Beth yw hanes Hen Wlad Fy Nhadau?
- Cyhoeddwyd
Bydd Hen Wlad Fy Nhadau i'w chlywed ledled y byd gan filiynau o bobl yn ystod Cwpan y Byd yn Qatar, gyda nifer efallai yn ei chlywed am y tro cyntaf.
Cafodd ei chyfansoddi yn 1857 ac mae gan y gân le pwysig iawn yn niwylliant Cymru ers blynyddoedd lawer. Yn siarad ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, Sion Jobbins, awdur The Welsh National Anthem, sy'n rhoi hanes sut y daeth y gân yn anthem, a pham ei bod mor boblogaidd.
Fel unrhyw gân dda mae 'na rhyw ramant ynglŷn â'i chyfansoddi hi - 'dyw hi ddim yn glir os mai Evan James y tad sgrifennodd y geiriau neu James James y mab sgwennodd y dôn. Yn ôl y sôn bydde Evan James yn cael peint o gwrw pan o'dd e'n cyfansoddi - roedd y tad a'r mab yn mynd o gwmpas tafarndai Blaenau Morgannwg yn canu ac ennill bach o arian.
Ym Mhontypridd ar y pryd roedd 'na werinwyr, diwylliedig, Cymraeg eu hiaith. Bois yn gweithio mewn rhyw fath o ddiwydiant - gyda rhyw gof o derfysg Merthyr yn 1831, a'r terfysg yn Casnewydd 1839. Roedd y bobl 'ma falle ddim o reidrwydd yn weriniaethol iawn yn wleidyddol, ond falle nad oedden nhw mor frenhinol a ddim mor Brydeinllyd na chenhedlaeth ynghynt.
Efallai ddim cweit mor grefyddol hefyd, roedd diwygiad wedi bod rhyw flwyddyn neu ddwy ar ôl cyfansoddi'r geiriau. Mae'r holl bethau bychain yma yn esbonio pam fod geiriau Hen Wlad Fy Nhadau wedi gweithio, achos rwy'n rhyw deimlo os bydde'r anthem wedi cael ei sgwennu 10 mlynedd yn hwyrach bydde'r geiriau wedi bod bach mwy 'trwbwl-llyd'. Ond mae'n nhw'n eiriau gwych, a mae'r ffaith bod e wedi ei gyfansoddi ym Mhontypridd ar yr adeg yna yn dweud lot am pam llwyddodd y gân.
Mae'r gân yn cael ei pherfformio gyntaf yn festri Capel Tabor, yn Maesteg, gan Elizabeth John, merch 16 oed. Ac yn fuan wedyn mae hi ar sheets yn cael ei gwerthu gan blant mas ar y stryd ym Mhontypridd - dyma sut oedd bobl yn gwybod am ganeuon yr adeg hynny, fel yr oedd pobl yn prynu records wedyn, ac yn lawrlwytho o Spotify nawr. Yna mae'n mynd i eisteddfod enwog Llangollen yn 1958 yn rhan o gyfrol o ganeuon o dan yr enw Glan Rhondda.
Rwy'n mynnu canu fel hwntw pan dwi'n canu Hen Wlad fy Nhadau - nid 'gwaed' dylen ni ddweud, ond 'gwad'. Felly dwi'n gofyn i'r gogs ddweud 'gwad' achos dydi 'gwaed' ddim yn odli gyda 'gwlad', ond mae 'gwad'. Ac mi fydde fe wedi i James James odd yn byw yn Pontypridd.
Gemau rhyngwladol
Mae'n eitha diddorol y gymhariaeth rhwng Hen Wlad Fy Nhadau ac Yma o Hyd. Mae 'di cymryd rhyw 40 mlynedd i Yma o Hyd ddod yn rywfath o anthem - cafodd ei chyfansoddi gan Dafydd Iwan ar ddechrau'r 1980au fel cân i godi calon bobl.
Mae'n rywbeth tebyg o edrych ar yr anthem hefyd gyda hi'n cael ei chanu cyn y gêm rhwng Cymru a Seland Newydd yn 1905 yn ymateb i'r Haka. Mae Tom Williams o Undeb Rygbi Cymru'n dweud "gwnewch rhywbeth bois", ac wrth gwrs mae rhaid nhw fod yn hollol hyderus bod pawb yn y dorf yn gwybod geiriau Hen Wlad Fy Nhadau. Roedd y rhan fwyaf o'r dorf yn siarad Cymraeg ar y pryd felly bydde hon wedi bod yn gân boblogaidd i'w chanu ar ddiwedd Eisteddfod neu ddigwyddiadau cyhoeddus, felly oedd e'n beth naturiol.
Oedd 'na dipyn o fynd ar God Save the Prince of Wales (sydd yr un dôn â chân mae cefnogwyr Rangers yn ei chanu, The Siege of Derry). Roedd y gân yna'n cael ei chanu, os chi'n darllen papurau newydd, o'r 1860au, 70au, 80au; mae lot o sôn am 'national anthem' a chi'n gallu cymryd mai God Save the Queen yw hwnna fel rheol.
'Parch Brenhinol'
Mewn eisteddfod yn yr Albert Hall yn 1877 mae Tywysog Cymru, Prince Albert, yna ac maen nhw'n canu God Save the Prince of Wales. Ond wedyn mae'r dorf yn canu Hen Wlad fy Nhadau.
Doedd hyn yn amlwg ddim lawr ar y rhaglen a doedd y Teulu Brenhinol ddim yn disgwyl hyn, ond maen nhw'n stopio o ran parch. Roedd hyn fel rhyw 1-0 i Hen Wlad Fy Nhadau achos oedd pobl yn meddwl 'Ok mae hyd yn oed y Teulu Brenhinol wedi stopio a dangos parch i'r anthem yma'. Roedd yn cael ei chanu ar y Mimosa pan adawodd Lerpwl am Y Wladfa yn 1865.
Mae dwsinau o ganeuon ac emynau gwych yn y Gymraeg yn y 19eg Ganrif, ond mae hon am ryw reswm wedi llwyddo i oresgyn rheina. Dwi'n meddwl bod hi'n gwneud rhywbeth gyda geiriau Evan James - mae bron a bod yn rhy swgwrllyd, rhy rhamantus. Mae'r ail a'r trydydd pennill braidd dros y top o melodramatic. Ond mae'r geiriau ei hun just about ddigon cynnil ac wedi cadw hwnna ar yr ochr iawn.
'Anthem annwyl'
Be sy'n glyfar am Hen Wlad Fy Nhadau ydy na chafodd hi ddim ei sgwennu gan bwyllgor - mae llawer o anthemau yn enwi pethau er mwyn dangos maint eu gwlad. Mae anthem Wcráin yn enwi y ffin sy'n mynd lan at Kuban sydd nawr yn Rwsia ond ar y pryd ble roedd Wcrainiaid yn byw. Mae anthem Yr Almaen yr un peth yn sôn am Memel sydd nawr yn rhan o Lithuania.
Mae wastad rhyw risg efo anthemau ac enwi llefydd rhag ofn bo chi'n colli tiroedd, ac mae rhan fwya' o anthemau'n sôn am rhyw frenin neu rhyw frwydr, ond dydi Hen Wlad Fy Nhadau ddim. Mae hi'n anthem annwyl iawn, ac achos hynny mae'n gallu apelio at bawb - does dim sôn am frenin na chwaith gweriniaeth, dim sôn am unrhyw fath o dirwedd nodedig, dim yn sôn am Dduw neu Gristnogaeth.
Felly mae'n glyfar achos mae'n llwyddo i beidio codi gwrychyn. Roedd hi ddigon derbyniol i'r Teulu Brenhinol - petai ganddo chi anthem fel Yr Alban sy'n dweud 'send them back to think again', mae hwnna'n eitha' aggressive ac mae anthem Iwerddon, The Soldier's Song hyd yn oed yn fwy. Ond mae anthem Cymru'n gallu apelio at bawb.
Y sôn ydy bod Evan James wedi ysgrifennu'r gân ar ôl ysgrifennu llythyr i'w frawd yn America. Roedd ei frawd yn dweud pa mor wych oedd bywyd yn America a'r cyfleon oedd yno. Os mai hynny sy'n wir mae'n gwneud synnwyr wedyn bod Evan James yn dweud 'Annwyl frawd...' ac yn ateb gyda rhyw faniffesto i aros yng Nghymru.
Mae'n ddiddorol bod y gair 'annwyl' yn llinell gynta'r gân, achos dwi yn meddwl efallai bod sail i'r stori ei fod wedi dechrau sgwennu llythyr i'w frawd, ac beth mae'n gwneud wedyn yw rhestru pam fod Cymru'n annwyl iddo fe, ac mae rhywbeth pert am hynny, yn annwyl a thyner a ddim yn rhwysgfawr, a dwi'n meddwl bod hynny wedi apelio at y sentiment Cymreig.
Hefyd o ddiddordeb: