Caerdydd: Ymchwilio i adroddiad o ymosodiad rhyw

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau heddlu yn Nhreganna
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffordd sy'n rhedeg gyferbyn â Stryd Hamilton a Stryd Talbot ym Mhontcanna ynghau tra bo'r heddlu'n ymchwilio

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i adroddiad o ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd.

Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad ym Mhontcanna yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun.

Yn ôl y llu mae'r ffordd gyferbyn â Stryd Hamilton a Stryd Talbot ynghau tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Pynciau cysylltiedig