Cwpan y Byd: Cefnogwr Cymru wedi marw yn Qatar

  • Cyhoeddwyd
Fflag Cymru yn DohaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kevin Davies wedi teithio i Doha gyda'i fab a'i ffrindiau

Mae cefnogwr Cymru wedi marw yn Qatar ar ôl teithio yno i ddilyn y tîm yng Nghwpan y Byd.

Roedd Kevin Davies, 62 oed o Sir Benfro, wedi teithio i Doha gyda'i fab a'i ffrindiau.

Mae BBC Cymru yn deall y credir i Mr Davies farw o achosion naturiol ddydd Gwener, ac nid oedd wedi mynychu'r gêm yn erbyn Iran.

Mae ei deulu wedi cael cynnig cefnogaeth gan lysgenhadaeth y DU a chorff FSA Cymru, sy'n rhoi cymorth i gefnogwyr yn y twrnament.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan FA WALES

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan FA WALES

Dywedodd Paul Corkrey o FSA Cymru fod pawb sy'n adnabod Mr Davies yn Qatar yn "drist iawn".

"Maen nhw [y criw oedd gyda Mr Davies] jest eisiau mynd adref a gweld gweddill y teulu," meddai.

"Roedden nhw i fod i fynd adref heddiw [dydd Sadwrn] ond mae hyn wedi effeithio ar y cynlluniau hynny oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw gael dipyn o ddogfennau at ei gilydd.

"Maen nhw eisiau mynd adref cyn gynted â phosib, felly mae'n debyg y bydd hynny'n digwydd y peth cyntaf yfory."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Corkrey o FSA Cymru fod cefnogaeth ar gael i'r teulu ganddyn nhw a'r gymdeithas bêl-droed

Fe roddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol deyrnged i Mr Davies, gan ddweud mai ef fu'n arwain y ddarpariaeth yn Sir Benfro nes iddo ymddeol.

"Gyda chalon drom iawn y clywsom yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am farwolaeth Kevin Davies," meddai'r ganolfan mewn datganiad.

"Un o garedigion yr iaith Gymraeg oedd Kevin, a braint oedd cydweithio ag ef wrth iddo arwain y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg yn Sir Benfro tan ei ymddeoliad.

"Elwodd miloedd o ddysgwyr y Gymraeg o'i ddi-dwylledd a'i ymroddiad.

"Gwnaeth hefyd gyfraniad mawr i waith Urdd Gobaith Cymru dros y blynyddoedd yn ei filltir sgwâr ac yn genedlaethol.

"Rydym yn estyn pob cydymdeimlad at ei deulu a'i ffrindiau."

Fe wnaeth llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor gadarnhau eu bod yn "cefnogi teulu dyn o Brydain sydd wedi marw yn Qatar".

Pynciau cysylltiedig