Sgrinio yn Nhonypandy wedi achos o dwbercwlosis

  • Cyhoeddwyd
Welcome Inn, TonypandyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r broses sgrinio yn cael ei chynnal yn y dafarn ond does dim awgrym mai yno y daliodd y claf yr haint

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Rhondda Cynon Taf i sgrinio cysylltiadau agos person sydd wedi ei heintio â'r clefyd twbercwlosis yn Nhonypandy.

Mae'r unigolyn yn gysylltiedig â thafarn y Welcome Inn yn y dref.

Eisoes mae rhai sydd wedi bod mewn cyswllt agos â'r unigolyn wedi cael gwahoddiad i gael eu sgrinio.

Ond mae'r awdurdodau'n dweud nad yw'r risg i'r cyhoedd yn uchel, ac nad oes rhagor o achosion wedi dod i'r amlwg.

Does dim byd i awgrymu bod y claf wedi dal y clefyd yn y dafarn, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ond maen nhw'n credu iddyn nhw fynychu'r dafarn heb sylweddoli eu bod wedi eu heintio.

Fel cam rhagofal, mae tua 70 o gysylltiadau agos y person dan sylw wedi cael cynnig profion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ysgyfaint wedi'i heffeithio gan TB

Risg i'r cyhoedd yn isel

Dywedodd Dr Elizabeth Marchant ar ran ICC: "Mae'n anodd trosglwyddo TB. Mae'n gofyn am gyswllt agos ac estynedig gydag unigolyn heintus, fel byw ar yr un aelwyd, cyn y bydd person yn cael ei heintio.

"Byddwn yn pwysleisio bod y risg o haint â TB i'r cyhoedd yn parhau'n isel iawn.

"Mae'r sgrinio sy'n cael ei gynnal yn Nhonypandy yn rhan arferol o weithdrefnau rheoli heintiau.

"Er mwyn hwyluso'r broses sgrinio, caiff ei chynnal yn y Welcome Inn.

"Os caiff heintiau TB positif eraill eu nodi o ganlyniad i hyn, bydd triniaeth briodol yn cael ei chynnig. Mae modd gwella TB gyda chwrs llawn o driniaeth."