Person yn yr ysbyty ar ôl cael ei 'daflu' o reid Gŵyl y Gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Ice Skater
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch fod "adroddiadau o anafiadau difrifol"

Mae person wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl i dri pherson gael eu "taflu" o reid yng Ngŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r safle am 17:15 ddydd Sadwrn yn dilyn digwyddiad ar reid Ice Skater.

Cafodd un person ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas a dywedodd y trefnwyr y bydd "ymchwiliad llawn" i'r digwyddiad.

"Ry'n ni'n gweithio'n agos gyda'r rheiny sy'n rhedeg y reid a sefydliadau perthnasol i ymchwilio," medden nhw mewn datganiad.

"Bydd yn parhau ynghau tra bod hynny'n digwydd."

'Anafiadau difrifol'

Dywedodd un o staff Gŵyl y Gaeaf wrth BBC Cymru fod y reid ynghau ddydd Llun ac nad oedd yn sicr a fyddai'n ailagor ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae arolygwyr diogelwch yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad

Cadarnhaodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch fod ymchwiliad wedi dechrau i'r "adroddiadau o anafiadau difrifol ar reid yng Ngŵyl y Gaeaf yng Nghaerdydd".

"Cafodd tri o bobl eu taflu o'r reid - mae un yn parhau yn yr ysbyty," meddai llefarydd.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddan nhw'n cefnogi unrhyw ymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig