8 ffaith annisgwyl am fwyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae stori hir a chyfoethog yn perthyn i fwyd a diod yng Nghymru, ac er y byddwn yn tueddu i feddwl am gerddoriaeth neu lenyddiaeth wrth sôn am 'Y Pethe', mae bwyd a diod wedi eu plethu'n ddwfn i wead ein diwylliant.
Yr hanesydd bwyd ac awdur y gyfrol Welsh Food Stories, Carwyn Graves, sydd wedi dewis wyth ffaith annisgwyl am fwyd yng Nghymru.
Am ganrifoedd, doedd dim modd cael cig eidion yng Nghymru
Nid yn unig yr oedd biff yn brin ar blatiau gwerinwyr am fod y da yn rhy werthfawr i'w lladd am eu cig at ddefnydd y cartre (cig moch oedd y cig gwerinol ar draws y wlad hyd ddegawdau canol yr 20fed ganrif), doedd dim modd chwaith cael gafael ar eidion mewn gwestai neu dai bwyta! Pam? Am fod y gwartheg i gyd yn cael eu gyrru gan y porthmyn i'w gwerthu ym marchnadoedd Lloegr. Pan ymwelodd un bonheddwr â Dolgellau yn 1768 felly, a gofyn am gig eidion i'w swper, dywedwyd wrtho y byddai'n rhaid gyrru i'r Amwythig amdano gan nad oedd dim ar gael yn lleol!
Mae gennym dros chwe deg math cynhenid o afal a gellyg
Mae angen gwaith pellach yn y maes yma o hyd, ond fel un sydd wedi ymhel ym myd ffrwythau am flynyddoedd bellach, dwi'n meddwl mai'r rhif cywir ar hyn o bryd yw rhyw 45 math o afal (gan gynnwys Brith Mawr, Pen Caled, Marged Niclas a mwy) a rhwng 15 ac 20 math o ellygen (yn dwyn enwau fel Gwehelog, Llanarth Green ac Early St Brides).
Coed yw'r rhain sydd wedi addasu i'w hardaloedd ac sy'n medru cynhyrchu cnwd (organig!) o ellyg ym mynyddoedd Brycheiniog, neu afalau hyfryd ar arfordir gwyntog Ceredigion. Mae ein traddodiad Cymreig o wneud seidyr, perai a choginio ag afalau lawn mor gyfoethog â'r un o'n cymdogion...
Mae bwydydd aml-ethnig Cymreig wedi bod o gwmpas ers achau
Nid newyddbeth yw diddordeb yng Nghymru mewn bwydydd byd-eang. Roedd tŷ bwyta Tseineaidd yn gweini'r boblogaeth leol yng Nghaerfyrddin cyn gynhared â'r 50au, ac agorodd drysau'r bwyty Indiaidd cynta yng Nghaerdydd ddim ond chwarter canrif ar ôl y cynta yn Llundain. Ond yn fwy arwyddocaol na hyn, roedd papurau lleol fel y Cardigan Observer yn cyflwyno ryseitiau cyri i'w darllenwyr mor gynnar â dydd Nadolig 1880!
Gall fod gwirionedd yn celu yn rhai o'n hen goeliau am fwyd
Ymhell cyn bod ymwybyddiaeth ar lawr gwlad o ffyrdd gwyddonol o feddwl, roedd traddodiad gwerin wedi gweithio sawl peth allan am ein cyrff a bwyd - ac mae gwyddoniaeth fodern yn cadarnhau rhai o'r rheiny erbyn hyn. Ystyrid er enghraifft bod cawl ffowlyn yn addas i gleifion - ac erbyn hyn rydym yn gwybod mai'r colagen yn yr isgell sy'n gyfrifol am effeithiau iachusol sylweddol stoc cyw iâr.
Yn yr un modd, delid bod rhinwedd feddyginiaethol i fwydydd eplesedig (fermented) fel llymru neu laeth enwyn. Ac mae ymchwil i iechyd y coluddyn dros y blynyddoedd diwetha wedi datgelu mor rhyfeddol o dda mae'r bacteria mewn bwydydd felly i ni. Roedd yr hen wragedd ymlaen i rywbeth!
Caiff 12 miliwn tunnell o bysgod cregyn eu glanio yn flynyddol yma
Mae traddodiad hirfaith i gynaeafu cocos, cregyn gleision, wystrys a mwy o'n harfordiroedd, ac mae llawer o'r pysgodfeydd hyn yn gynaladwy iawn, gyda busnesau teuluol yn eu cynnal. Rhaff o gocos yw arwydd maer Talacharn, a llys-enw pentre Penrhyndeudraeth hyd yn ddiweddar iawn oedd 'cockle town'.
Ond er bod y cynnyrch yma wedi gwreiddio yn ein diwylliant a ffordd o fwyta, gan borthi glöwyr a gweithwyr ar draws y wlad am genedlaethau, erbyn hyn caiff rhyw 90% o'r ddalfa anferth yma ei allforio - i lefydd fel Sbaen. Mae'r Sbaenwyr wedi sylweddoli peth mor dda sy gyda ni yma...
Nid Caerffili yw'r caws gorau ar gyfer Welsh Rarebit (sef 'Caws Bobi')
Roedd amrywiaeth sylweddol yn ein cawsiau yng Nghymru, gyda chofnod o gaws dafad, caws gafr a chawsiau yn dwyn enwau Ewenni a Sain Ffagan ym Morgannwg. Ond er gwyched caws Caerffili da, nid dyna ddefnyddiwyd yn draddodiadol i wneud caws bobi, ond yn hytrach Cheddar!
Roedd rhywfaint o cheddar yn cael ei gludo draw o wlad yr haf i gymoedd y de, ond cynhyrchwyd peth hefyd ar iseldiroedd Morgannwg a Mynwy hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Ac fel y gwelwch wrth geisio pobi'r ddau gaws, mae cheddar yn toddi'n llawer well na'r hen Gaerffili...
Mae stori llenyddiaeth Gymraeg yn dechrau gyda'r ddiod...
Medd oedd y ddiod honno, ac fe arweiniodd at dranc milwyr y Gododdin yn ôl y farddoniaeth hynaf yn yr iaith. Ond mewn gwirionedd, mae bwyd a diod yn cael lle blaenllaw yn ein llên a diwylliant ar hyd yr oesoedd.
Boed mewn gwleddau angheuol yn y Mabinogi neu drudfawr gyda'r beirdd canoloesol, mewn canu gwerinol o'r 18fed ganrif neu englynion yr 20fed ganrif am gawl a tships. 'Tu ôl i'r dorth mae'r blawd' meddai'r gân, a 'dwi methu bwyta'm uwd', meddai Wil Cwac Cwac. Sosban fawr yn berwi ar y llawr...
Goroesiad prin o draddodiad llawer ehangach yw pice ar y maen
Ydych chi erioed wedi pyslan pam fod angen prynu llechfaen er mwyn pobi un math o deisen yn unig, yr hen welsh cakes bondigrybwyll? Y rheswm yw wrth gwrs am fod traddodiad hir ac amrywiol o bobi bara a cacs o bob math ar y maen yng Nghymru o hyd o fewn cof byw, gan gynnwys bara ceirch, dinca fala, teisen ddim a llawer mwy.
Dim ond y Welsh cake, ochr-yn-ochr â'r bara brith, a fachwyd arno gan farchnatwyr y 60au a'r 70au, ac felly mae'r traddodiad y tarddodd ohono wedi mynd i ddifancoll braidd bellach. Ond gellid ei atgyfodi...
Hefyd o ddiddordeb: