Nyrsus yng Nghymru i fynd ar streic dros well cyflogau
- Cyhoeddwyd
Mae nyrsys o bob rhan o'r DU wedi pleidleisio i fynd ar streic dros ragor o gyflog, gyda disgwyl i'r gweithredu ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd aelodau o Goleg Brenhinol y Nyrsys mewn ysbytai a thimau cymunedol yn cymryd rhan, ond bydd staff yn dal ar gael i weithio mewn adrannau gofal brys.
Fe bleidleisiodd nyrsys ym mhob bwrdd iechyd heblaw un yng Nghymru dros weithredu.
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain oedd yr unig un i fethu â chyrraedd y trothwy ar gyfer cynnal streic.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pam bod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio fel hyn ac yn cytuno bod nyrsys yn haeddu cyflogau teg am eu gwaith pwysig".
Ond ychwanegodd llefarydd bod terfyn ar ba gamau y gallan nhw eu cymryd heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.
Yn ogystal â Chymru, mae aelodau pob un o wasanaethau'r GIG yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio dros streicio.
Ond roedd y nifer bleidleisiodd yn rhy isel i ganiatáu gweithredu yn bron i hanner yr ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr.
Dywed Coleg Brenhinol y Nyrsys bod eu haelodau yn y rhan fwyaf o'r GIG yng Nghymru wedi pleidleisio dros fynd ar streic oherwydd lefel cyflogau a phryderon ynglŷn â diogelwch cleifion.
Maen nhw wedi cadarnhau fod y cyfnod cyntaf o weithredu yn debygol ym mis Rhagfyr, a bod mandad yr undeb i drefnu rhagor o streiciau yn para tan ddechrau mis Mai 2023.
Hwn yw'r balot statudol cyntaf ar weithredu drwy'r DG yn y 106 o flynyddoedd ers ffurfio Coleg Brenhinol y Nyrsus (RCN).
Mae RCN Cymru wedi bod mewn anghydfod gyda Llywodraeth Cymru ers mis Hydref 2021 ynglŷn â'r codiad cyflog o 3% i staff nyrsio'r Gwasanaeth Iechyd.
"'Da ni wedi ystyried o ddifri cyn gweithredu'n ddiwydiannol," meddai un o'u llefarwyr yng Nghymru, Sandra Robinson Clarke.
"Ar ddiwedd y dydd 'da ni wedi gorfod siarad i fyny dros y proffesiwn a'n cleifion.
"'Da ni wedi cael digon. 'Di o ddim yn rhywbeth 'da ni wedi gysidro yn ysgafn.
"Dydi hi ddim wedi bod yn hawdd ond mae'n rhaid i ni sefyll fyny i'r llywodraeth. Mae'n rhaid iddyn nhw ddeall bod ni'n sefyll fyny dros y proffesiwn.
"Fedran ni ddim fforddio colli mwy o nyrsys. 'Da ni wedi colli cymaint, mae 'na 3,000 o swyddi gwag yng Nghymru yn unig."
'Digon yw digon'
Dywedodd cyfarwyddwr yr undeb Helen Whyley: "Mae heddiw'n ddiwrnod hanesyddol i'r proffesiwn nyrsio, ein cleifion a dyfodol nyrsio, ond yn y bôn mae'n seiliedig ar sefyllfa o anobaith.
"Dyw'r penderfyniad i streicio ddim wedi ei gymryd yn ysgafn.
"Mae ein haelodau wedi datgan eu barn ar benderfyniad sydd wedi bod yn anodd dros ben, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae canlyniad y balot yn dangos sut mae staff nyrsio yn rhoi diogelwch eu cleifion uwchlaw popeth arall.
"Dros yr wythnosau diwethaf o'n hymgyrch, dwi wedi cael fy llorio gan y gefnogaeth mae ein haelodau a'r cyhoedd wedi ei ddangos.
"Dwi wedi ymweld ag ysbytai a gweithleoedd drwy Gymru, ac wedi clywed am nyrsus sy'n cael trafferth i dalu eu biliau cartref, a'r oriau ychwangol maen nhw wedi eu weithio am ddim i gynnal y GIG.
"Maen nhw wedi dweud am eu pryder parhaus am ddiogelwch eu cleifion oherwydd prinder staff.
"Mae'r neges yn glir. Digon yw digon."
Nyrsys yn 'haeddu cyflog teg'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod pam bod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio fel hyn ac yn cytuno bod nyrsys yn haeddu cyflogau teg am eu gwaith pwysig".
Ond ychwanegodd fod "terfyn ar ba mor bell allwn ni fynd i leihau'r pryderon yma yng Nghymru heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.
"Yn dilyn canlyniad y bleidlais, byddwn yn gweithio gydag adrannau'r GIG a'r byrddau iechyd ar eu cynlluniau.
"Dylai'r cyhoedd fod yn hyderus y bydd trefniadau gyda RCN Cymru i sicrhau y bydd lefel ddiogel o staff drwy'r adeg, gyda gofal i achub a diogelu bywydau'n cael ei gynnal yn ystod unrhyw weithredu diwydiannol."
'Clapio ddim yn ddigon'
Dywedodd llefarydd cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd Russell George AS ei fod yn gresynu fod nyrsys wedi penderfynu mynd ar streic, ond mai cyfrifoldeb y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yw eu tâl ac amodau.
"Fydd hyn ond yn dwysau'r problemau sy'n wynebu Gwasanaeth Iechyd gwaetha'r DU, gan mai yng Nghymru o dan Lafur mai'r rhestrau hiraf ar gyfer triniaethau, a'r amseroedd aros hiraf ar gyfer gwasanaethau brys ac ambiwlansys," meddai.
Mae Plaid Cymru wedi datgan cefnogaeth i benderfyniad y nyrsys.
"Fedrwn ni ddim disgwyl y math o ymroddiad mae nyrsys yn ei roi i'w gwaith ac i gleifion heb sicrhau eu bod yn cael eu gwobrwyo'n deg," meddai eu llefarydd ar iechyd Rhun ap Iorwerth AS.
Dywedodd Jane Dodds AS o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mi wnaethon ni guro dwylo i'n nyrsys yn ystod Covid, ond 'di clapio ddim yn ddigon.
"Pan mae ganddo ni nyrsys yn defnyddio banciau bwyd, mae'n eglur bod y system ddim yn gweithio ac mae'n rhaid i ni wneud yn well.
"Mae angen i Lafur ym Mae Caerdydd a'r Ceidwadwyr yn San Steffan i gael eu pennau at ei gilydd a sicrhau bod staff gofal iechyd yn cael eu talu'n deg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022