Streic nyrsys: 'Cyfrifoldeb mawr a chyflog isel'
- Cyhoeddwyd
![nyrs](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2EC0/production/_127786911_b0b13a40-e839-4505-bb01-b1bd87e9eed4.jpg)
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cadarnhau y byddan nhw'n streicio ar 15 a 20 Rhagfyr oherwydd anghydfod ynglyn â'u cyflogau.
Hwn fydd y tro cyntaf erioed i nyrsys weithredu drwy'r DU.
Bydd nyrsys yn dal i gynnig gofal brys, ond mi fydd y gweithredu yn effeithio ar wasanaethau arferol.
![nyrsio](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/07B0/production/_127786910_e7f3ac02-cc75-4b55-ae54-e14c4f4265da.jpg)
Newydd ddechrau nyrsio mae Sioned, sy'n wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi ar hyn o bryd yn gweithio yn Llundain - ac wrth siarad â Newyddion S4C dywed ei bod eisoes yn teimlo'r straen.
"Yn gyffredinol ry'n ni gyd yn teimlo mwy o bwysau.
"Ni'n cerdded mewn i'r gwaith gan wybod faint o bobl sy'n aros am wely a ni'n gweld y ciwiau ambiwlansys," meddai.
"Mae'r paramedics yn aros am le yn A&E ac mae hynny'n rhoi cymaint o bwysau arnom ni - ac i bawb yn yr adran ac mae cleifion yn teimlo fe hefyd.
"Mae'r cyfrifoldebau mor ddwys nawr - mae'n anodd cyfiawnhau rhoi cyn lleied o arian i ni.
"'Nes i hyfforddi am dair blynedd - yn gweithio am ddim a wedyn ma' fe bron yn amharchus i ni ymuno â swydd sydd ddim yn talu gymaint â siop goffi yn yr ysbyty. Mae hwnna yn dorcalonnus i fi yn bersonol ac mae lot o ni'n teimlo fel 'na."
'Sefyllfa argyfyngus'
Dywed yr undebau ei bod hi'n sefyllfa argyfyngus. Mae miloedd o swyddi gwag a miloedd yn gadael yn golygu eu bod wedi blino'n lân.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud fod ganddyn nhw gynlluniau mewn lle i sicrhau na fydd y gwasanaethau brys yn cael eu heffeithio gan y streic ac mae nhw'n ychwanegu mai eu blaenoriaeth bob amser ydy diogelwch y cleifion.
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i aelodau'r RCN fynd ar streic. Bydd miloedd o lawdriniaethau ac apwyntiadau yn cael eu canslo ond mi fydd triniaethau fel gofal canser yn cael eu gwarchod.
Mae cyflog cychwynnol nyrs oddeutu £27,000. Dywed yr undebau nad yw eu cyflogau wedi codi ers blynyddoedd i gydfynd â chwyddiant.
Mae nhw'n galw am 5% o godiad cyflog ar ben chwyddiant, sy'n gyfanswm o 19%.
Troi at fanciau bwyd
Dywed Nicola Davies-Job o Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru y gall hi fod yn anodd denu nyrsys newydd.
![Nicola Davies-Job](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16358/production/_127786909_de8683ea-1023-443a-b2c2-f7a8b602e192.jpg)
Mae amodau byw nifer o nyrsys yn anodd, medd Nicola Davies-Job o Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru
"Maen nhw'n gweithio bob awr maen nhw'n gallu a mae nhw'n brin.
"Amser fi'n meddwl nyrsys, fi'n meddwl am nursing support workers hefyd. Mae nhw'n gorfod mynd i'r food banks.
"Ni'n gwybod bod y district nurses yn crïo amser aeth pris petrol lan. O nhw'n anxious. Doedden nhw ddim yn gallu gweld cleifion.
"A fydd nyrsys yn dod i'r proffesiwn yn y dyfodol?"
![nyrs](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/55D0/production/_127786912_d3417c6d-3eb7-49df-a09c-55d091320e54.jpg)
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na allan nhw fforddio hynny heb arian ychwanegol gan San Steffan.
Mae'n debyg fod dwy ran o dair o nyrsys Prydain yn aelodau o'r Coleg Brenhinol.
Dyw hi ddim yn benderfyniad hawdd i weithredu, medd y coleg, ond wrth i gymaint gyrraedd pen eu tennyn, does na'm dewis - ond gweithredu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022