Dau'n euog o lofruddio lleidr canabis yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Cafwyd hyd i Tomasz Waga yn farw yng Nghaerdydd y llynedd
Mae dau ddyn wedi'u cael yn euog o lofruddio dyn y cafwyd hyd i'w gorff ar ffordd yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Josif Nushi, 27, a Mihal Dhana, 29, y ddau o Gaerdydd, ladd Tomasz Waga, 23, wedi iddo geisio dwyn cyffuriau o ffatri ganabis - ffatri a oedd wedi'i lleoli mewn tŷ.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod corff Mr Waga wedi'i ganfod ar stryd ym Mhen-y-lan, Caerdydd ar 28 Ionawr 2021.
Cafwyd Hysland Aliaj, 31, yn euog o ddynladdiad.
Roedd dau ddiffynnydd arall, Gledis Mehalla a Mario Quato, eisoes wedi'u cael yn ddieuog o lofruddio.
Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth yr Ustus Cotter ddweud wrth y rheithgor am glirio enw Mr Mehalla gan nad oedd digon o dystiolaeth yn ei erbyn.
Ym mis Tachwedd cafwyd Mr Quato hefyd yn ddieuog o lofruddiaeth ac yn ddieuog o fod â rhan mewn unrhyw drosedd wedi'i threfnu.

Cafwyd hyd i gorff Tomasz Waga ym Mhen-y-lan, Caerdydd
Roedd y llys eisoes wedi clywed fod Tomasz Waga a'i ffrind Carl Davies wedi teithio i'r brifddinas o Lundain ar 28 Ionawr 2021.
Eu bwriad oedd torri mewn i ffatri ganabis ar Ffordd Casnewydd - ffatri oedd â phlanhigion gwerth £120,000.
Clywodd y rheithgor ymhellach bod gang a oedd yn "gyfrifol" am y ffatri wedi dod i'r safle ac ymosod ar y lladron.
Roedd Mr Waga wedi cael ei daro gyda bat pêl-fas, cansen fambŵ a hanner bricsen ac wedi'i anafu'n ddifrifol cyn cael ei lusgo o'r tŷ a'i daflu i gar.
Roedd wedi cael 25 o anafiadau i'w ben a'i geg, roedd cleisiau ar ei frest, niwed i'w asennau a'i freichiau a chwyddo ar ei ymennydd.
Wedi ei farwolaeth cafodd ei adael ar Ffordd Westville a daeth cerddwr o hyd iddo yn hwyrach y noson honno.

Mae Mihal Dhana (chwith) a Josif Nushi wedi'u cael yn euog o lofruddio Tomasz Waga
Dywedodd yr erlynydd Greg Bull KC wrth y rheithgor nad oedd hi'n fwriad gan y diffynyddion i ladd Mr Waga ond yn hytrach "achosi niwed difrifol a dysgu gwers iddo".
"Yn 2020 fe wnaeth gang o Albania sefydlu ffatri tyfu canabis yng Nghaerdydd - roedd hi mor llwyddiannus fel bod aelodau o'r gang yn barod i'w gwarchod, doed a ddelo," ychwanegodd.
Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher cafwyd aelodau o'r gang, Josif Nushi a Mihal Dhana, yn euog o lofruddiaeth a chafwyd un dyn arall, Hysland Aliaj, yn euog o ddynladdiad.
Wedi marwolaeth Mr Waga, fe ddihangodd Nushi, Dhana ac Aliaj i Albania ond maes o law cawsont eu hestraddodi i'r DU ar gyfer yr achos.
Cafwyd Nushi, o Ffordd Ninian, a Dhana, o Ffordd Colum, hefyd yn euog o achosi niwed bwriadol i Carl Davies, a chafwyd Aliaj yn euog o achosi niwed yn anghyfreithlon.
Mae'r tri wedi'u cadw yn y ddalfa ac fe fyddant yn cael eu dedfrydu ar 10 Ionawr, 2023.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2021