Teulu Ricky Jones wedi 'colli ffydd yn yr heddlu'

  • Cyhoeddwyd
Ricky JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r negeseuon a ddarganfuwyd ar ffôn Ricky Jones wedi ennyn ymchwiliad

Mae teulu Ricky Jones, cyn-blismon gyda Heddlu Gwent, wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw'n ymddiried yn yr heddlu o gwbl.

Mae'r negeseuon a ddarganfuwyd ar ffôn Mr Jones wedi ennyn ymchwiliad i gasineb at fenywod, hiliaeth, homoffobia a thwyll yn Heddlu Gwent.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, wedi dweud nad oes ganddo hyder yn arweinyddiaeth Prif Gwnstabl Heddlu Gwent Pam Kelly a chomisiynydd heddlu a throseddu'r rhanbarth, Jeff Cuthbert.

Mr Davies yw'r gwleidydd Cymreig cyntaf i feirniadu arweinyddiaeth Heddlu Gwent yng nghanol y ffrae.

Fe wnaeth Mr Jones ymddeol o Heddlu Gwent yn 2017. Bu farw drwy hunanladdiad ar Bont Tywysog Cymru yn 2020.

Ond yn ôl ei wraig a'i ferch roedd yn rheoli ac yn cam-drin adref.

Er na wnaeth achosi niwed corfforol, meddent, roedd e'n gorfodi ei wraig 'Sharon' i gysgu ar y soffa ac roedd e'n rheoli pob agwedd o fywyd yn y cartref.

'Mam oedd yn dioddef waethaf'

Dywed ei ferch 'Emma' bod ei mam yn ei hamddiffyn hi a'i chwiorydd.

"Mam oedd yn dioddef waethaf - petaen ni'n gwneud rhywbeth o'i le bai Mam oedd e. Petai rhywbeth yn mynd o'i le yn ei fywyd e bai Mam oedd e," meddai.

"Am hir roedd Mam yn sefyll rhyngddon ni ag e.

"Doedd e ddim yn gadael iddi gael digon o gwsg. Doedd ganddi ddim 'stafell ei hun ac roedd Dad yn ei gorfodi i gysgu ar y soffa.

"Fe oedd yn y brif lofft fel ei fod yn gallu ei deffro pryd bynnag oedd e eisiau. Roedd hi dal yn gorfod gweithio. Roedd hi dal yn gorfod rhoi arian iddo bob mis."

Roedd Ricky Jones wedi dweud wrth y ddwy na fydden nhw fyth yn gallu adrodd am y gamdriniaeth gan ei fod e wedi "ei sortio" gyda swyddogion eraill.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweddw a merch Ricky Jones wedi siarad yn agored am y sgyrsiau a welwyd ar ei ffôn wedi'i farwolaeth

Tra'n archwilio ei ffôn wedi ei farwolaeth am dystiolaeth o gamdriniaeth ddomestig, fe ddaeth 'Emma' o hyd i negeseuon rhwng ei thad a chyn swyddogion a swyddogion presennol yr heddlu - negeseuon a roddodd fraw iddi.

"Mae'r ffordd y maen nhw'n siarad am fenywod yn ofnadwy. Mae'r termau hiliol maen nhw'n eu defnyddio yn ofnadwy a does dim esgus dros hynny.

"Mae'r derminoleg bron yn normal iddyn nhw, dyna'r ffordd maen nhw'n siarad. Dyw'r eirfa ddim yn sioc i neb.

"Mae 'na guddio cwynion ac mae'r cyfan yn ymddangos yn un jôc fawr.

"Dyna sy'n peri gofid. Does neb yn cymryd y mater o ddifrif - mae nhw'n amddiffyn ei gilydd ac maen nhw i gyd yn credu bod y cyfan yn jôc fawr."

Prif Gwnstabl: 'Wedi fy arswydo'

Dywed y Prif Gwnstabl, Pam Kelly, ei bod wedi'i "harswydo" gan y manylion sydd wedi dod i law ac mae'n dweud "y byddwn ni'n gweithredu'n fuan ac yn gadarn".

Mae'r llu wedi cyfeirio tri achos o gamymddwyn i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu. Mae ymchwiliad i'r honiadau yn cael ei gynnal gan Heddlu Wiltshire.

Dywed 'Emma' bod ei mam 'Sharon' wedi cael cam yn ystod y cwest i farwolaeth ei thad.

Yr awgrym gafodd ei roi i'r cwest oedd mai hi oedd yn cael ei hystyried fel yr un oedd yn cam-drin yn y berthynas. Y ffaith honno a arweiniodd ati yn archwilio ffôn ei thad.

"Ro'n i wedi mynd i gymaint o stad fy hun - roedd fy mam yn cael ei phortreadu fel person drwg, fel un oedd yn cam-drin ac roedd fy nhad yn cael ei bortreadu yn ddinesydd da mewn cwest cyhoeddus," meddai.

"Fe es i drwy ffôn symudol fy nhad er mwyn canfod tystiolaeth i'w throsglwyddo i'r crwneriaid ac i ddweud 'edrychwch mae rhywbeth braidd yn rhyfedd yn mynd ymlaen, plîs edrychwch arno'.

"Ac yna ddes i o hyd i bob dim arall.

"Mae pobl wedi gofyn i fi a oeddwn i mewn sioc gan yr hyn a ddarganfuais ar y ddyfais ond do'n i ddim.

"Ro'dd yr hyn roedd fy nhad wedi'i ddweud ar hyd y blynyddoedd am 'sortio pethau' wedi peri gofid i fi, y ffaith y gallai stopio fy mam rhag adrodd unrhyw beth amdano - roedd y cyfan yn wir.

"Mae'r twyll yn Heddlu Gwent yn wir. Mae'n real," mae'n honni.

'Dim ffydd yn yr heddlu o gwbl'

Wrth ddisgrifio cynnwys y negeseuon a welodd ar ffôn ei thad dywed bod yna "lot o eirfa hiliol, lluniau awgrymog a jôcs.

"Mae yna sgyrsiau am blismyn oedd ag offer rhyw yng nghefn eu ceir, roedd yna jôcs rhwng swyddogion wrth iddyn nhw rannu gwybodaeth am aflonyddu ac ymosodiadau ar fenywod.

"Mae yna hefyd achosion o swyddogion sydd wedi'u cyhuddo o gam-drin domestig, camymddwyn; mae nhw'n ymffrostio bod modd iddyn nhw osgoi unrhyw honiadau gan fod Heddlu Gwent yn cynnig ymddeoliad neu caniatáu iddyn nhw adael ei dyletswyddau yn gynnar."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Heddlu Wiltshire yn ymchwilio i Heddlu Gwent wedi i alwadau ffôn gan gyn-swyddog awgrymu bod yna "ddiwylliant gwenwynig"

Dywed 'Emma' nad oes ganddi unrhyw ffydd yn yr heddlu bellach ac mae'n poeni ei bod wedi cymryd cymaint o amser i'r ymchwiliad i'r honiadau ddigwydd.

Dywed bod ei ffydd yn yr heddlu cyn ised fel ei bod wedi gwneud copi digidol o'r ffôn cyn ei throsglwyddo i'r sawl sy'n ymchwilio a dywed ei bod am i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ymchwilio yn uniongyrchol.

"Rwy' wedi colli pob hyder ym mhlismona'r DU," meddai. "Dwi' yn meddwl bod hi'n iawn bod llu arall yn ymchwilio."

Mewn datganiad, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: "Dyw'r gŵyn wreiddiol a gyflwynwyd gan y teulu Jones ddim yn cynnwys yr honiadau presennol ac wrth i faterion newydd ddod i'r amlwg fe fyddwn yn parhau i ymateb yn gyflym a chadarn.

"Ry'n yn parhau i arswydo at y sylwadau a'r deunydd sydd wedi cael ei rannu gan swyddogion sydd wedi ymddeol a nifer fechan o'r rhai presennol.

"Does yna ddim lle i'r fath agweddau ac ymddygiad yn Heddlu Gwent ac mae'r gwaith o nodi y safonau a ddisgwylir gan gydweithwyr yn parhau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pam Kelly wedi bod yn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent ers 2019

Yn Senedd Cymru brynhawn Mawrth, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Nid oes gennyf unrhyw hyder yn uwch arweinyddiaeth Heddlu Gwent, boed hynny ar lefel swyddogion neu ar lefel comisiynydd heddlu a throseddu.

"Mae'r datgeliadau hyn yn erchyll a dweud y lleiaf."

Ar ran Llywodraeth Cymru, atebodd y Trefnydd Lesley Griffiths nad oedd plismona wedi'i ddatganoli i Gymru ac felly yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, "ond wrth gwrs rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid plismona yma yng Nghymru".

Ond ychwanegodd bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi cyfarfod y prif gwnstabl a chomisiynydd heddlu a throseddu Gwent "i drafod yr honiadau ac wedi cael sicrwydd bod Heddlu Gwent yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif".

Pynciau cysylltiedig