Y Gymraeg i'w chlywed yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Gymraeg yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf

Mae Ben Davies wedi dweud ei fod yn deimlad "arbennig" i greu hanes drwy fod y person cyntaf i siarad Cymraeg mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghwpan y Byd.

Dywedodd yr amddiffynnwr ei bod hi'n swréal gweld yr iaith yn cael ei defnyddio ar lwyfan y byd hefyd gan bobl fel cyn-seren Brasil, Cafu.

Ond mae'r sylw ychwanegol i Gymru fel gwlad, meddai, i gyd yn deillio o gael y chwaraewyr yn "gwneud pethau'n iawn ar y cae".

Disgrifiad o’r llun,

Ian Gwyn Hughes a Ben Davies yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Sadwrn

Bydd Cymru'n herio'r UDA yn eu gêm agoriadol ddydd Llun, gyda'r gic gyntaf am 19:00 ein hamser ni.

Fel un oedd yng ngharfan Cymru ar gyfer Euro 2016 ac Euro 2020, bydd Davies yn chwarae yn ei drydydd twrnament rhyngwladol eleni.

Yn Ffrainc roedd yn gyfrifol am un o eiliadau mwyaf tyngedfennol y tîm yn yr ornest agoriadol, gan glirio'r bêl oddi ar y linell yn y munudau cyntaf cyn i Gymru fynd ymlaen i guro Slofacia 2-1.

Mae'n gwybod cystal â neb felly am yr angen i bwyllo a thawelu'r meddwl ar ddechrau achlysur mor fawr, rhywbeth y bydd yn rhaid gwneud unwaith eto nos Lun.

'Gêm gyntaf yn bwysig'

"Ni'n gwybod bod y gêm gyntaf mor bwysig i sut fydd y gystadleuaeth yn mynd," meddai.

"Yn y 10, 15 munud cynta', jyst cadw'n eitha calm, ymlacio cymaint â ni'n gallu, a codi mewn i'r gêm fel ni'n mynd 'mlaen."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Fe siaradodd Ben Davies yn y Gymraeg yn unig yn y gynhadledd i'r wasg brynhawn Sadwrn

Cafodd Cymru gêm gyfartal 0-0 y tro diwethaf iddyn nhw herio'r UDA yn 2020, yng ngêm gyntaf Rob Page wrth y llyw.

Roedd Davies ar y fainc y noson honno wrth i rai o chwaraewyr ymylol y garfan gael eu dewis, ond mae'n gwybod y bydd yr ornest nesaf tipyn yn fwy heriol.

"Ni wedi 'neud lot o waith paratoi mas ar y cae ac ar fideo. Maen nhw'n dîm da a bydd e'n gêm anodd yn erbyn nhw."

Fideo Cafu'n 'class'!

Fe siaradodd Davies yn y Gymraeg yn unig yn y gynhadledd i'r wasg brynhawn Sadwrn, gan greu hanes ar lefel byd eang i'r iaith wedi i Gymdeithas Bêl-droed Cymru roi platfform tebyg iddi yn yr Ewros.

Disgrifiad o’r llun,

Mae un o'r adeiladau yn Doha â llun mawr o Gareth Bale

"Mae'n deimlad ffantastig i fod yn rhan o'r garfan ac i gael y siawns i ddod â Chymru i lefydd o gwmpas y byd, i wledydd sydd ddim wedi gweld ni'n chwarae o'r blaen," meddai.

"Mae'n deimlad sbesial iawn i fod yn rhan ohono.

"Dyna beth 'dyn ni'n ceisio 'neud, 'dyn ni'n ceisio dangos y pethau gorau am Gymru a bydd pawb yn gwisgo'r crys gyda lot o falchder."

Ffynhonnell y llun, @BudweiserUK
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cafu, cyn-seren Brasil, yn rhan o fideo gan Budweiser sy'n dymuno'n dda i Gymru

Yn ystod yr wythnos cafodd hysbyseb ei ryddhau gan Budweiser, dolen allanol yn cynnwys cyn-seren Brasil, Cafu - a enillodd Gwpan y Byd yn 1994, ac yn 2002 fel capten.

Mae'n dechrau'r fideo drwy ddweud 'Cymru, croeso 'nôl', cyn disgrifio'r tîm fel ysbrydoliaeth a gorffen gydag 'iechyd da'.

"O'n ni 'di gweld y fideo ddoe - ma' fe'n class," meddai Davies.

"Ma' fe jyst yn deimlad bach yn od i weld pobl fel Cafu yn gwisgo'r bucket hat a siarad bach o Gymraeg, ond mae'n dangos bod ni 'di 'neud pethau'n iawn ar y cae."