Y Cymro o Batagonia Elvey MacDonald wedi marw yn 81 oed
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi o Gymru ac Ariannin i Elvey MacDonald a fu farw yn 81 oed fore Mercher.
Cafodd ei eni yn Nhrelew, Patagonia, yn 1941, a daeth drosodd i Gymru am y tro cyntaf yn 1965, sef canmlwyddiant sefydlu'r Wladfa.
Ymgartrefodd yn Llanrhystud ger Aberystwyth, a bu'n llefarydd cyson dros Gymry Patagonia ar hyd ei oes.
Cafodd Elvey a'i chwaer Edith, sy'n dal i fyw yn Y Wladfa, eu magu ar aelwyd Gymraeg.
Dim Sbaeneg yn y cartref
Roedd eu mam Sara MacDonald (Jones gynt) yn gryf iawn dros yr iaith Gymraeg, ac nid oedd yn fodlon clywed gair o Sbaeneg yn y cartref.
Pan ddaeth Elvey i fyw yng Nghymru, nid oedd ganddo air o Saesneg - dim ond Sbaeneg a Chymraeg.
Bu'n gyd-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfnod, cyn mynd yn gyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd rhwng 1974 a 1997.
Ei syniad ef hefyd oedd sefydlu Radio Ceredigion, a ddechreuodd ddarlledu yn 1992.
Ar ôl ymddeol bu'n hyrwyddo popeth yn ymwneud â'r Wladfa, ac yn trefnu teithiau ac yn tywys ymwelwyr o Gymru draw i Batagonia.
Un o blant y Gaiman
Fe ddywedodd Llywydd Gorsedd y Wladfa, Alwen Green, fod Elvey wedi cadw'r cysylltiad rhwng Cymru ac Ariannin "yn fyw ar hyd y blynyddoedd".
"Mae Gorsedd y Wladfa mewn galar heddiw, gan fod un a fu'n gyfrifol am ei hail safydlu wedi ein gadael," dywedodd.
"Yn un o blant y Gaiman, cadwodd Elvey y cysylltiad yn fyw ar hyd y blynyddoedd rhygddom ni a'r Hen Wlad, lle bu iddo ymgartrefu.
"Bydd colled mawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn yn ddwys â'i deulu yng Nghymru ac yma."
'Cymro mawr twymgalon'
Disgrifiodd Dei Tomos, a fu'n cydweithio gydag Elvey MacDonald yn yr Urdd, ef fel "gŵr bonheddig a charedig".
"Er iddo gael ei eni a'i fagu yn Ariannin a'i fod yn falch o hynny ac o'i dras, i mi Cymro mawr twymgalon oedd Elvey," meddai.
"Tra'n gweithio i'r Urdd y deuthum i ar ei draws gynta', ac Elvey yn drefnydd yr Eisteddfod. Roedd yn ymddangos yn ŵr tawel a mwyn, yn wir roedd yn ŵr bonheddig a charedig.
"Ond roedd 'na benderfyniad hefyd ac asgwrn cefn - rhan o'i gynhysgaeth. Roedd o'n disgyn o linach yr ymfudwyr cynnar i Batagonia ac fe ŵyr pawb pa mor benderfynol oedd y rheiny."
Ychwanegodd: "Yn ddiweddarach fe gefais i groeso ar aelwyd groesawgar ei fam a'i chwaer yn Gaiman a dod i wybod mwy am gefndir y teulu.
"Roedd o bob amser yn barod i amddiffyn hanes y gwladfawyr yn sgil beirniadaeth ddiweddar a fu arnyn nhw.
"Coffa da amdano a chydymdeimlad â'i deulu, yma ac yn Ariannin."
'Fy mentor cyntaf'
Bu'r cerddor Geraint Davies yn gweithio fel dirprwy i Elvey MacDonald pan oedd yn drefnydd Eisteddfod yr Urdd am rai blynyddoedd.
"Hon oedd fy swydd gyntaf ar ôl gadael coleg a roedd e'n ddylanwad mawr iawn arna i," meddai.
"Elvey oedd fy mentor cyntaf, wrth ddysgu crefft a mynd mewn i swydd newydd.
"Roedd lot o dynnu coes hefyd, ac roedden ni'n fwy o bartneriaid na phennaeth a dirprwy o fewn dim.
"Fe fuon ni'n cyd-fyw 'da'n gilydd ar adegau oherwydd natur deithiol yr Eisteddfod.
"Roedden ni'n rhannu tŷ yn yr ardal am dri mis ar y tro, felly roedd rhaid cyd-dynnu, ond roedd e'n foi hawddgar, felly roedd hynny'n hawdd.
Cyfraniad 'arbennig i fyd y celfyddydau'
Dywedodd llefarydd ar ran Urdd Gobaith Cymru eu bod yn "hynod o drist" o glywed am farwolaeth Elvey MacDonald, gan ganmol ei "arweiniad arloesol" yn ystod y chwarter canrif y bu'n Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.
"Dros ei gyfnod gyda'r Mudiad fe deithiodd Elvey filoedd o filltiroedd yn mynychu cyfarfodydd ar draws Cymru gan roi'r gefnogaeth orau i bob tref, phentref a dinas oedd am gynnal Eisteddfod yr Urdd," meddai.
"Fe ddatblygodd Elvey yr Eisteddfod i fod yn ŵyl llawn bwrlwm a hwyl gan sicrhau fod pob plentyn yn cael profiad arbennig - boed iddynt gyrraedd y llwyfan neu beidio.
"Gwnaeth Elvey gyfraniad arbennig i fyd y celfyddydau wrth greu gŵyl oedd yn cynnig cyfleoedd bythgofiadwy i genedlaethau o aelodau'r Urdd ac mae ein diolch yn fawr iddo. Fel Mudiad mae ein meddyliau i gyd gyda theulu Elvey yn eu profedigaeth."