Pwynt i Gymru wrth ddychwelyd i lwyfan mwyaf pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Dathlu gôl Gareth BaleFfynhonnell y llun, PA Media

Gareth Bale oedd yr arwr a sgoriodd y gôl wnaeth sicrhau na gollodd Cymru eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd mewn 64 o flynyddoedd.

Fe gafodd tîm Robert Page hanner cyntaf eithriadol o wael yn erbyn Unol Daleithiau America gan ildio gôl siomedig Tim Weah.

Ond roedd perfformiad yr ail hanner yn llawer gwell a chic o'r smotyn gan Bale wnaeth unioni'r sgôr yn hwyr yn yr ail hanner.

Mae Cymru felly wedi sicrhau pwynt yng Ngrŵp B ar ddechrau eu hymgyrch gyntaf yn rowndiau terfynol y gystadleuaeth ers 1958.

Disgrifiad,

Cefnogwyr Cymru yn Doha yn ymateb i'r gêm

Fe gafodd Cymru ddechrau eithaf ansicr yn Stadiwm Ahmad bin Ali, Doha, gyda fawr o batrwm i'w pasio ac roedd eu gwrthwynebwyr yn rheoli'r chwarae o fewn 10 munud wedi'r gic gyntaf.

Yn ystod hanner munud digon anghyfforddus fe gafodd yr Americanwyr nid un, ond dau gyfle gwirioneddol i sgorio.

Peniodd Joe Rodon groesiad yn syth at ei rwyd ei hun, ond yn ffodus yn syth at Wayne Hennessey aeth y bêl.

Eiliadau'n unig yn ddiweddarach roedd cyfle arall o groesiad o'r ochr arall, ond fe darodd ergyd Josh Sargent ochr y rhwyd.

Roedd yn ymddangos bod Cymru'n dechrau gwneud mwy o argraff, er heb unrhyw gyfleoedd o bwys, erbyn i ddau o chwaraewyr UDA - Serginio Dest a Weston McKennie - weld cardiau melyn.

Ond er i Ethan Empadu lwyddo i greu rhywfaint o ofod i'w hun, roedd Cymru yn gyffredinol yn ei chael hi'n anodd i gadw'r bêl yn hanner yr Americanwyr.

Ac roedd UDA yn haeddu mynd ar y blaen, gyda 35 munud ar y cloc, wedi symudiad a ddechreuodd yn hanner Cymru.

Cafodd yr amddiffyn ei hollti gan bàs gampus Christian Pulisic i lwybr Tim Weah a doedd dim gobaith i Hennessey atal ei ergydiad.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Torcalon i Gymru wedi i Tim Weah sgorio i roi'r UDA ar y blaen

Aeth pethau o ddrwg i waeth pan welodd y capten Gareth Bale gerdyn melyn cyntaf Cymru am lorio Yunus Musah.

Digon nerfus oedd gweddill yr hanner cyntaf ac osgoi ildio ail gôl cyn yr egwyl oedd y flaenoriaeth i Gymru, a fu'n rhaid aros 45 munud cyn cael eu cic gornel gyntaf o'r gêm.

Doedd dim rhagor o goliau, ond mi roedd yna gerdyn melyn i Chris Mepham, a oedd eisoes wedi cael rhybudd, yn y munudau ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gan olygu bod angen i ddau o chwaraewyr Cymru fod yn ofalus yn yr ail hanner.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr hanner cyntaf yn un llawn gofid i gefnogwyr Cymru...

Ffynhonnell y llun, Neil Hall/EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

... ond roedd gan y Wal Goch fwy o reswm i floeddio a dathlu yn ystod yr ail hanner

Roedd angen penderfyniadau anodd gan Rob Page yn ystod yr egwyl os am geisio troi'r fantol ac un o'r rheiny oedd eilyddio Dan James a rhoi Kieffer Moore ymlaen yn ei le.

Ac roedd yna arwyddion cynnar bod Cymru am gael dechrau gwell i'r ail hanner yn sgil ei bresenoldeb.

Roedd Aaron Ramsey hefyd yn edrych yn fwy ymosodol a gyda'r angen i'r Unol Daleithiau ddechrau orfod gwneud mwy o waith amddiffynnol, fe gododd yr ysbryd ymhlith y Wal Goch hefyd.

Ac roedd yna reswm i floeddio wedi awr o chwarae, pan gafodd Cymru ddau gyfle gwych i sgorio - y cyntaf o gic rydd mewn safle addawol.

Croesodd Harry Wilson ac wedi ychydig o ddryswch yn y cwrt cosbi fe beniodd Ben Davies y bêl mor gryf nes roedd angen ymdrech arbennig gan y golwr Matt Turner i gael llaw arni a'i chyfeirio tu hwnt i'r rhwyd.

O'r gic gornel, fe gyrhaeddodd y bêl Moore mewn sefyllfa dda ond fe aeth ei beniad dros y trawst.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Ben Davies yn agos iawn at sgorio yn yr ail hanner

Wedi cyfnod o'r bêl yn symud rhwng y naill gwrt cosbi a'r llall, daeth Brennan Johnson ymlaen yn lle Neco Williams gyda 10 munud yn weddill.

Ond yna, yn yr 80fed munud, fe gafodd Bale ei lorio yn y cwrt cosbi, wrth anelu am bàs gan Ramsey, ac fe bwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn.

Y capten ei hun wnaeth gymryd y gic ac fe darodd y bêl yn bendant i gornel y rhwyd i unioni'r sgôr gyda gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ddathlu ar y maes yn Doha wedi gôl Bale - ac mewn cartrefi, canolfannau a thafarndai ar draws Cymru

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Clwb Ifor Bach

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Clwb Ifor Bach

Roedd yna hanner cyfle i Johnson wedi hynny, ond roedd yr ongl yn rhy gul, ac i ddwylo'r golwr aeth yr ergyd.

Ac roedd y bêl yn cael ei chicio o ochr i ochr wrth i'r ddau dîm ymdrechu i sgorio eto a chipio'r fuddugoliaeth.

Daeth Sorba Thomas i'r maes yn lle Harry Wilson ar ddechrau naw munud o amser ychwanegol ar ddiwedd yr hanner.

Bu'n rhaid i Ampadu adael hefyd wedi iddo gael anaf, gyda Joe Morrell yn dod i'r maes.

Cafodd Bale ei lorio eto, gan Kellyn Acosta, wrth weld bod golwr yr Unol Daleithiau ymhell o'i linell. Ond fe aeth cic rydd Thomas yn syth i ddwylo'r golwr - cic ola'r gêm a bu'n rhaid i'r ddau dîm fodloni ar gêm gyfartal a phwynt yr un.

'Teimlad anhygoel i sgorio'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn cyfweliad ar ddiwedd y gêm dywedodd Gareth Bale bod hi'n "deimlad anhygoel i sgorio yn y gystadleuaeth yma am y tro cyntaf, ond fe fyddai'n llawer gwell gennym ni fod yn gadael gyda thriphwynt".

"Roedd e'n berfformiad grêt yn yr ail hanner - fe ddangoson ni angerdd a phenderfynoldeb i ddod yn ôl i mewn i'r gêm.

"Ry'n ni'n falch o hynny - mae gennym ni bethau i adeiladu arnyn nhw a phethau sydd angen gwaith."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Noel Mooney

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Noel Mooney

'Sylw rhyngwladol i'r Ddraig Goch'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nerys John a'i gŵr Gwilym yn falch o fod yn Doha i weld Cymru'r chwarae

Mae cefnogwyr wedi disgrifio'r wefr o fod yn y gêm, a'r ffaith bod Cymru'n rhan o dwrnamaint mor bwysig.

"Roedd yn arbennig i fod yma," meddai Nerys John o'r Felinheli. "Y rhan gora' oedd bod y gêm wedi denu pobol o bob rhan o'r byd a mae'n siŵr y bydda llawer ohonyn nhw 'rioed wedi clywed yn Gymru o'r blaen.

"Dyna pŵer y tournament, a'r sylw i'r Ddraig Goch ar y llwyfan rhyngwladol."

Dywedodd ei gŵr, Gwilym, ei fod yn falch o'r canlyniad a bod yna sylfaen i adeiladu arno erbyn y gêm gyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Keiffer Moore wahaniaeth wedi'r egwyl, meddai Geraint Lovgreen

Wrth adael y stadiwm, roedd Geraint Lovgreen yn bendant nad oedd eisiau gweld gêm tebyg eto, wedi perfformiad mor drychinebus yn yr hanner cyntaf.

"Chwarae teg, naeth Kieffer Moore ddod 'mlaen a 'naeth y gêm newid," meddai.

"O'n i'n falch iawn o gael pwynt yn y diwedd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffion Tasker mewn sedd arbennig o dda i weld gôl Cymru

"O'n i reit tu ôl y gôl ar gyfer y penalty," dywedodd Ffion Tasker o Ruthun.

"Pan aeth hwnna mewn oedd o'n anhygoel. Mae 'di bod yn bleser bod yma."

Iran, a gollodd o 6-2 yn erbyn Lloegr yn gynharach, fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru, am 10:00 ddydd Gwener.