Cyhoeddi carfan merched Cymru i herio'r Ffindir
- Cyhoeddwyd
Mae Gemma Grainger wedi cyhoeddi ei charfan wrth baratoi ar gyfer gêm gyfeillgar ymhen 10 diwrnod.
Bydd Cymru'n wynebu'r Ffindir yn Stadiwm Pinatar yn Sbaen ddydd Sadwrn 12 Tachwedd.
Yr un 26 chwaraewr wnaeth gynrychioli Cymru yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd fis diwethaf fydd yn teithio.
Dydy Natasha Harding ddim wedi ei chynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar a hynny oherwydd "rhesymau personol".
"Dwi am i bob chwaraewr fod ar gael i'w dewis, ond oherwydd y sefyllfa bresennol, y peth gorau i'r chwaraewr yw nad yw hi yma," meddai Grainger.
Yr her olaf eleni
Doedd Harding ddim yn bresennol ar gyfer y gemau'n erbyn Bosnia & Herzegovina a'r Swistir fis Hydref, lle fethodd Cymru â chyrraedd y bencampwriaeth.
Yn Sbaen fydd her olaf Cymru eleni.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mai 2022 oedd y flwyddyn lle gafodd y merched y cyfle i chwarae o flaen y dorf fwyaf erioed.
Fe wnaeth 15,200 wylio rownd cynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd Merched FIFA yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Hydref, yn ôl y gymdeithas.
Y garfan yn llawn
Laura O'Sullivan, Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Georgia Walters, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Ceri Holland, Maria Francis-Jones, Chloe Williams, Morgan Rogers, Chloe Bull.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022