Sharon Morgan: Tri llun ym mywyd Actores a Mam
- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Yr actores Sharon Morgan, enillydd 3 Bafta Cymru sydd yn rhannu rhai o luniau pwysicaf ei bywyd.
Mae Sharon newydd gyhoeddi ei hunangofiant dan y teitl 'Sharon Morgan: Actores a Mam' (Y Lolfa) ac mae ei dewis yn adlewyrchu'r ddwy rôl sydd ganddi yn ei bywyd personol a'i bywyd gwaith, sydd yn aml iawn, wedi gorfod plethu â'i gilydd.
Dyma fy mab Steffan, pum mlwydd oed, a fi mewn sesiwn tynnu lluniau gyda'r ffotograffydd Fraser Wood. Roedd fy asiant eisiau llun addas ar gyfer fy nghynnig ar gyfer Miss Ronberry yn y ddrama The Corn is Green gyda Deborah Kerr yn Llundain. Ges i mo'r rhan ond fe gawson ni tipyn o hwyl wrth dynnu'r lluniau.
Fel oedd yn digwydd yn aml oeddwn i'n mynd â Steffan gyda fi pan oedd yna gyfle oherwydd mod i mor brysur, ac fe dreuliodd cryn dipyn o amser ar setiau ffilm a theledu,yn gwylio dramâu yn y theatr, ac mewn achlysuron eraill fel hwn sy'n rhan o waith actor. Gwnaeth e hefyd deithio tipyn gyda fi wrth i fi fynd i weithio ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.
Daeth e gyda fi i Iwerddon, Caernarfon, Llangollen, yr Eidal a Chanada, ac i bentref bach Llandwrog ddwy waith, am bedwar mis ar y tro, pan aeth e i'r ysgol fach yn y pentref.
Mae gwneud bywoliaeth fel actores yn golygu symud i ble bynnag mae'r gwaith, ac roedd y ffaith mod i'n fam sengl yn cymhlethu'r sefyllfa, ond llwyddais, gyda help fy mam, i gyfuno magu Steffan, a chreu gyrfa fel actores. Falle nad yw hi'n syndod bod Steffan nawr yn gweithio yn y cyfryngau fel gwneuthurydd rhaglenni dogfen.
Fel Steffan, mae fy merch Saran, sydd bymtheg mlynedd yn iau na'i brawd, wedi treulio cryn dipyn o amser ar setiau, ac mae hithau hefyd yn gweithio ym myd y cyfryngau erbyn hyn, fel actores. Dyma lun ohoni gyda fi yn bump wythnos oed ar set y ddrama ddogfen Codi Clawr Hanes, rhaglen ro'n innau'n cyflwyno.
Cwmni ffilm a theledu Teliesyn oedd wrthi'n ffilmio'r gyfres oedd yn trafod rhyw a rhywioldeb y fenyw yn ystod oes Fictoria, ac on i'n gweithio mewn tŷ o gyfnod y Tuduriaid ym Mro Morgannwg.
Fel gyda Steffan roedd bronfwydo yn bwysig i fi, a daeth fy nani, Rhiannon Bianchi gyda fi i ofalu amdani, fel bod modd i fi fwydo rhwng takes, a parhaodd hynny am fisoedd ac ar draws sawl cynhyrchiad arall fel Yr Heliwr/Mind To Kill - minnau'n chwarae Margaret Edwards y patholegydd fforensig.
Tynnwyd y llun ar gyfer erthygl yn y Western Mail gan Carolyn Hitt, ac roedd yn cyferbynnu sefyllfa menywod heddi gyda bywydau'r rhai oedd yn cael eu portreadu yn y rhaglen. Roedd cwmni sosialaidd ffeministaidd Teliesyn yn gefnogol iawn i fi, ond nid oedd pob cwmni mor oleuedig. Mae'n dda gweld bod Equity, undeb yr actorion, yn brwydro dros hawliau rhieni yn y gweithlu erbyn hyn, er mwyn sicrhau chwarae teg, a hawl menywod i barhau i weithio tra'n bronfwydo yn un o'r gofynion elfennol.
Dyma fi fel Martha yn y ffilm Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis a fflimiwyd ym Mhontsian. Roedd Martha yn un o'r cymeriadau difyrraf dwi erioed wedi chwarae, nid yn unig oherwydd sgript Caryl Lewis, seliwyd ar ei nofel wych, ond oherwydd natur y cynnwys, a'i bortread o gefn gwlad.
Roedd y cyfan mor gyfarwydd i fi oherwydd fy magwraeth ym mhentref bach Llandyfaelog er na ches i fy magu ar ffarm. Er fod y ffilm wedi ei osod yn y presennol, doedd y cymeriadau yma heb symud rhyw lawer gyda'r amser, ac oedd cael bod yn rhan o olygfeydd y cywain gwair, a bwydo'r oen swci, a dilyn y tymhorau o'r cae gwenith i eira'r gaeaf yn bleserus tu hwnt.
Ac roedd y ffaith ei fod e wedi ei wreiddio mor ddwfn yn ein diwylliant ni yn golygu ei fod e'n fwy na stori, ac yn gyfraniad pwysig i'n ymwybyddiaeth o'n etifeddiaeth fel cenedl. Ar ben hynny i gyd oedd y gwmniaeth a'r hwyl a gafwyd wrth ffilmio yn arbennig, fel sy'n digwydd bob tro.
Enillais wobr yr actores orau gan BAFTA Cymru am fy mhortread o Martha, oedd yn geiriosen ar ben y dishen, ond y gwir wobr oedd cyflawni'r gwaith. Does dim byd tebyg i weithio mewn tîm a phawb yn cydweithio ac ymdrechu i'r eithaf er mwyn cyrraedd yr un nod. A gan fy mod i wedi byw cymaint o fy mywyd ar setiau ac mewn ystafelloedd ymarfer a theatrau, da o beth yw hynny.