iawn" o glywed am y digwyddiad ac yn "ddiolchgar iawn i'r gwasanaethau sydd wedi helpu".

"Mae Oakwood wedi bod yn lle hapus iawn i lot o bobl yn y gorllewin ar hyd y blynyddoedd a gobeithio nawr bydd ymchwiliad HSE yn gallu gweld beth yn union ddigwyddodd a sicrhau nad yw e'n digwydd unwaith eto."

Beth ydy ymateb y parc?

Mewn datganiad nos Lun, dywedodd llefarydd ar ran Parc Antur Oakwood: "Rydym wedi ein tristau'n fawr gan y digwyddiad ar ein reid Treetops ddydd Sul 23 Hydref pan gafodd un o'n hymwelwyr anaf.

"Rydym yn cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad HSE i'r digwyddiad ac rydym yn methu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.

"Mae iechyd, diogelwch a lles ein holl ymwelwyr a staff o'r pwys mwyaf i ni.

"Yn dilyn arweiniad gan yr HSE, bydd Parc Antur Oakwood yn ailagor ar gyfer gwyliau hanner tymor yng Nghymru ddydd Sadwrn 29 Hydref fel y cynlluniwyd gyda Treetops yn parhau ar gau yn ystod y cyfnod ymchwilio.

"Bydd aelod o'n tîm yn cysylltu'n uniongyrchol â'r holl westeion yr effeithiwyd arnynt gan y cau ddoe."