Pen-y-bont: Heddlu'n dal i holi tri ar ôl canfod cyrff dau fabi

  • Cyhoeddwyd
Fan heddlu a swyddogion tu ôl tŷ ar stad Y Felin-wyllt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyrff dau fabi eu canfod mewn tŷ ar stad Y Felin-wyllt yn nhref Pen-y-bont

Mae tri pherson yn dal i gael eu holi gan yr heddlu ar ôl i swyddogion ganfod cyrff dau fabi mewn tŷ ym Mhen-y-bont.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i heol Maes-y-felin ar stad Y Felin-wyllt ychydig cyn 20:00 nos Sadwrn 26 Tachwedd.

Mae dau ddyn, 37 a 47, ac un ddynes, 29, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gelu genedigaeth plentyn.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau fore Mercher fod cais wedi ei gymeradwyo yn Llys y Goron Casnewydd i gadw'r tri yn y ddalfa am 24 awr yn rhagor.

Dyma'r ail estyniad i'r llu gael - ar ôl iddyn nhw gael 36 awr ychwanegol i holi'r tri ddydd Llun.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Marc Attwell bod y digwyddiad yn un oedd yn "peri gofid" ac y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r llu.

Yn y cyfamser mae plismyn yn aros am ganlyniadau archwiliad post mortem ac archwiliadau fforensig er mwyn darganfod achos y marwolaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth degau i gynnau canhwyllau mewn gwylnos ar stad Y Felin-wyllt nos Fawrth

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl wedi bod yn gosod blodau ger y tŷ fel teyrnged i'r babanod

Fore Llun, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, fod y digwyddiad yn "sioc" ac yn "drasig".

"Mae pobl Wildmill [Y Felin-wyllt] yn cefnogi ei gilydd yn agos tra bod Heddlu De Cymru yn parhau â'u hymchwiliadau."

Ychwanegodd y cynghorydd lleol Steven Bletsoe, sy'n dod o'r ardal, ei bod yn bwysig nad yw pobl yn ceisio dyfalu beth ddigwyddodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd lleol Steven Bletsoe yn dod o'r ardal a dywedodd fod cymorth ar gael i bobl leol

"Maen nhw [yr heddlu] yn amlwg wedi arestio ac mae'n arestiad penodol iawn... mae angen i Heddlu De Cymru gael y gallu i edrych ar ffeithiau llawn yr achos hwn.

"Dwi'n gobeithio eu bod nhw [y bobl leol] i gyd yn iawn... mae'n amlwg yn hynod o drist."

Dywedodd bod cymorth ar gael i bobl Y Felin-wyllt ac y bydd gwylnos yn cael ei chynnal yn yr ardal nos Fawrth.

'O'dd e'n sioc'

Mae Charmaine Gardener-Ponting, 27, yn byw drws nesaf i'r tŷ sydd wedi ei archwilio gan yr heddlu, a dywedodd bod yr heddlu wedi cnocio ar ei drws yn hwyr nos Sadwrn.

"Roedden nhw'n gofyn cwestiynau am oedden ni wedi gweld y bobl drws nesaf, oedden ni'n gwybod eu henwau?" meddai.

"Cwestiynau am os oedden ni wedi sylwi ei bod hi'n disgwyl, neu bod plant o gwmpas - a dydyn ni heb.

"Dydw i erioed wedi ei gweld hi gyda phlentyn na sylwi bod hi'n disgwyl.

"Dy'ch chi'n sylwi pan mae rhywun drws nesa' yn cael babi fel arfer. Allwch chi glywed nhw'n crio neu weld nhw'n cerdded o gwmpas.

"Dy'n ni erioed wedi gweld babi na phlant felly o'dd e'n sioc."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r digwyddiad wedi bod yn sioc i Charmaine Gardener-Ponting, sy'n byw drws nesaf

Dywedodd nad oedd hi'n arfer gweld y fenyw sy'n byw yn y tŷ yn aml, ond yn gweld y ddau ddyn yn amlach.

"Welson ni nhw fore Sadwrn, ac wedyn yn y nos digwyddodd popeth.

"Roedden ni'n gwybod bod rhywbeth mawr wedi digwydd gyda'r tâp glas a'r heddlu'n aros yma.

"Ond bydden ni erioed wedi disgwyl bod babis yn cael eu darganfod yma."

'Synnu pawb'

Dywedodd un sy'n byw gerllaw, Jordan Mansell, ei fod yntau wedi cael sioc o weld yr heddlu.

"Fe welon ni'r heddlu'n dod allan o'r tŷ... mae'r cyfan wedi synnu pawb a bod yn onest," dywedodd.

"'Dych chi ddim yn disgwyl unrhyw beth fel 'na ydych chi, yn enwedig ar ben eich stryd."

Argraffiadau gohebydd BBC Cymru, Owain Evans o'r safle ddydd Llun

Ag eithrio presenoldeb y wasg a'r heddlu, mae hi'n dawel iawn ar stad Y Felin-wyllt bore 'ma.

Mae ambell un yn lleol wedi sôn am eu sioc ond prin yw'r bobl oedd yn adnabod y tri sydd wedi eu harestio.

Mae un o'r cynghorwyr lleol, Steven Bletsoe, yn dod o'r ardal hon. Mae e'n dweud ei bod hi'n bwysig nad yw pobl yn ceisio dyfalu beth sydd wedi digwydd ac mae e'n pwysleisio'r rheswm dros arestio'r tri, sef celu genedigaeth.

Mae'r newyddion yn sioc fawr ac yn peri loes i'r gymuned, meddai.

Mae yna gefnogaeth bugeiliol ar gael ac mae angen rhoi amser i'r heddlu ymchwilio i beth yn union ddigwyddodd.

Fe apeliodd yr Uwch-arolygydd Atwell o Heddlu De Cymru ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.

"Bydd llawer o blismyn yn yr ardal wrth i'n hymholiadau barhau ac ry'n yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i siarad â swyddogion," dywedodd.