Bronwen Lewis: Deiagnosis ADHD yn 28 oed
- Cyhoeddwyd
Newidiodd bywyd y gantores Bronwen Lewis yn 2022 wrth iddi fynd yn ei char un diwrnod. Tra'n gwrando ar fenywod yn siarad ar y radio am eu profiadau o fyw gyda ADHD, sylweddolodd Bronwen fod eu straeon nhw yn adlewyrchu ei phrofiadau hi. Dyma gychwyn taith sy' wedi arwain at ddeiagnosis o ADHD yn 28 oed i'r berfformwraig o Gastell-nedd.
Rhannodd Bronwen ei stori gyda Cymru Fyw.
D'on i ddim wedi suspectio o gwbl (fod gen i ADHD) tan i fi glywed y raglen ar Radio 2 am ADHD mewn menywod - o'n i wastad yn meddwl bod ADHD (sef Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) fel bod yn Tasmanian devil trwy'r amser ac o'n i ddim wastad fel hwnna.
Pan o'n i'n clywed y menywod yn siarad, roedden nhw'n swnio fel fi ac roedd profiadau bywyd nhw yn debyg i rai fi. Dechreuais i grio yn y car. Roedd e fel y geiniog yn disgyn - o'r diwedd dwi'n gwybod pa lwybr i fynd lawr achos mae hwnna'n swnio fel fi.
Deiagnosis hwyr
Dwi'n credu bod fi'n un o'r rhai lwcus achos pan 'nes i tweetio (ar Twitter) am y profiad roedd pobl yn dweud 'ges i ddeiagnosis yn 58 oed' neu'n 30 oed, roedd lot o bobl yn hŷn na fi yn cael deiagnosis. Ac yn enwedig menywod achos mae menywod yn dda am masgio ADHD.
Byddai bod yn blentyn a mynd trwy TGAU a Lefel A wedi bod yn lot haws os bydden i'n gwybod sut oedd ymennydd fi'n gweithio.
Roedd profiadau y menywod (ar y radio) yn debyg i rai fi o ran delio 'da pethe yn yr ysgol ac yn gwaith - o'n i ddim yn gwybod bod bod yn freuddwydiol yn ran mawr o ADHD. Roedd pawb yn galw fi'n daydreamer yn yr ysgol ac oedd athrawon ddim yn gwybod pam bod fi ddim yn ffocysu.
O'n nhw'n meddwl bod fi'n rude neu diog - ond wrth gwrs ADHD oedd e. Hefyd mae cysylltiad rhwng epilepsy ac ADHD a ges i epilepsy fel plentyn.
Mae rhywbeth o'r enw Rejection sensitive dysphoria (RSD) gyda ADHD a phob tro mae rhywun yn rejectio fi mewn sefyllfa gwaith neu ffrind, mae fe'n ofnadwy i fi bob tro.
Mae hwnna yn anodd pan chi mewn sefyllfa gwaith yn y cyfryngau neu cerddoriaeth achos mae rejection yn digwydd trwy'r amser, o'n i ddim yn gwybod pam o'n i mor sensitif iddo fe. 'Oedd lot o ddagrau.
Gorddweud
Mae lot o bethau gwahanol yn ran o ADHD ac mae oversharing, neu gorddweud pethau i bobl, yn un arall ohonynt. Byddai'n cwrdd â rhywun mewn tafarn unwaith a dweud holl life story fi er bod fi ddim yn nabod nhw - o'n i'n mynd mewn i drwbl ar lwyfan am ddweud pethe dylen i ddim.
Hefyd dwi'n stryglo i ymlacio'n llwyr - dwi ffaelu gwylio rhaglen teledu i'r diwedd.
A dwi wastad yn ysgrifennu lists ar gyfer popeth - lists ar gyfer ffrindie neu pryd mae rhaid fi fynd i'r cawod yn y bore. Os dwi ddim yn ysgrifennu fe lawr byddai ddim yn neud e.
Dwi wastad yn hwyr i bopeth er bod fi yn trio bod ar amser.
A dwi'n gallu siarad dros bobl - os mae 'da fi rhywbeth i ddweud, mae'n rhaid i fi ddweud be sy' ar fy meddwl achos mae'n mynd mas o'r meddwl eitha clou - mae'n gallu bod yn annoying i bobl.
Mae fel impulse ac mae impulsive behaviour yn rhan mawr o ADHD. Dwi'n llawn tattoos ac mae hwnna'n rhan ohono fe hefyd - cymryd risgs ac impulsivity.
Meddyginiaeth
Ar ôl cael y deiagnosis y cam nesa' yw meddyginiaeth os chi moyn. Dyw meddyginiaeth ddim yn cymryd i ffwrdd y ffaith bod fi'n eitha ecsentrig ac yn llawn egni achos wrth gwrs mae hwnna'n rhan fawr o 'mhersonoliaeth i ar y llwyfan.
Maen nhw'n disgrifio y meddyginiaeth fel rhoi dy ymennydd mewn filing cabinet - mae pobl yn disgrifio ymennydd ADHD fel cyfrifiadur gyda 30 tab ar agor ac maen nhw gyd yn chwarae rhyw fath o gerddoriaeth ac yn siarad nôl â ti - mae fe'n chaotic a lot yn mynd ymlaen.
Beth mae meddyginiaeth yn gallu neud yw tynnu hwnna lawr i un tab ar y tro - a gallu ffocysu ar un peth ar y tro.
Newid bywyd
Ges i depressive episode yn 23 oed ac yn syth 'nath y doctor roi antidepressants i fi ac 'oedd hwnna yn erchyll. 'Nath yr antidepressants newid personoliaeth fi yn llwyr - o'n i ddim moyn perfformio na mynd mas o'r tŷ. Gobeithio bydd y meddyginiaeth 'ma lot mwy in tune 'da beth sy ishe arna'i.
Mae e wedi newid bywyd fi - dwi heb gael diwrnod depressive na diwrnod llawn anxiety ers i mi ddechre'r broses o gael y deiagnosis.
Dwi'n gwybod beth yw triggers fi nawr a dwi'n gwybod sut mae ymennydd fi'n gweithio.
Cyn hynny o'n i'n mynd mewn i bopeth yn ddall ac yn teimlo'n grac gyda fy hun am flynyddoedd - pam fi ffaelu neud hyn, pam mae hwn yn ypsetio fi?
Nawr dwi'n gallu siarad 'da pobl dwi'n gweithio gyda a esbonio fod ADHD da fi. Dwi moyn trio neud pethau fel pawb arall ond os dyw e ddim yn gweithio, mae'n rhaid cael plan b.
Ar ôl y deiagnosis o'n i'n teimlo mor hapus a relieved ond dwi wedi cael amser i feddwl am yr amser dwi wedi colli fel plentyn ac oedolyn ddim yn gwybod pwy oedden i. Ges i cwpl o ddiwrnodau yn teimlo'n grac bod neb wedi gweld e - pam doedd neb wedi gweld e?
Dwi wedi colli lot o amser yn meddwl bod fi'n dwp neu diog - hwnna oedd yn anodd.
Mae'n dda bod y cyfryngau yn siarad gyda menywod fel fi a gobeithio bydd menywod gartre yn gallu adnabod yr un symptomau.
Beth nesaf?
Mae Bronwen Lewis yn mynd ar daith dros Gymru a Lloegr blwyddyn nesaf yn perfformio.