Hefin David AS wedi torri cod ymddygiad am drydariad 'di-chwaeth'

  • Cyhoeddwyd
Hefin David
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymddygiad Hefin David wedi gostwng ymhell o dan y safonau angenrheidiol, yn ôl y Comisiynydd Safonau

Mae Comisiynydd Safonau'r Senedd wedi dod i'r casgliad bod Aelod Llafur wedi torri'r cod ymddygiad drwy drydar "ymosodiad personol di-chwaeth a hynod o sarhaus".

Mae'n dilyn ymchwiliad gan Douglas Bain i drydariad gan AS Caerffili, Hefin David ym mis Mawrth.

Yn ei adroddiad, mae Mr Bain yn nodi bod yr AS wedi ymddiheuro am y neges ac wedi ei dileu yn gynnar y diwrnod wedi iddo ei chyhoeddi.

Mae disgwyl i Aelodau'r Senedd gynnal pleidlais i roi cerydd swyddogol i Mr David wythnos nesaf.

Cyfaddefodd Mr David i'r Comisiynydd bod y neges yn amhriodol.

Fe benderfynodd y pwyllgor beidio â rhoi cynnwys y trydariad yn eu hadroddiad "gan ein bod yn credu y byddai'n achosi loes bellach i'r unigolyn o dan sylw yn y neges a'u teulu, yn enwedig gan nad nhw wnaeth y gŵyn".

Anogaeth i 'gymryd gofal'

Yn ei adroddiad i'r pwyllgor safonau, mae Mr Bain yn dweud bod yna "ddisgwyliad i Aelodau'r Senedd ddangos arweiniad ac esiampl o ran ymddygiad da".

"Mae cam-ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn adlewyrchu'n wael arno ef ond hefyd yn dueddol o ddwyn anfri ar y Senedd", meddai.

Fe ddaeth i'r casgliad bod ymddygiad Mr David wedi gostwng ymhell o dan y safonau angenrheidiol.

Mae Mr Bain yn dweud bod yr AS wedi dweud wrtho ei fod wedi cymryd camau i "atal unrhyw gamddefnydd pellach o gyfryngau cymdeithasol", ac mae wedi annog Mr David i "gymryd gofal o'i ddefnydd o'r cyfrwng hwnnw".

Mae Mr David wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Roedd ef hefyd wedi torri'r cod ymddygiad yn 2019 am alw rhywun yn "coc oen" ar Twitter, ond ni chafodd ei gosbi'n swyddogol bryd hynny.