Cyflog nyrs 'wedi aros yr un fath ers 12 mlynedd'

  • Cyhoeddwyd
nyrsys yn streicioFfynhonnell y llun, PA Media

Mae cyflogau nyrsys wedi aros yr un fath ers dros ddegawd, yn ôl un nyrs brofiadol sy'n cefnogi penderfyniad i fynd ar streic.

Mae aelodau Coleg Brenhinol y Nyrsys ym mhob un ond un o fyrddau iechyd Cymru wedi pleidleisio dros fynd ar streic oherwydd lefel cyflogau a phryderon ynglŷn â diogelwch cleifion.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau, dywedodd un nyrs yng ngogledd Cymru bod ei chyflog "fwy neu lai" yr un fath ag yr oedd 12 mlynedd yn ôl.

"Mi wnes i bleidleisio dros gyflog teg ar gyfer nyrsys... mi wnes i bleidleisio i gael mwy o ddiogelwch a diogelu cleifion at y dyfodol," meddai Cerian Parry.

"Dwi 'di cymhwyso ers 26 blynedd, mae'r bychan gen i yn 12 oed, ac mae 'nghyflog i mwy neu lai yr un fath yn union i'r hyn oedd o 12 mlynedd 'nôl.

"Fedra' i feddwl am esiamplau lle mae'r gwasanaeth iechyd wedi gorfod dibynnu ar ewyllys da gweithwyr," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dyma'r tro cyntaf yn eu hanes, sy'n mynd yn ôl 106 o flynyddoedd, i Goleg Brenhinol y Nyrsys bleidleisio i streicio.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, bod llywodraethau Caerdydd a Llundain wedi "dewis peidio" â gweithredu i ddatrys y sefyllfa yn gynt.

"Mae'r sefyllfa yma yn un y galla fod wedi ei datrys o gael ymateb cynharach gan lywodraethau ym Mae Caerdydd ac yn Llundain - mi ddewison nhw i beidio," meddai wrth Dros Frecwast.

"Dwi yn cefnogi aelodau Coleg Brenhinol y Nyrsys heb os.

"Mae'n drist ei bod hi wedi dod i hyn, does neb isio gweld streicio, yn cynnwys y nyrsys eu hunain."

Wrth ymateb i'r cwestiwn, onid ydy hi'n hawdd i wrthbleidiau gefnogi'r streic, dywedodd: "Nid peth newydd ydy nyrsys yn dadlau am gyflog a thriniaeth deg, mi oedd Llywodraeth Prydain ar fai am greu llymder a arweiniodd at greu'r sefyllfa honno, ond mi gafodd Llywodraeth Cymru gyfle hefyd, pan nad oedd y sefyllfa mor ddu ag ydy hi rŵan, i ymateb i'r galwadau yma gan nyrsys."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gofynnwyd iddo o ble'r oedd yr arian am ddod i dalu'r codiad cyflog o 17% y mae'r nyrsys yn galw amdano.

"Mae angen i lywodraethau eistedd rownd y bwrdd gyda nyrsys a thrafod y ffordd ymlaen, mae costau yn cynyddu," meddai.

"Mae hi [y gweinidog iechyd, Eluned Morgan] yn gorfod dod o hyd i'r arian i gadw'r goleuadau ymlaen a chadw'n hysbytai yn gynnes, mae hi wedi dod i'r casgliad nad ydy hi'n gorfod dod o hyd i arian i sicrhau bod ein nyrsys yn cael eu talu'n deg."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pam bod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio fel hyn ac yn cytuno bod nyrsys yn haeddu cyflogau teg am eu gwaith pwysig".

Ond ychwanegodd llefarydd bod terfyn ar ba gamau y gallan nhw eu cymryd heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Pleidleisiodd nyrsys ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, ar wahân i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, dros gefnogi streicio.

Mae'r cyfnod cyntaf o weithredu diwydiannol yn debygol ym mis Rhagfyr, ac mae mandad yr undeb i drefnu rhagor o streiciau yn para tan ddechrau mis Mai 2023.

'Deall a pharchu penderfyniad'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn parchu hawl cydweithwyr i gymryd rhan mewn streic gyfreithlon, mewn modd diogel a heddychlon.

"Rydym yn deall pam y pleidleisiodd cymaint o'n cydweithwyr dros streicio, ac yn cydnabod fod hwn yn gyfnod heriol i lawer, gyda'r galw anferthol ar ein gwasanaeth iechyd, gyda gaeaf heriol o'n blaenau a'r cynnydd costau byw ar draws y DU.

"Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu'r lefel staffio orau bosib, yn enwedig mewn adrannau brys ac arbenigol, a hoffwn gysuro cymunedau mai diogelwch cleifion a'u hanwyliaid yw'r flaenoriaeth fwyaf.

"Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd i'n cydweithwyr, a byddwn yn parhau i weithio gyda chymdeithasau staff ac RCN Cymru i leihau'r effaith ar wasanaethau, a sicrhau ein bod yn darparu gofal achub-bywyd a chynnal-bywyd drwy gydol cyfnod y gweithredu diwydiannol."