Academi newydd £2.2m i daclo prinder deintyddion
- Cyhoeddwyd
Mae academi ddeintyddol newydd ym Mangor yn gobeithio taclo'r prinder darpariaeth yn lleol a bod y "gynta' o'i math yng Nghymru".
Y datblygiad £2.2m yn Nhŷ Glyder yw'r cam cynta' yng nghynlluniau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i "ddenu, hyfforddi a chadw mwy o weithwyr deintyddol proffesiynol, mewn ymateb i brinder ledled y DU".
Bydd yr academi yn cyfuno gwasanaethau deintyddol stryd fawr a chymunedol gyda chyfleusterau hyfforddi "o'r radd flaenaf", a'i gwneud hi'n haws i gleifion gael mynediad at driniaeth ddeintyddol yn yr ardal.
Fel arwydd o'r angen am ddarpariaeth yn lleol, mae'r practis wedi derbyn dros 8,000 ymholiad mewn tair wythnos ac wedi gorfod oedi'r cofrestru nes bod mwy o ddeintyddion wedi'u recriwtio.
Yn ôl ffigyrau diweddar, dolen allanol gan Lywodraeth Cymru, mae nifer y triniaethau yn ardal Betsi Cadwaladr ymhlith yr isa' trwy'r wlad - gydag ond 30.8% o gleifion yn derbyn triniaeth ddeintyddol dros y ddwy flynedd ddiwetha'.
Unwaith y bydd digon o staff, bydd yr academi'n cynnwys wyth clinig ar y llawr isaf, gan ddyblu capasiti'r pedwar a gafodd eu colli pan gaeodd safleoedd ym Mangor a Phorthaethwy dros y blynyddoedd diwethaf.
Bydd yr adeilad hefyd yn gartref i academi ddeintyddol gyda chyfleusterau clinigol a chynadledda, fydd yn cael eu defnyddio i hyfforddi a gwella sgiliau staff deintyddol proffesiynol ar draws gogledd Cymru pan fydd yn agor ar ddechrau 2023.
Dywedodd Carolyn Prytherch-Roberts, uwch nyrs ddeintyddol, ei bod yn gobeithio bydd yr academi'n torri tir newydd.
"'Dan ni eisiau rhoi Bangor ar y map efo deintyddiaeth," meddai. "Dyma fydd y lle i ddod i gael eich hyfforddiant.
"Dyma'r academi gynta' o'i math yng Nghymru a 'dan ni mor falch bod hi'n dod i Fangor.
"Mae 'na dair elfen wahanol - mae'r deintyddion cyffredinol ar y llawr cynta', ar yr ail lawr fydd 'na hyfforddiant yn cael ei gynnal a theatr ddarlithio, ac ar y llawr top fydd y gwasanaeth cymunedol."
Y gobaith hefyd ydy gallu cynnig peth o'r hyfforddiant ym Mangor yn yr iaith Gymraeg, meddai.
"Mae lot o staff y gymuned yn gallu siarad Cymraeg. Dydy lot o hyfforddiant deintyddiaeth ddim yn cael ei gynnal yn Gymraeg ond fasan ni'n licio pwyso hynny ymlaen yn fan'ma.
"'Dan ni hefyd yn gobeithio creu hyfforddiant sy'n hyblyg i bobl, sy'n ystyried cydbwysedd gwaith a theulu.
"Os 'da chi'n mynd ar gwrs, weithiau mae'r cwrs yn gorfod cael ei roi ar un ochr tra 'da ni'n delio efo bywyd. Efo hwn, os 'da ni'n cael gwneud yr hyfforddiant, fydd o'n fwy hyblyg ac mi fydd 'na fwy o fynediad i bawb ddod.
"Bwriad yr hyfforddiant ydy galluogi deintyddion yr ardal ddod yma i weld arbenigedd neu i hyfforddi mewn arbenigedd.
"Mae hefyd yn creu'r mynediad i gleifion weld arbenigwr a hefyd mae o'n creu mwy o ddeintyddion. 'Dan ni'n gobeithio cael mwy o ddeintyddion lleol, nyrsys, therapyddion a hygeinists hefyd."
Mae Joanna Smith newydd gael ei phenodi yn un o'r deintyddion newydd ac un o'r pethau a'i denodd oedd y ffaith ei bod yn gallu gweithio ac astudio law yn llaw.
"Dwi 'di bod yn chwilio am gyfle i weithio fel deintydd a datblygu fy sgiliau fel 'mod i'n gallu symud ymlaen gyda 'ngyrfa," esbonia.
"Felly rŵan dwi'n gallu gweithio yn yr ardal hyfryd yma a gwneud gradd meistr yr un pryd.
"Yn bersonol dwi'n mwynhau gwneud deintyddiaeth yn y gymuned, felly mae cael math o hybrid o'r ddau beth yn wych."
'Buddion sylweddol i'r boblogaeth leol'
Mae'r practis yn eiddo i'r deintyddion Ravi Singh a Darren King, sydd hefyd yn rhedeg practisau deintyddol a chlinigau llawfeddygaeth y geg ar draws ardal Manceinion.
Fe ddywedon nhw: "Mae'r practis deintyddol hwn yn benllanw llawer o waith caled.
"Gan ddechrau gyda'r bwrdd iechyd, a oedd â'r weledigaeth a'r dewrder i gomisiynu ffordd newydd o ddarparu deintyddiaeth y GIG y mae mawr ei hangen i'r boblogaeth leol a pharhau â'n tîm sydd wedi gwireddu ein gweledigaeth.
"Mae gennym hanes o weithio mewn ffyrdd arloesol ac mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n profiadau blaenorol.
"Mae'r cyfle i weithio gyda Phrifysgol Bangor a'r tîm GIG lleol yn un cyffrous, a fydd yn dod â buddion sylweddol i'r boblogaeth leol."
Yn ôl yr AS Ceidwadol dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands, fe ddylai'r practis newydd "helpu tuag at leddfu'r problemau enfawr mae pobl wedi wynebu'n cael triniaeth" yn yr ardal.
Ond ychwanegodd ei fod yn "bryder" eu bod wedi derbyn miloedd o ymholiadau yn yr wythnosau cyntaf.
"Mae hyn yn dangos maint y broblem yng ngogledd Cymru," meddai.
"Mae blynyddoedd o ddiffyg cyllid a chynllunio wedi arwain at y broblem hon ac mae pobl yn cael eu gorfodi i dalu miloedd i fynd yn breifat neu gymryd camau eithafol eu hunain."
'112,000 o apwyntiadau newydd eleni'
Dros yr haf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai unwaith y flwyddyn fyddai apwyntiadau arferol, yn hytrach na bob chwe mis, er mwyn ceisio taclo'r rhestrau aros yn genedlaethol.
Wrth ymateb i'r practis newydd ym Mangor, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r academi newydd yn rhan o ystod o gamau i gryfhau gwasanaethau deintyddol ledled Cymru, ynghyd â £2m ychwanegol rydym yn ei ddarparu'n flynyddol i wella mynediad i ddeintyddion.
"Bydd y newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i gytundeb deintyddiaeth y GIG ers mis Ebrill hefyd yn mynd i arwain at tua 112,000 o apwyntiadau deintyddol newydd eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2020