Diswyddo heddwas 'ysglyfaethus' am ymddygiad amhriodol

  • Cyhoeddwyd
Gwent Police headquarters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y swyddog wedi'i gyhuddo o anfon negeseuon amhriodol i dair dynes

Mae panel disgyblu wedi dod i'r casgliad bod swyddog gyda Heddlu Gwent wedi torri safonau ymddygiad yn sgil negeseuon a anfonodd at dair menyw.

Fore Iau dywedodd y panel eu bod wedi dod i'r penderfyniad bod Robert Davies wedi ymddwyn yn amhriodol.

Roedd y negeseuon a anfonwyd i'r menywod - dwy ohonynt yn fregus - o natur rywiol, meddai'r panel.

Roedd y Cwnstabl Robert Davies, sy'n 50 oed ac o Gasnewydd, yn gwadu cyhuddiadau o gamymddygiad dybryd, gan fynnu bod y negeseuon yn "gefnogol" yn hytrach nag yn "awgrymog".

Clywodd y panel, yn hen bencadlys yr heddlu Cwmbrân, ei fod wedi dod i gysylltiad â'r menywod trwy ei waith rhwng Ionawr ac Ebrill 2020.

Roedd dwy ohonyn nhw wedi cysylltu â'r heddlu i roi gwybod am droseddau, a'r llall yn chwaer i fenyw oedd hefyd wedi hysbysu'r llu ynghylch trosedd.

Cyfeiriodd rhai o'r negeseuon at "freuddwydion drygionus", ac fe ddywedodd wrth un o'r menywod: "Rwyt ti'n bwysig iawn i mi."

Ar un achlysur, fe ofynnodd i ddynes faint o'r gloch roedd hi'n mynd i'r gwely ac mewn neges arall fy ddywedodd: "Rwyt ti'n hardd ymhob ffordd."

Ond yn ei dystiolaeth yntau, fe ddywedodd Mr Davies mai mynegi consyrn a chefnogaeth oedd ei fwriad, yn hytrach na bod yn or-gyfeillgar.

Cafodd PC Davies ei ddiswyddo heb gyfnod rhybudd gan y panel, a ddywedodd bod ei ymddygiad yn "ysglyfaethus".