Dronau a gwasanaeth 5G i helpu timau achub mynydd?

  • Cyhoeddwyd
Drôn
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd modd defnyddio dronau i anfon signal 5G pan fo rhywun mewn trafferth

Gallai gwaith timau achub mynydd gael ei hwyluso yn y dyfodol gyda dronau a gwasanaeth 5G.

Bydd profion yn cael eu cynnal dros y misoedd nesaf yn defnyddio dronau yng Nghanolfan Awyrofod Eryri, ger Harlech.

Ar hyn o bryd mae diffyg gwasanaeth cyfathrebu mewn ardaloedd anghysbell yn gallu ei gwneud hi'n anodd i gerddwyr sydd wedi mynd i drafferthion alw am gymorth.

Ond gobaith y tîm o beirianwyr, heddlu a chriwiau achub mynydd ydy y bydd modd defnyddio dronau i anfon signal 5G pan fo rhywun mewn trafferth, gan helpu cysylltiad gyda'r gwasanaethau brys.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sarah Jones fod Eryri yn "lwcus iawn i fod y cyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg"

Dywedodd Sarah Jones o Dîm Achub Mynydd De Eryri: "Dros ogledd Cymru, mae'r tirwedd yn arw iawn.

"Un o'r llefydd mae tîm ni'n cyfro ydy'r Rhinogydd, ac yn fan 'na mae 'na lot o lefydd lle does 'na ddim signal ffôn na radio.

"Felly 'sa drôn yn bendant yn gallu helpu i ni gyfathrebu efo claf neu rywun sydd ar goll. Mae'n ymddwyn fatha mast ffôn.

"Mae gynno fo hefyd y gallu i wneud video calls, felly os fysa' rywun ar goll ar y mynyddoedd, fysan ni'n gallu siarad efo nhw a helpu nhw off y mynydd heb orfod mynd atyn nhw os ydy o'n mynd i gymryd oriau i ni gyrraedd nhw.

"Dwi'n meddwl bod ni'n lwcus iawn i fod y cyntaf i ddefnyddio'r dechnoleg i gael help y drôn."

Prosiect gwerth £1m

Hyd yn hyn mae tua £500,000 wedi ei wario ar brosiect Rhu'r Ddraig, sy'n bartneriaeth rhwng Virgin Media O2 a Chanolfan Awyrofod Eryri, gyda'r nod o helpu timau i achub bywydau.

Mae'r dechnoleg yn cael ei osod ar ddrôn arbrofol ar hyn o bryd, sy'n darlledu'r signal dros ardal o hyd at 3km.

Gallai £500,000 yn ychwanegol gael ei wario cyn bod y dechnoleg yn barod i gael ei ddefnyddio go iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Sarjant Paul Terry y bydd y dechnoleg hefyd o gymorth i'r heddlu

Mae'r heddlu eisoes yn defnyddio dronau wrth eu gwaith ac yn cynorthwyo timau achub mynydd yn aml.

Yn ôl y Sarjant Paul Terry o Heddlu Gogledd Cymru, mae eu hoffer nhw yn ddibynnol ar wasanaeth 4G, sydd yn brin mewn ardaloedd mynyddig, ac felly mae'n croesawu'r ymchwil newydd.

"'Dan ni angen anfon signal y drôn i control centre yr heddlu," meddai.

"'Dan ni angen signal da i wneud hynny - 'dan ni angen defnyddio lot o ddata pan 'dan ni'n gweithio efo dronau.

"Dwi'n teimlo mae'n syniad da i gael signal gwell efo'r drôn hwn."

'Technoleg sydd o fudd i gymdeithas'

Gobaith y tîm ydy bydd hediadau prawf yn digwydd yng ngwanwyn 2023 ac os ydy'r profion yn llwyddiant, maen nhw'n dweud y bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio gyntaf mewn argyfyngau yn ardal Eryri.

Mae cwmni Virgin Media O2 yn dweud bod eu hymchwil nhw yn awgrymu bod 53% o bobl sy'n byw ym Mhrydain yn fwy tebygol o ystyried cerdded fel modd o ymarfer ers y pandemig, a bod 36% yn ystyried ymweld â pharciau cenedlaethol i arbed arian yn sgil yr argyfwng costau byw.

Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu bod 35% yn pryderu am fynd ar goll a 31% ofn bod heb gysylltiad, yn ôl y cwmni.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David Owen mae "marchnad go fawr" i'r dechnoleg

Dywedodd David Owen o Virgin Media O2: "Rydym yn ceisio creu technoleg sydd o fudd i gymdeithas ac yn deall fod bod heb gysylltiad yn broblem go iawn.

"Felly mae'n grêt ar gyfer ardaloedd lle mae 'na lot o weithgareddau hamdden a lle gallwch chi ei weld yn helpu timau argyfwng wrth iddyn nhw geisio achub.

"Ond gallai hefyd gael ei ddefnyddio gan luoedd ffiniau i gadw golwg ar draethau, felly mae 'na farchnad go fawr i'r dechnoleg.

"'Dan ni'n gweld hwn fel offeryn ychwanegol i dimau achub a lluoedd ffiniau."