Heol Fanog: 'Un o straeon arswyd mwyaf Prydain'
- Cyhoeddwyd
Wrth droed mynyddoedd y Bannau Brycheiniog mae ffermdy Heol Fanog, sy'n edrych yn ddigon cyffredin o'r ffordd fawr.
Ond 30 mlynedd yn ôl pan symudodd Liz a Bill Rich i mewn i'r hen ffermdy gyda'u teulu ifanc, prin yr oedden nhw'n disgwyl cymaint o brofiadau arswydus, rhai wnaeth eu gyrru nhw allan o'u cartref yn y pendraw.
Erbyn hyn mae profiadau'r teulu tra'n byw yn Heol Fanog wedi cael ei droi'n ddrama-ddogfen o'r enw The Witch Farm ar BBC Sounds gan Danny Robbins..
Cymru Fyw gafodd air gyda Danny Robins, sydd wedi gwneud ei farc fel cynhyrchydd y podlediadau poblogaidd Uncanny a The Battersy Poltergeist ac fel awdur y ddrama-lwyfan yn y West End gyda 2:22 a Ghost Story.
Mae'n ymddiddori'n fawr yn y byd arallfydol ac mae'n credu mai stori Heol Fanog "yw un o straeon arwsyd mwyaf Prydain".
'Un o straeon arswyd mwyaf Prydain'
"Roeddwn wedi clywed am hanes Heol Fanog o'r blaen, ond roedd y straeon blaenorol gydag elfen o gyffro sensationalist ynddyn nhw," meddai Danny Robins.
"Yn dilyn llwyddiant 'The Battersey Poltergeist' roeddwn eisiau stori gydag ychydig mwy o gig arni, a phan weles i hon a siarad gyda Liz, roeddwn yn gwybod mai dyma'r un.
"Heb os dwi'n credu erbyn hyn mai dyma un o straeon arswyd mwyaf Prydain."
Mae cyfres The Witch Farm yn mynd â'r gwrandäwr yn ôl dros 30 mlynedd i 1989, ac yn dilyn ôl troed Liz a Bill Rich sy'n symud i fyw i ffermdy anghysbell Heol Fanog yn y Bannau Brycheiniog.
Mae'r ardal o amgylch y ffermdy'n enwog am chwedlau tylwyth teg, gwrachod a straeon am y diafol.
Mae hanesion lleol hefyd am ddewiniaeth, llofruddiaethau a defodau Celtaidd sy'n ychwanegu at straeon o ysbrydion dieflig.
'Mae pethau rhyfedd iawn yn digwydd fan hyn'
Nôl ym Mai 1989 symudodd y Cymraes Liz Rich a'i gŵr Bill, oedd artist o Loegr, mewn i'r ffermdy gyda mab Bill o'i briodas gyntaf oedd yn ei arddegau.
Doedd neb arall yn byw yn agos atyn nhw, roedden nhw mewn safle cwbl ddiarffordd ac yn anymwybodol o'r hyn oedd yn eu disgwyl yng nghysgod mynyddoedd y Bannau Brycheiniog.
Yn dilyn genedigaeth eu merch Rebecca, wnaeth gyrraedd wrth i'r hydref droi'n aeaf, newidiodd bywydau'r teulu am byth oherwydd digwyddiadau dychrynllyd.
Roedden nhw'n clywed sŵn traed yn ddyddiol yn rhedeg i fyny ac i lawr y grisiau, drysau yn cau'n glep ar eu pen eu hunain ac arogl sylffwr yn llenwi'r tŷ heb esboniad.
Roedd bil trydan y safle hefyd yn echrydus o uchel, £750 am werth dri mis o drydan, sy'n bron yn £2000 yn arian heddiw. Wedi ymchwiliad gan y cyflenwyr trydan, doedd dim i'w weld o'i le a'r cyfan yn anesboniadwy.
Yn wythnos gyntaf y teulu o fyw yno, roedd ffermwr lleol wedi rhybuddio'r cwpwl am hanes y safle a'r hen chwedloniaeth oedd yn gysylltiedig â Heol Fanog,
"Mae pethau rhyfedd iawn yn digwydd fan hyn," meddai, ond roedd y teulu'n fodlon derbyn mai chwedlau'n unig oedd y rhain.
Roedd hyn i gyd yn ddechreuad i ddigwyddiadau hyd yn oed mwy difrifol wrth i'r blynyddoedd basio o fyw yn Heol Fanog.
"Pan glywes i hyn i gyd roedd o'n gyffrous iawn. Nid ond un math o ddigwyddiad sydd fan hyn, ond cyfres o brofiadau gwahanol sydd angen eu harchwilio, mae'n wahanol iawn i unrhyw stori arswyd dwi erioed wedi dod ar ei draws o'r blaen," meddai Danny.
Digwyddiadau anesboniadwy
"Pan nes i gwrdd gyda Liz rhai misoedd yn ôl cyn cynhyrchu'r gyfres, roeddwn yn gallu dweud yn nhôn ei llais ei bod hi dal yn ofnus iawn wrth drafod ei phrofiadau yn Heol Fanog, a cymaint o effaith mae saith mlynedd o fyw yno dros 30 mlynedd yn ôl wedi cael arni hi," meddai.
Mae Liz Rich dal i fyw yn ardal Aberhonddu ac mae ei gŵr Bill bellach wedi marw.
Yng ngolygfeydd dramatig y podlediad, mae cymeriad Liz yn cael ei chwarae gan yr actores o Gymru, Alexandra Roach, a chymeriad Bill yn cael ei chwarae gan Joseph Finnes.
Wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd rhagddynt, roedd profiadau'r teulu yn mynd yn fwy eithafol.
Roedd anifeiliaid ar y fferm yn marw un fesul un yn anesboniadwy, roedd ymddangosiadau ysbrydol yn digwydd yn y tŷ a'r teulu yn dioddef niwed corfforol gan fwganod nad oedd posib eu gweld.
"Tydw i erioed wedi gweld achos o'i fath," meddai Danny.
"Mae tystion eraill i'r hyn ddigwyddodd hefyd yn cael eu cynnwys ar y podlediad. Pobl fel Rebecca, merch Liz a chyfreithiwr y teulu, Glyn Maddocks.
"Mae'r Paraseicolegwyr Cieran O'Keefe ac Evelyn Hollow hefyd yn rhan o'r dadansoddi i geisio mynd at wraidd beth oedd yn digwydd yn Heol Fanog, a'i stori arswyd yw hwn, neu oes modd esbonio'r cyfan?"
Gwenno'n dal ei thir ac yn mynnu canu'n Gymraeg
Yn ogystal â defnyddio actorion o Gymru, mae thema'r gyfres hefyd yn cael ei berfformio yn y Gymraeg gan Gwenno.
"Roeddwn yn ymwybodol iawn o Gwenno a'i thalentau.
"Wrth drefnu'r gyfres roeddwn yn benderfynol o gynnwys actorion a chymaint o agweddai Cymreig a oedd yn bosibl. Pan nes i ofyn i Gwenno berfformio'r gân, roeddwn eisiau iddi ei gwneud hi'n Saesneg.
"Ond, roedd Gwenno yn mynnu perfformio yn y Gymraeg, i'r pwynt lle wnaeth hi wrthod cymryd rhan yn gyfan gwbl os oedd rhaid iddi ganu'n Saesneg, felly, dyma fi'n cytuno a dwi mor hapus gyda'r canlyniad.
"Mae'r gan yn ffitio'n berffaith i'r hyn dwi'n ceisio ei gyfleu," meddai Danny.
'Stori ddychrynyllyd'
Wrth gamu'n ôl mewn amser gyda Liz, mae Danny Robbins yn grediniol y bydd stori Heol Fanog yn cael ei gofio ar yr un lefelau a rai o straeon arswyd mwyaf poblogaidd mewn hanes fel yr Amitaville Horror a'r Enfield Poltergeist.
"Dwi wirioneddol yn credu mai hon ydy stori arswyd fwyaf Prydain. Ar ôl gwneud yr holl ymchwil a siarad gyda'r tystion, mae'r cyfan yn anhygoel i feddwl ei fod wedi para saith blynedd.
"Mae rhywbeth anhygoel am y tirwedd ac am Gymru yn gyffredinol sydd wedi agor fy llygaid i'r holl straeon arswyd sy'n bodoli yma.
"Ond, er i mi dderbyn cannoedd o straeon arswyd yn wythnosol gan wrandawyr 'Uncanny', heb os mae hon yn sefyll allan fel yr un fwyaf dychrynllyd," meddai.
A'i dychymyg y teulu oedd yn gyfrifol am hyn i gyd? Neu oedd yna rywbeth arallfydol yn Heol Fanog? Un peth sy'n sicr, roedd y stori'n ddigon i ddenu un o archwilwyr enwocaf Prydain yn Danny Robbins.
Mae modd gwrando ar gyfres The Witch FarmMae modd gwrando ar gyfres The Witch Farm ar BBC Sounds, ac mae Danny Robbins yn croesawu gwrandawyr i anfon eu teimladau a'u sylwadau am yr achos.