Cau parc antur Oakwood yn Sir Benfro yn dilyn damwain
- Cyhoeddwyd
Mae parc antur Oakwood yn Sir Benfro wedi cau yn dilyn damwain.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i'r parc brynhawn Sul yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ar un o'r reidiau.
Gwelodd ymwelwyr Ambiwlans Awyr Cymru yn cludo claf o'r safle.
Fe gysylltodd un fenyw â BBC Cymru yn dweud fod y ddamwain ar reid Treetops yn un "ddifrifol".
Ychwanegodd fod claf wedi cael ei gludo gan ambiwlans awyr a'r parc wedi ei gau wrth i'r heddlu gyrraedd.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cadarnhau eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a'u bod yn gwneud ymholiadau gyda Heddlu Dyfed-Powys.
'Pobl wedi eu dychryn'
Dywedodd Harriet Lloyd o Gaerfyrddin ei bod yn gwylio ei gŵr a'i mab pum oed ar yr un reid.
"Reid Treetops oedd hi, yr un sy'n addas ar gyfer plant bach. Y cyflymder uchaf yw tua 20-30mya.
"Roedden nhw [ei theulu] tua'r blaen. Dywedodd fy ngŵr eu bod wedi clywed pobl yn sgrechian tua'r cefn.
"Fe drodd o gwmpas a gweld merch tua 14 oed yn sgrechian 'stop'. Roedd dyn yn yr un cerbyd â hi wedi ei daflu allan.
"Roedd hi'n edrych fel petai'r cerbydau olaf yn rhydd ac yn siglo, roedd e wedi cael ei daflu allan ac roedd teithwyr eraill yn dal y cerbyd gan ei fod wedi dod ychydig yn rhydd.
"Doedden nhw ddim mwy na thua chwe neu saith troedfedd oddi ar y llawr.
Dywedodd Ms Lloyd fod staff wedi dod i helpu gyda'r ambiwlans awyr yno hefyd tua phymtheg i ugain munud yn ddiweddarach.
"Roedd pobl yn edrych wedi eu dychryn," ychwanegodd.
"Fe arhosodd y parc ar agor am ryw awr, awr a hanner, yna fe ddywedon nhw wrth bawb i adael."