Y Senedd yn pleidleisio yn erbyn ymchwiliad Covid i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gwisgo masgFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pleidlais i annog y Senedd i gynnal ymchwiliad ei hun i'r ffordd gwnaeth Cymru ddelio gyda Covid wedi methu.

Roedd y gwrthbleidiau yn dweud y dylai grŵp trawsbleidiol o aelodau ymchwilio i ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig.

Roedd y bleidlais yn gyfartal 27-27, gyda'r aelodau Llafur wedi pleidleisio yn erbyn, a'r gwrthbleidiau o blaid.

Pan fo hynny'n digwydd, mae confensiwn yn dweud y dylai'r Llywydd Elin Jones ddefnyddio ei phleidlais i drechu'r cynnig.

Yn y ddadl dywedodd y Prif Weinidog y bydd yn rhoi cyfle arall i'r Senedd sefydlu pwyllgor i ymchwilio, ond y dylai hynny ddisgwyl tan y bydd ymchwiliad swyddogol Covid y DU ar ben.

Mae Mark Drakeford wedi gwrthod sawl cais gan y gwrthbleidiau a theuluoedd i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus Cymreig i Covid.

O ganlyniad, roedd y Ceidwadwyr - gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - eisiau i'r Senedd greu panel newydd o Aelodau Seneddol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arweiniodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ymateb Cymru i'r pandemig

Gobaith y gwrthbleidiau oedd y byddai'r pwyllgor yn edrych ar unrhyw beth sydd ddim yn cael ei ystyried gan ymchwiliad swyddogol y Deyrnas Unedig, dan arweiniad y Farwnes Hallett, a byddai'n cyhoeddi adroddiad erbyn Rhagfyr 2024.

Mae ffynonellau'r llywodraeth yn dweud y byddai hynny'n golygu bod ymholiadau'r Senedd ac ymchwiliad Hallett yn rhedeg ochr yn ochr.

Dylai ymchwiliad y Senedd aros i weld os oes 'na "gwestiynau heb eu hateb" yn deillio o adroddiad Hallett.

Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod yn parhau i gredu taw'r ymchwiliad Prydeinig yw'r ffordd orau i bobl gael atebion.

Ond dywedodd y ffynhonnell y bydd rhai teuluoedd eisiau sicrwydd rhag ofn na all ymchwiliad Hallett ateb eu holl gwestiynau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd iechyd y Torïaid, Russell George, ei bod yn "anhygoel fod Llafur unwaith eto wedi rhwystro ymdrechion i gael craffu ac atebolrwydd".

"Mae'n bosib mai'r diwrnod yma yw'r mwyaf cywilyddus yn hanes y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd - ac mae ganddyn nhw eisoes lawer iawn i fod â chywilydd ohono."

Ychwanegodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ei bod yn "siomedig iawn na wnaeth yr aelodau Llafur y peth iawn" a phleidleisio o blaid yr ymchwiliad.

"Os ydych chi eisiau mwy o bwerau yma yn y Senedd yng Nghymru yna fe ddylech chi gefnogi mwy o graffu ar y defnydd o'r pwerau hynny," meddai.

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth cyn y bleidlais nos Fercher bod yn "rhaid i ni achub ar bob cyfle i graffu ar Lywodraeth Cymru ar Covid, yn benderfyniadau da a drwg".