Arestio dyn yn dilyn ymosodiad rhyw ym Mharc Bute
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad rhyw honedig mewn parc yng nghanol Caerdydd.
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 06:00 fore Sul mewn cysylltiad â'r achos ym Mharc Bute ac mae rhan o'r parc wedi cael ei gau.
Dywed Heddlu De Cymru bod dyn yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn cysylltiad â'u hymchwiliad.
Yn ôl y Ditectif Arolygydd Abi Biddle, fe fydd cordon yn parhau yn ei le nes i'r llu gwblhau ymholiadau.
Mae'r llu'n apelio ar dystion posib i gysylltu â nhw.