Angen 'cynllun tymor hir' i ddatrys prinder deintyddion
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru gael cynllun tymor hir i fynd i'r afael â'r diffyg deintyddion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Dyna mae Sian Gwenllian, Aelod Senedd Arfon, wedi ei ddweud yn dilyn y newyddion bod deintyddfa yng Nghaernarfon i gau.
Mae'r cwmni gwasasnaethau iechyd, Bupa, wedi dweud y byddan nhw'n cau eu deintyddfa ar stad Cibyn yng Nghaernarfon ddiwedd Chwefror, yn ogystal â'i deintyddfa ym Mae Colwyn.
Roedden nhw'n cynnig gwasanaeth ar y GIG yn ogystal â phreifat i filoedd o gleifion yn y gogledd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu uned hyfforddiant ddeintyddol ym Mangor er mwyn ceisio recriwtio mwy o ddeintyddion i weithio yn yr ardal.
Gwaith caled
Er y bydd y bwrdd iechyd yn camu i'r adwy pan fydd y cwmni yn cau eu canolfannau mi fyddan nhw hefyd yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaeth deintyddol arall yn yr ardal.
Ond mae yna bryder yn lleol ynglŷn ag effaith cau'r canolfannau arnyn nhw yn y tymor byr.
"Yn anffodus does na neb arall yn gwneud NHS Dentistry yng Nghaernarfon", meddai Edward Aubrey o Gaernarfon.
"So, mae o'n golygu os dwi isio dentist NHS mae'n rhaid i fi drafeilio i Benrhyndeudraeth. Mae hynny, os de chi'n gorfod trafeilio efo bws, yn andros o waith caled i rhywun."
Fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n cydweithio gyda'r Bwrdd Iechyd i sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor gyda'r gobaith y bydd hynny yn denu mwy o ddeintyddion i weithio yn yr ardal yn y dyfodol.
Mae hynny wedi cael croeso gan y Gymdeithas Ddeintyddol.
"Mae'n debyg bod o'n mynd i wella tipyn ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y maes deintyddol ar gyfer bobl gogledd Cymru", meddai Sion Griffiths, llefarydd ar ran y Gymdeithas.
"Mae'n eitha posib y bydd pobl yn dewis aros yn yr ardal ar ôl gorffen eu haddysg."
Cytundebau deintyddol
Tra'n croesawu'r cyhoeddiad am yr ysgol ddeintyddol mae Sian Gwenllian am weld Llywodraeth Cymru yn creu cynllun tymor hir i fynd i'r afael â'r broblem o ddiffyg deintyddion GIG.
Dywedodd hefyd bod angen newid cytundebau hefyd.
"Mae angen edrych ar sut mae cytundebau yn gweithio rhwng y byrddau iechyd a deintyddion", meddai, "ac mae angen newidiadau pellgyrhaeddol yn fanno hefyd, achos mae hynny yn rhan o'r broblem.
"Mae angen ei gwneud hi'n haws i ddeintyddion gymryd cleifion gwasanaeth iechyd ymlaen."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n siomedig pan fydd practis deintyddol yn penderfynu lleihau neu ddod â darpariaeth gwasanaethau'r GIG i ben.
"Pan fydd hyn yn digwydd mae'r cyllid yn aros gyda'r bwrdd iechyd fel y gall ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG.
"Yn y tymor byr bydd y bwrdd iechyd yn ymateb i'r galw am ofal deintyddol brys a blaenoriaeth i bobl nad oes ganddyn nhw ddeintydd rheolaidd.
"Bydd hefyd yn comisiynu gwasanaethau deintyddol newydd yn yr ardal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Medi 2020