Lefel Covid yng Nghymru ar ei isaf ers Medi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae lefelau covid yng Nghymru yn parhau i ostwng, ond mae 'na awgrym eu bod yn codi yn Lloegr

Mae nifer y bobl sydd wedi eu heintio â Covid yng Nghymru ar ei isaf ers dechrau Medi, yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd 39,600 - un o bob 75 o bobl - wedi eu heintio yn yr wythnos ddiwethaf, sy'n 1.3% o'r boblogaeth.

Dyma'r chweched wythnos yn olynol i'r lefel ostwng, ac mae'n cymharu â 45,400 wedi eu heintio yr wythnos gynt.

Daw'r ffigyrau wrth i amcangyfrifon awgrymu fod yr haint ar gynnydd yn Lloegr, gyda'r sefyllfa yn ansicr yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl yr ONS roedd yna ostyngiad mewn cyfradd yr heintiau ym mhob grŵp oedran yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, ond gyda'r gyfradd ychydig yn uwch ymysg pobl yn eu 40au hwyr a'u 50au cynnar.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf yn awgrymu fod gan 95.9% o oedolion Cymru rywfaint o wrthgyrff yn erbyn yr haint - o ganlyniad i frechiadau neu ar ôl cael eu heintio, sydd fymryn yn is na'r lefel drwy'r DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion yn awgrymu fod math newydd o amrywiolyn Omicron yn fwy amlwg yng Nghymru, ond dydy o ddim yn achosi mwy o bryder na'r lleill

Roedd nifer y cleifion ysbyty oedd yn profi'n bositif ar gyfer Covid erbyn 29 Tachwedd wedi disgyn hefyd, gydag 17 (8%) o'r rheiny mewn gwelyau gofal dwys yn cael eu trin yn bennaf ar ei gyfer.

Yn gyffredinol, mae nifer y cleifion ysbyty gyda Covid bellach yn is nag amcangyfrifon "mwyaf tebygol" modelau gwyddonwyr Llywodraeth Cymru.

Marwolaeth babi

Roedd Covid yn ffactor wnaeth gyfrannu at farwolaeth 21 o bobl yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 18 Tachwedd - y cyfanswm isaf ers diwedd Medi.

Ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod y feirws wedi cyfrannu at farwolaeth babi yng Nghymru, gafodd ei gofrestru ym mis Tachwedd.

Dyma'r tro cyntaf i blentyn dan un oed yng Nghymru farw o'r afiechyd.

Mae tri o blant rhwng un ac 14 wedi marw o achosion yn gysylltiedig â Covid yn ystod y pandemig.

Pynciau cysylltiedig