'Ffaelu credu bod ni 'ma': Y Wal Goch yn cyrraedd Doha

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cefnogwyr Cymru yn cyrraedd Qatar ddydd Sul

Mae miloedd o gefnogwyr Cymru wedi cyrraedd Doha dros nos ac yn oriau mân y bore, wrth i Gymru baratoi i ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd.

Fe laniodd dros 1,000 o aelodau'r Wal Goch ar hediadau o Gaerdydd a dinasoedd eraill ym Mhrydain nos Sul, tra bod eraill wedi teithio draw ar ôl dewis aros yn Dubai.

Bydd Cymru'n herio'r UDA nos Lun am 19:00, a hwythau yn ôl ar lwyfan mwya'r byd am y tro cyntaf ers 1958.

I'r cefnogwyr mae'r aros hir ar ben - a'r foment hanesyddol honno wedi cyrraedd.

Roedd Mike James a Richard Blake o Bort Talbot eisoes yn ymlacio yn ardal Souq Waqif y ddinas brynhawn Sul wrth aros i weddill y Cymry gyrraedd.

"Nes i ddechrau mynd yn yr '80au hwyr i wylio Cymru oddi cartref," meddai Mike, "ac fe ddechreuodd Richard yng nghanol y 2000au.

"Do'n i byth yn meddwl bydden i'n gweld hyn, ddim ar ôl yr holl dorcalon."

Yr Americanwr sydd 'mewn cariad' gyda thîm Cymru

Un arall yn y Souq oedd Alston Pugh, yn ei grys Cymru melyn - a'i acen Americanaidd.

"Dwi'n dod o Orlando, Florida - ond dwi'n cefnogi Cymru mwy na'r UDA!" meddai.

"Fel Americaniaid 'dyn ni'n hoff iawn o edrych i mewn i'n treftadaeth ni, a gan mai fy enw i yw Pugh, nes i ddod draw i Gymru yn 2019 gyda fy nheulu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Americanwr Alston Pugh yn dilyn tîm pêl-droed Cymru ers 2015

"Aethon ni i wylio Cymru yn erbyn Croatia, Gareth Bale yn sgorio reit o'n blaenau ni, ac roedd o'n brofiad gwych. Aethon ni ar daith rownd y wlad wedyn a disgyn mewn cariad gyda'r diwylliant.

"Dwi wedi bod yn dilyn tîm pêl-droed Cymru nawr ers yr ymgyrch ragbrofol yn 2015, a wedi disgyn mewn cariad gyda'r tîm byth ers hynny."

Mae'n ffyddiog hefyd y bydd gwlad ei gyndeidiau yn trechu gwlad ei febyd.

"Mae'r UDA yn cael eu ffafrio [gan y bwcis] ond wir, dwi'n meddwl mai Cymru aiff â hi. Dwi'n meddwl bod Cymru ychydig yn gryfach na'r UDA."

Ym maes awyr Doha nos Sul dechreuodd y Cymry gyrraedd yn eu niferoedd, a'r daith o Ynys Môn wedi bod yn un hir i Dyfrig a Linda Jones.

"Mae wedi bod yn ddiwrnod blinedig, ond 'dan ni'n falch o fod yma," meddai Linda.

Pryder, blinder, cyffro a hyder

Doedd Dylan Roberts, sy'n wreiddiol o ogledd Cymru ond bellach yn byw yn Leeds, ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl.

"Dwi dipyn yn apprehensive i ddeud y gwir am y lle, a be' sy'n mynd ymlaen," meddai.

"Ond dwi'n edrych ymlaen at y gêm a gobeithio nawn ni 'neud yn dda."

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gefnogwyr Cymru yn paratoi i deithio o faes awyr Dubai i Doha.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Roberts, Dave Fawkes, Dylan James a Manon Ceridwen James ym maes awyr Doha

Doedd dim amheuaeth o gyffro Dylan James o Abergele, a ddywedodd ei fod wedi codi "hanner awr cyn y larwm" er mwyn teithio i'r maes awyr.

"Ro'n i 'di blino ar yr awyren, ond 'di cyffroi eto rŵan wrth weld cannoedd a miloedd o bobl o wahanol wledydd yma," meddai.

"Mae'n anhygoel. Lot o Fecsico, a'u sombreros!"

Rhannu'r cyffro mae ei wraig, Manon.

"Dwi'n teimlo wnawn ni guro'r Unol Daleithiau ac Iran, a gobeithio curo Lloegr yn amlwg," meddai.

"Mae isio bod yn hyderus 'does!"

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywed tad Ben Cabango, Paulo, fod ei deulu mor falch ohono

Un arall sydd wedi ei gyffroi yn llwyr yw Paulo Cabango - gyda'i fab Ben wedi ei ddewis yn un o garfan Cymru.

"Rwy mor falch, dyw Cymru heb lwyddo i wneud hyn ers amser mor hir.

"Rydym wedi cyffroi ac yn obeithiol y bydd y bechgyn yn gwneud yn dda," meddai.

"Unwaith i Gymru lwyddo i qualifio, roedd yn rhaid aros i weld os o' chi'n rhan o'r garfan neu beidio.

"Rydym wedi cyffroi yn lan o wybod ei fod yn y garfan, rhywbeth nad oedd e' fyth yn credu fyddai'n digwydd ond y'n ni'n gwybod ei fod wedi bod yn chwarae mor dda ac mae e' wedi cael ei gyfle."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Urdd Gobaith Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Urdd Gobaith Cymru

Fe gyrhaeddodd Euros Jones o Lanelli ar un o'r pum hediad o Gaerdydd oedd yn cyrraedd Doha nos Sul - a'r un oedd yn cario un o'r cefnogwyr amlycaf.

"Gaethon ni gwmni da iawn ar yr awyren - roedd Dafydd Iwan yn gwmni i ni, ac mi gawson ni gyd-ganu Yma o Hyd," meddai.

"Roedd hynny 'di creu tipyn bach o awyrgylch fel o'n ni'n glanio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd credu bod Cymru yng Nghwpan y Byd, medd Mari Williams - ar y dde, gyda'i theulu - a'u bod hwythau yna i gael rhannu'r profiad

I Mari Williams o Sir Benfro, sydd wedi teithio gyda'i theulu, mae mawredd yr achlysur yn dechrau taro bellach.

"Fi ffaelu credu bod ni 'ma," meddai.

"O'n i byth yn credu byse ni'n mynd i Gwpan y Byd, ni wastad yn gwylio'r gemau gytre'.

"Ni jyst yn teimlo mor lwcus bod ni 'ma, ni ffaelu aros i wylio'r gêm."