'Steddwch - y Diawliaid': Bwydlen Nadolig 1922
- Cyhoeddwyd

Tybed a gafodd R Williams Parry y 'Cwd a smonat gwichiaid' oedd ar fwydlen y British Hotel yn 1922?
Mae hi'n gyfnod y partïon Nadolig i sawl mudiad a chydweithwyr wrth i Ragfyr 25 agosáu.
Y cinio traddodiadol sydd fel arfer ar y fwydlen y dyddiau hyn, gyda thwrci, gŵydd neu dorth gnau yn cael ei gynnig.
Ond union gan mlynedd yn ôl i heddiw, 12 Rhagfyr, fe gynhaliwyd cinio Nadolig Prifysgol Bangor yn y British Hotel, Bangor, gyda bwydlen wahanol iawn.

Mae'r hen British Hotel ym Mangor bellach yn lety myfyrwyr
Un aelod o staff adran y Gymraeg oedd yn bresennol y noson honno oedd y Prifardd, R Williams Parry, awdur rhai o gerddi mwyaf poblogaidd y ganrif ddiwethaf fel Yr Haf, Y Llwynog, Eifionydd a cherddi coffa Hedd Wyn.
Ac mi fedrwn ni weld be gafodd o a'i gydweithwyr i'w fwyta gan fod y fwydlen wedi goroesi - ac mae'n rhestr ddifyr a dieithr iawn inni heddiw!

Union gan mlynedd yn ôl, roedd staff Prifysgol Bangor yn eistedd i lawr i fwynhau ei cinio Nadolig, a dyma oedden nhw'n ei gael i fwyta.
Ar y fwydlen y noson honno roedd:
"Cawl Alban neu Fôn gyda cwnffon ych" i ddechrau.
"Cwd a smonat gwichiaid"
"Asan frâs wedi rostio"
a "Llam rhost a nionod" fel prif gwrs.
I bwdin roedd:
"Pwdin cyraintsh"
"Tartan 'fala a cwstard"
a "Caws a buscuts" i orffen.
Nôl yn 1922 roedd y defodau cyn ac ar ôl y pryd bwyd wedi'u hamserlennu'n ofalus yn nhrefn y noson, oedd i gychwyn am 18:30.
Roedd llwncdestun i'r Brenin, i'r coleg, i'r gwesteion eu hunain, i'r merched, ac i'r aelodau newydd.
R Williams Parry oedd yn gyfrifol am gynnig llwncdestun i'r merched,
Ac ar ddechrau'r fwydlen, roedd gorchymyn i'r gwesteion: "Steddwch - y Diawliaid".
Ar ddiwedd y noson fe wnaeth yr holl aelodau oedd yn bresennol arwyddo cefn y fwydlen, ac mae enw R Williams Parry mewn pensel ymhlith y llofnodion hynny.
Ac ar ddiwedd y pryd bwyd roedd pawb yn bloeddio "Codwch - y Diawliaid!".
