Dinbych-y-pysgod: Tro pedol parc carafanau wedi cwynion ffioedd

  • Cyhoeddwyd
Parc Kiln
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth perchnogion carafanau ar safle Parc Kiln gyhuddo'r cwmni sy'n ei redeg o "drachwant corfforaethol" cyn iddyn nhw wneud tro pedol

Mae perchnogion carafanau yn Ninbych-y-pysgod wedi cael gwybod na fydd y cwmni sy'n rhedeg y safle yn adeiladu parc antur arno, gan gynyddu ei ffioedd blynyddol yn sylweddol, ar ôl iddyn nhw gwyno.

Fe wnaeth rhai o berchnogion y carafanau yn Sir Benfro gyhuddo cwmni Haven o fod yn "drachwantus" wrth ddeall y byddai'n rhaid iddyn nhw dalu hyd at £2,000 yn fwy na'r llynedd.

Roedd honiadau fod hynny'n rhannol i dalu am barc antur ac adnewyddu'r bar. Roedd y ffioedd wedi cynyddu hefyd yn sgil chwyddiant.

Mewn e-bost i gwsmeriaid, sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, fe wnaeth Haven gadarnhau ddydd Iau na fydd y cynllun i greu parc antur yn mynd yn ei flaen am y tro "oherwydd costau cynyddol adeiladu a deunyddiau".

Dywedon y bydd y gwaith yn cael ei ohirio nes 2024 ac y bydd unrhyw ffioedd yn ymwneud â chynllun y parc antur yn cael eu had-dalu yn y flwyddyn newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 60,000 o bobl yn ymweld â'r safle bob blwyddyn

Roedd gofyn i gwsmeriaid dalu £216 ychwanegol y flwyddyn i gyfrannu at ddatblygiad y parc antur.

Fe wnaeth un perchennog ddweud wrth BBC Cymru fod gwerthu ei garafán ym Mharc Kiln yn "rhyddhad" oherwydd y cynnydd mewn ffioedd.

Fe gyhuddodd un arall y cwmni o "drachwant corfforaethol" a diffyg tryloywder.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i gwmni Haven am sylw wedi i'r e-bost gael ei ddanfon at gwsmeriaid.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi ymddwyn yn "hollol dryloyw" wrth drosglwyddo'r neges am y ffioedd i gwsmeriaid.

Pynciau cysylltiedig