Cyfres yr Hydref: Cymru 23-55 Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Rio DyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rio Dyer yn sgorio ei gais cyntaf yn ei gêm gyntaf i Gymru

Bydd yn rhaid i dîm Cymru ddisgwyl eto am eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Seland Newydd ers 1953.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn y pum munud cyntaf pan ildiodd Cymru gic gosb ychydig dros 10 metr i mewn i'w hanner eu hunain gyda Richie Mo'unga yn sicrhau'r triphwynt.

Roedd yna ragor o bwysau ar amddiffyn Cymru. Yn dilyn gwaith sgrymio effeithiol gan y Crysau Duon fe groesodd y bachwr Cody Taylor am gais cynta'r gêm gafodd ei drosi gan Mo'unga.

Ar ôl 18 munud fe gafodd Taylor ei ail gais. Unwaith eto dwylo gofalus gan flaenwyr Seland Newydd wrth ymwthio tuag at y llinell gais a Taylor yn neidio ar y bêl rydd.

Ychwanegodd Mo'unga y trosiad i roi Seland Newydd 17-0 ar y blaen hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf.

Gobaith

Roedd yna lygedyn o obaith i'r Cymry ar ôl 25 munud pan lwyddodd y cap newydd Rio Dyer i dorri'n rhydd am ei gais cyntaf dros ei wlad. Ychwanegodd Gareth Anscombe y trosiad.

Roedd Anscombe yn chwarae yn safle'r cefnwr ar ôl i Leigh Halfpenny gael ei anafu cyn y gêm. Rhys Priestland oedd y maswr.

Mae'n ymddangos bod y cais wedi deffro'r Cymry wrth i'r canolwr Tompkins ennill tir ynn agos i'r llinell. Enillodd y crysau coch gic gosb gyda Anscombe yn cicio'n gywir rhwng y pyst i'w gwneud hi'n 17-10 i'r ymwelwyr.

Ond ymhen chwinciad fe roedd Seland Newydd wedi ymestyn eu mantais gyda Mo'unga yn penderfynu cicio ar draws y cae tuag at y gornel dde. Yno yn disgwyl amdani roedd y cawr o ganolwr Jordie Barrett i groesi'r llinell. Doedd gan Dyer ddim gobaith ei atal. Methodd Mo'unga'r trosiad.

Yn dilyn llinell wael gan Seland Newydd fe gipiodd Ken Owens y bêl ac ennill cig gosb arall i Gymru. Unwaith eto fe lwyddodd Anscombe i gadw'r sgôr yn barchus a'i gwneud yn 22-13 ar yr egwyl.

Dechrau addawol

Chydig funudau i mewn i'r ail hanner roedd 'na ragor o obaith i dîm Wayne Pivac wrth i chwarae llac gan y Crysau Duon roi mantais i Gymru. Wrth geisio croesi'r llinell enillodd y crysau coch gic gosb arall gdya Anscombe yn ychwanegu'r triphwynt.

Ond ymatebodd Seland Newydd yn syth gyda'r mewnwr Aaron Smith yn canfod gofod ynghanol cae a rhuthro at y llinell am gais cofiadwy. Fe gafodd y cais ei drosi gan Mo'unga.

Roedd yna gais arall i Gymru yn fuan wedyn gyda'r capten Tupiric yn croesi ar ôl i'r dyfarnwr cynorthwyol astudio'r symudiad arweiniodd at y caisa am gryn amser. Cafodd y cais ei drosi gan Anscombe.

29-23 i Seland Newydd ond roedd y cefnogwyr yn dechrau synhwyro y gallai'r Cymry achosi sioc.

Yr ymwelwyr yn meistrioli

Ond cafodd y dorf ei thawelu eto ar ôl 53 munud gyda Aaron Smith yn croesi am ei ail gais a Mo'unga yn trosi.

Gyda chwarter awr i fynd fe ymestynodd mantais yr ymwelwyr pan groesodd yr wythwr Ardie Savea er gwaethaf ymdrechion dewr Will Rowlands i'w atal rhag tirio'r bêl. Doedd na'm pwyntiau ychwanegol gan M'ounga y tro hwn.

Roedd na ôl blinder yn chwarae Cymru yn y deng munud olaf. Fe fanteisiodd yr ymwelwyr am hynny gyda Jodie Barrett yn croesi am ei ail gais. Cafodd y cais eidrosi gan ei frawd Beauden Barrett y cefnwr.

Roedd y cloc wedi troi'n goch pan sgoriodd Samisoni Taukei'aho. Cafodd y cais ei drosi gan Barrett.

Ar ôl cyfnod addawol i Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf a dechrau'r ail hanner, roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Seland Newydd yn y diwedd o 23-55.

Pynciau cysylltiedig